Chwadan a ddywedodd:Ella bo na rywbeth yn yr hyn ti'n ei ddweud
nagoes
mae hon yn ddadl sydd i'w gweld yn amlycach yn ddiweddar, ac ar yr olwg gynta mae'n rhaid cyfaddef ei bod yn apelio. Mae'n defnyddio dadl y chwith amgylcheddol yn ei herbyn ei hun; hynny ydi, mae'n ceisio creu'r argraff mai imperialwyr ydi'r mudiad amgylcheddol yn y bôn
syniad difyr. Ond ffycin bolycs
y gwir ydi (ac mae'n ddarganfyddiad rhyfeddol pan 'dach chi'n tyrchu o dan yr holl grap PR arwynebol) bod fwy neu lai
pob (96%) gwyddonydd perthnasol wedi hen dderbyn bod pobl yn gyfrifol am newid hinsawdd
Gwelir effaith pwysau'r dystiolaeth o blaid newid hinsawdd ar safbwyntiau sefydliadau fel y Cato Institute, sef un o arch-hyrwyddwyr y farchnad gwbl rydd. Dros y blynyddoedd mae nhw wedi ildio'n araf bach gam ar y tro. Yn gyntaf roedden nhw'n gwadu bod unrhyw newid hinsawdd yn digwydd o gwbl. Wedyn y ddadl oedd mai nid pobl oedd yn gyfrifol (fel petai hynny'n berthnasol rhywsut). Mae hyd yn oed Cato yn derbyn hynny i gyd bellach. Y cwestiwn mae nhw'n ei ofyn erbyn hyn ydi faint y dylem ei aberthu (h.y. cydbwyso'r mantais i'r amgylchedd yn erbyn y gost i'r economi). Gyda llaw, mae hwnna'n sicr yn gwestiwn digon dilys. Mentraf ddweud nad oes cweit digon wedi'i wneud hyd yma i'w ateb yn llawn. Economegydd ydi Bjorn Lomborg, un o brif ladmeryddion y sawl sy'n wrthwynebus i'r syniad o ymgyrchu'n erbyn newid hinsawdd, wedi'r cyfan.