Y Gorllewin yn Sathru ar y Tlawd

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Gorllewin yn Sathru ar y Tlawd

Postiogan rabscaliwn » Maw 13 Maw 2007 3:59 pm

Wrth iddi ddod yn amlwg mai myth yw'r holl falu awyr am ddiwedd y byd achos claimyt tshenj, ac yn arbennig y cachu rwtsh mai dyn sy'n gyfrifol, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn, pam? O ble ma' hyn i gyd wedi dod? Pwy sy'n elwa?

Mae'n gwbwl warthus fod y byd gorllewinol yn barod i fagu mythau fel hyn er mwyn lleffetheirio'r byd datblygedig, a chadw'u diwydiannau rhag datblygu i'r graddau fyddai'n eu galluogi i gyrraedd lefel o gyfoeth fyddai'n cyfateb i'r hyn ni'n fwynhau. Y rheswm yn amlwg yw am y byddai'n golygu fod y gorllewin yn dioddef o gael y fath gystadleuaeth.

Gwarth!
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Chwadan » Maw 13 Maw 2007 4:53 pm

Ella bo na rywbeth yn yr hyn ti'n ei ddweud (dwi'm yn deud bod na chwaith), ond be am i ti drio eto - gan gynnwys chydig bach o dystiolaeth... :?:
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Geraint » Maw 13 Maw 2007 5:04 pm

Dwi’n anhgytuno’n llwyr, mae newid hinsawdd yn realiti, mae wedi digwydd yn barod, ac mae’r barn gwyddonol nawr yn cefnogi y ffaith. Mae dyfodol ein bywyd mewn peryd – os bydd cynheshu yn creu positive feedbacks – gall fynd allan o rheolaeth tan iddi fod yn amhosib byw ar y blaned. Iawn mae’n amhosib gwybod yn sicr am y dyfodol, ond ma eu ddisytyru yn risg anferthol.

Meddyliwch am y peth – cymerodd hi milynau ar filyinau o flynyddoedd i blanhigion bydru i greu nwy/glo/olew. Nawr da ni’n rhyddhau y carbon mewn amser sydd yn amser geolegol yn chiwnciad chwanan, mae’n mynd i gael effaith mawr ar y byd.

Yn y gorllewin dechreuodd y chwyldro diwyllianol, gyda Cymru yn chwarae rhan flaenllaw dros ben gan ledu drost y byd. Tra ei fod wedi arwain at foethusrwydd ac estyn bywyd i rhai, mae’n bosib ei fod yn mynd i arwan at dioddefaint mawr yn y dyfodol. Mae gan y Gorllewin dylestwydd i geisio ffiendio ffyrdd newydd o fyw, ac helpu y gwledydd sy’n datblygu. Mae’n rhaid, achos os newidyth y gwledydd cyfoethog, neith o ddim gwahaniaeth tra bod y gwleydd trydydd byd yn parhau i lygru a llosgi tanwyddau ffosil.

Er hynny, dwi ddim yn gweld fod y gwledydd y 'byd gorllewinol' yn gwneud unrhyw beth agos at y pethau sydd angen gwneud.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Chwadan » Maw 13 Maw 2007 5:22 pm

Rhag ofn bod rabscaliwn wedi bod yn sbio ar Channel 4: wele...ac eto.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan rabscaliwn » Maw 13 Maw 2007 9:43 pm

Chwadan a ddywedodd:Rhag ofn bod rabscaliwn wedi bod yn sbio ar Channel 4: wele...ac eto.

Ei, diolch. Ma' hwn yn flog diddorol. (dim eironi)
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Nanog » Llun 19 Maw 2007 7:57 pm

Mae gan y Canghellor gynllunie i ddwbli trethi ar y ceir sy'n gwneud y mwyaf o ddrwg i newdid hinsawdd. Bydd hyn (codi'r trethi), yn digwydd yn raddol. Felly, mi fydd rhedgeg 4 x 4 neu 'sports car' yn costio rhyw £200 yn ychwanegol i'w rhedeg y flwyddyn. Gan fod lot o'r cerbydau 'ma yn costio degau o filioedd i'w prynnu yn y lle cynta', a wneith hyn wahaniaeth? Neu, ai dim ond ffordd arall o gael arian allan o'r cyhoedd yw hyn? Os yw'r ceir 'ma yn gwneud cymaint o ddrwg, pam na wneith a ragor i atal pobl eu gyrru?

http://business.timesonline.co.uk/tol/b ... 533942.ece

Stori arall diddorol yma.....

Camilla’s favourite silettos were flown 3,000 miles to Kuwait for her to wear - but she changed her mind the last minute

He has made much of efforts to reduce his carbon footprint.

But when it comes to his wife’s wardrobe demands, it seems Prince Charles will go to any lengths to stay on the right footing with Camilla.

The Duchess of Cornwall had a favourite pair of shoes flown 3,000 miles to Kuwait for a lavish dinner with senior members of the Kuwaiti royal family, it emerged last night.

After discovering to her horror that a pair of her killer heels had been forgotten by careless aides, a member of staff is said to have been ordered to find them at the couple’s Highgrove home and get them to her within 48 hours because they matched an outfit she had chosen for a gala event.

But astonishingly after the pair were flown over in the nick of time, Camilla decided not to wear them after all.

Ac wedyn David Cameron yn troi'n wyrdd wrth seiclo i'r gwaith.....a'i Chauffer yn dilyn yn ei gar mawr y tu ol iddo. Wedyn, mi hedfanodd i Gaerdydd mewn helicopter pythefnos yn ol......ac mae e'n gobeithio codi trethi trafaeli mewn awyrennau!

Mae'n rhaid edrych ar ol yr amgylchedd, ond a oes gan rhai pobl agenda arall?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Dylan » Mer 28 Maw 2007 10:57 pm

Chwadan a ddywedodd:Ella bo na rywbeth yn yr hyn ti'n ei ddweud

nagoes

mae hon yn ddadl sydd i'w gweld yn amlycach yn ddiweddar, ac ar yr olwg gynta mae'n rhaid cyfaddef ei bod yn apelio. Mae'n defnyddio dadl y chwith amgylcheddol yn ei herbyn ei hun; hynny ydi, mae'n ceisio creu'r argraff mai imperialwyr ydi'r mudiad amgylcheddol yn y bôn

syniad difyr. Ond ffycin bolycs

y gwir ydi (ac mae'n ddarganfyddiad rhyfeddol pan 'dach chi'n tyrchu o dan yr holl grap PR arwynebol) bod fwy neu lai pob (96%) gwyddonydd perthnasol wedi hen dderbyn bod pobl yn gyfrifol am newid hinsawdd

Gwelir effaith pwysau'r dystiolaeth o blaid newid hinsawdd ar safbwyntiau sefydliadau fel y Cato Institute, sef un o arch-hyrwyddwyr y farchnad gwbl rydd. Dros y blynyddoedd mae nhw wedi ildio'n araf bach gam ar y tro. Yn gyntaf roedden nhw'n gwadu bod unrhyw newid hinsawdd yn digwydd o gwbl. Wedyn y ddadl oedd mai nid pobl oedd yn gyfrifol (fel petai hynny'n berthnasol rhywsut). Mae hyd yn oed Cato yn derbyn hynny i gyd bellach. Y cwestiwn mae nhw'n ei ofyn erbyn hyn ydi faint y dylem ei aberthu (h.y. cydbwyso'r mantais i'r amgylchedd yn erbyn y gost i'r economi). Gyda llaw, mae hwnna'n sicr yn gwestiwn digon dilys. Mentraf ddweud nad oes cweit digon wedi'i wneud hyd yma i'w ateb yn llawn. Economegydd ydi Bjorn Lomborg, un o brif ladmeryddion y sawl sy'n wrthwynebus i'r syniad o ymgyrchu'n erbyn newid hinsawdd, wedi'r cyfan.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Mer 28 Maw 2007 11:13 pm

cyn i unrhyw un ddechrau mwydro, nid maint y newid ei hun yn yr hinsawdd sy'n peri'r holl ofid 'ma i wyddonwyr. Mae ambell wadwr yn ceisio cyfeirio at newidiadau "naturiol" tebyg yn y gorffennol. Ac mae'n wir bod nifer o'r newidiadau hynny, o ran gwahaniaeth tymheredd pur, wedi bod yn sylweddol. Lot mwy na'r hyn 'dan ni'n sôn amdano heddiw.

Ond nid maint y newid ydi'r broblem o gwbl. Yn hytrach, yr hyn y dylem fod yn dechrau meddwl cachu trôns amdano ydi'r ffaith bod y newid presenol yn digwydd mor blydi gyflym. Mater o ddegawdau. Roedden ni'n sôn am ganrifoedd os nad miloedd o flynyddoedd 's'lawer dydd.

Gyda llaw, un peth o du carfan yr amgylcheddwyr sy'n mynd ar fy nerfau. 'Dydi hyn i gyd ddim yn peryglu'r blaned o gwbl. Bydd y blaned yn parhau i fodoli ymhell bell ar ôl i ni ddiflannu. Rhagfarn anthropomorffaidd pur sydd wrth wraidd hynny. Yr hyn sydd mewn perygl mewn gwirionedd ydi ein cynefin ni ein hunain. Ein gallu ni i fyw ar y peth bach crwn 'ma 'dan ni'n ei alw'n gartref.

Mi fedrwn addasu, mae'n siwr. Ond wrth i ni ddatblygu fwy yn dechnolegol, y mwya' bregus 'dan ni'n mynd o ran newidiadau sydyn yn yr amgylchedd. Yn y bôn, os nad 'dan ni'n newid pethau reit handi, fedrwn ni ddweud tata i rannau eitha' helaeth o Bangladesh o fewn fy einioes i.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Nanog » Gwe 07 Medi 2007 10:31 am

Dylan a ddywedodd:cyn i unrhyw un ddechrau mwydro, nid maint y newid ei hun yn yr hinsawdd sy'n peri'r holl ofid 'ma i wyddonwyr. Mae ambell wadwr yn ceisio cyfeirio at newidiadau "naturiol" tebyg yn y gorffennol. Ac mae'n wir bod nifer o'r newidiadau hynny, o ran gwahaniaeth tymheredd pur, wedi bod yn sylweddol. Lot mwy na'r hyn 'dan ni'n sôn amdano heddiw.

Ond nid maint y newid ydi'r broblem o gwbl. Yn hytrach, yr hyn y dylem fod yn dechrau meddwl cachu trôns amdano ydi'r ffaith bod y newid presenol yn digwydd mor blydi gyflym. Mater o ddegawdau. Roedden ni'n sôn am ganrifoedd os nad miloedd o flynyddoedd 's'lawer dydd.

Gyda llaw, un peth o du carfan yr amgylcheddwyr sy'n mynd ar fy nerfau. 'Dydi hyn i gyd ddim yn peryglu'r blaned o gwbl. Bydd y blaned yn parhau i fodoli ymhell bell ar ôl i ni ddiflannu. Rhagfarn anthropomorffaidd pur sydd wrth wraidd hynny. Yr hyn sydd mewn perygl mewn gwirionedd ydi ein cynefin ni ein hunain. Ein gallu ni i fyw ar y peth bach crwn 'ma 'dan ni'n ei alw'n gartref.

Mi fedrwn addasu, mae'n siwr. Ond wrth i ni ddatblygu fwy yn dechnolegol, y mwya' bregus 'dan ni'n mynd o ran newidiadau sydyn yn yr amgylchedd. Yn y bôn, os nad 'dan ni'n newid pethau reit handi, fedrwn ni ddweud tata i rannau eitha' helaeth o Bangladesh o fewn fy einioes i.

:ofn: Gwylia hwn
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Griff-Waunfach » Gwe 07 Medi 2007 1:24 pm

Nanog a ddywedodd:

Reit... ma'r rhaglen yna yn wan rili, onid pwrpas y cyfres yna yw i 'stir up some shit' ynglyn a pethau fel hyn? Dyw e ddim rili yn mynd ati i edrych mewn i'r peth yn wrthrychol. Pwynt y peth yw i weindio pobl lan.

Plus nage fe oedd y boi oedd ar Sabrina the Teenage Witch?
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron