Mae David Fornès, golygydd y wefan Catalaneg “Món Divers” http://www.mondivers.cat (Byd o Amrywiaeth) yn holi am fanylion cysywllt unrhyw Cymry sy'n byw yng Nghatalonia / Ynysoedd Balears / ardal Valencià?
Plis... rhowch wybod os ydach chi'n nabod unrhywun o Gymru allan yno? Mae Món Divers yn brosiect arbennig o dda, rwyf yn ceisio cynorthwyo gyda wybodaeth am Gymru – dwi'n cymryd eu bod nhw'n chwilio am rhywun yn nes atynt y gallent eu holi.
Os rydach chi'n gwybod am rhywun yno, buaswn yn hynod o ddiolchgar petai chi'n gallu rhoi neges preifat trwy MaesE (cliciau 'Neges' ochr chwith y sgrin o dan Ugain i Un.
Llawer o ddiolch
Huw