gan sanddef » Llun 12 Maw 2007 3:35 pm
Dw'i ddim wedi treulio lot o amser yn Ffrainc, ond y peth cyntaf gwnaeth Chirac fel arlywydd oedd ffrwydro bom niwclear yn y Cefnfor Tawel, gweithred sy'n dal i liwio fy marn amdano. Dw'i hefyd ddim yn hoff o'r math Americanaidd yma o arlywyddiaeth: Gweriniaethwr ydw i ond un sydd eisiau gweld arlywydd gyda rol sy'n debyg i arlywydd Iwerddon, arlywydd yr Almaen a Llywydd y Cynulliad, nid arlywydd yr UDA, arlywydd Ffrainc neu Faer Llundain. Byddai'n well gen i barhau efo'r Frenhiniaeth na fyw mewn gweriniaeth sy'n trosglwyddo cymaint o bwer i ddwylo un dyn.
Fe fydd Chirac, wrth gwrs, yn colli ei imwnedd gwleidyddol, felly fe fydd yn debyg o dreulio oriau maith yn y llysoedd yn wynebu cyhuddiadau o lygredd.
Meh