gan Seonaidh/Sioni » Sul 04 Ion 2009 9:03 pm
Unwaith, digwyddodd i'r hen UWSS gronni tanciau yn agos at y ffin Swedig. Be wnaeth y Swediaid? Lansio rocedi? Bomio? Naddo - wnaethan nhw godi ffensi gwrth-danc ar hyd eu ffin (efo Suomi, mae'n debyg).
Sut rhoddasid hwb i, dyweder, y Fyddin Weriniaethol Wyddelig, Nerth Gwirfoddolwyr Uladh ac ati? Gan gaethiwed, trais a gor-wneud. Lladdwyd rhai ym Manceinion, Llundain ac ati oherwydd hynny, swn i'n credu. Cofia - dim lansio rocedi yn y gobaith bydden nhw'n glanio ar dy a lladd rhywun, ond gosod bomiau ymhlith ardaloedd poblogaidd. Yn sgil hynny, wrth gwrs, lansiodd Llywodraeth Prydain ymosodiadau bomio ar Ogledd Iwerddon a choncro lle efo thrymder llwyr ei byddin. Wel, nid felly yn union fel digwyddodd, os ti'n cofio'n iawn. Darfu i'r llywodraeth sylweddoli, o'r diwedd, nad dyna fyddai ddatrys y broblem.
Gobeithio bydd llywodraeth Israel yn sylweddoli hyn hefyd - CYN i bawb gael eu terfysgu i mewn i ryw ryfel byd-eang.
Be nesa - Iaweh vs. Al-lah efo'r Iesu fel refferi? Ond maen nhw i gyd yn un!
A bheil thu gam aithneachadh?