Tudalen 1 o 3

Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Iau 29 Maw 2007 7:55 am
gan Aran
http://www.avaaz.org/en/real_middle_east_talks/

Gwerth edrych ar hyn, am wn i. Mae Avaaz.org yn gwneud gwaith da iawn.

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Sad 03 Ion 2009 10:04 pm
gan Madrwyddygryf
Er dwi'n gwybod fy mod yn amhlobogaidd wrth ddweud hyn ond beth oedd Hamas y disgwyl. Digon teg bod Israel yn gor wneud hi, ond diawch os di Hamas yn mynnu danfonnau rocedi mewn i Israel, beth arall fedrith yr Israeliaid gwneud tybed?

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2009 9:03 pm
gan Seonaidh/Sioni
Unwaith, digwyddodd i'r hen UWSS gronni tanciau yn agos at y ffin Swedig. Be wnaeth y Swediaid? Lansio rocedi? Bomio? Naddo - wnaethan nhw godi ffensi gwrth-danc ar hyd eu ffin (efo Suomi, mae'n debyg).

Sut rhoddasid hwb i, dyweder, y Fyddin Weriniaethol Wyddelig, Nerth Gwirfoddolwyr Uladh ac ati? Gan gaethiwed, trais a gor-wneud. Lladdwyd rhai ym Manceinion, Llundain ac ati oherwydd hynny, swn i'n credu. Cofia - dim lansio rocedi yn y gobaith bydden nhw'n glanio ar dy a lladd rhywun, ond gosod bomiau ymhlith ardaloedd poblogaidd. Yn sgil hynny, wrth gwrs, lansiodd Llywodraeth Prydain ymosodiadau bomio ar Ogledd Iwerddon a choncro lle efo thrymder llwyr ei byddin. Wel, nid felly yn union fel digwyddodd, os ti'n cofio'n iawn. Darfu i'r llywodraeth sylweddoli, o'r diwedd, nad dyna fyddai ddatrys y broblem.

Gobeithio bydd llywodraeth Israel yn sylweddoli hyn hefyd - CYN i bawb gael eu terfysgu i mewn i ryw ryfel byd-eang.

Be nesa - Iaweh vs. Al-lah efo'r Iesu fel refferi? Ond maen nhw i gyd yn un!

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2009 9:06 pm
gan yavannadil
Duw a ddywedodd:A ddyle UDA/TU a'u "ffrindie" fod wedi helpu sefydlu Israel yn y lle cynta?


Efallai mae hawl ei gwlad ei hunan gan pob pobl...

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Mer 07 Ion 2009 11:11 pm
gan Duw
yavannadil a ddywedodd:
Duw a ddywedodd:A ddyle UDA/TU a'u "ffrindie" fod wedi helpu sefydlu Israel yn y lle cynta?


Efallai mae hawl ei gwlad ei hunan gan pob pobl...


Dwi ddim yn dweud llai, ond mae angen meddwl yn ofalus cyn mynd ati a thaflu pobl allan o'u cartrefi a gosod llywodraeth estron arnynt. Mae angen gofyn y cwestiwn, "Pa mor 'ansefydlog' fydde'r Dwyrain Canol os nac oedd Israel yn bodoli (heb ei sefydlu yn y lle cynta)?" Dwi ddim yn meddwl fydd creithiau'n gwella ar ol rhyw 50 blynedd yn unig. Efallai bydd angen canrifoedd tan fydd sefydlogrwydd yn yr ardal.

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 9:31 am
gan yavannadil
Delwedd

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Sad 10 Ion 2009 5:54 pm
gan Nanog


Gwarthus! Da iawn 'Channel 4 news'

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Sul 18 Ion 2009 2:11 am
gan 7ennyn
Mae gwladwriaeth Israel a Hamas cyn waethed a'u gilydd. Cywilydd arnyn nhw. A chywilydd arnat ti yavannadil!

A syrpreis, syrpreis! Mae Israel wedi cyhoeddi cadoediad - gwta ddeuddydd cyn i Barack Obama gymeryd yr awenau yn yr UDA. Mae nhw'n gwybod y bydd agwedd y weinyddiaeth newydd tuag at y dwyrain canol yn wahanol i'r un bresenol. A dyna pam mae nhw wedi ymosod mor ffiaidd ar boblogaeth caeth llain Gaza rwan - tra medran nw gael 'get away' hefo'r peth.

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Sul 18 Ion 2009 12:08 pm
gan Duw
Fel plant Duw Ei Hun, mae gan yr Iddewon perffaith hawl i wneud fel a mynnon nhw. Wedi'r cyfan, cawsant eu trin yn ofnadwy gan y Nazis, felly mae nawr ganddynt y esgus i wneud yr un fath beth i drigolion Gaza. Llygad am lygad, ond yn achos yr Iddewon, 2000 o gyrff am lygad.

Gobeithio bydd UDA/TU nawr yn troi'u cefn ar y barbariaid hyn. Hoffwn hefyd bod y rhai o Hammas a wnaeth saethu'r rocedi'n gorfod cymryd rhan o'r bai a chael eu saethu eu hunain.

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Sul 18 Ion 2009 7:29 pm
gan Chickenfoot
Dwyn tir pobl eraill oherwydd fod rywbeth yn y gofod wedi gaddo mewn llyfr mai chi yw ei go-to guys = byth yn syniad da.
Lladd pobl jest am ei bod nhw'n Israeliaid = syniad drwg hefyd.


Dydi dwyn gwlad rywun arall er mwyn ffoi'r gorffennol - pa bynnag mor erchyll oedd o - ddim yn syniad da.