yavannadil a ddywedodd:Y tro'ma, dechreodd popeth wrth Hamas saethu kasam'au at ysgolion a thai Israel, os dw i' cofio yn gywir.
Mae pob dadl sy'n trio cyfiawnhau y trosedd ffiaidd yma yn seiliedig ar yr honiad mai Hamas ddechreuodd drwy dorri'r cadoediad a bod na DDIM opsiwn arall i Israel druan annwyl diniwed i "amddiffyn" ei hun.
Mae'n siomedig bod rhan fwyaf o'r dadleuon ynglŷn a hyn wedi methu pwyntio allan bod hynnu yn bolycs llwyr o'r dechra i'r diwedd, gan nid yw'n anodd ymchwilio fewn i'r mater.
Mae nifer o grwpiau wedi taro Israel efo rocedi a mortars yn 2008. Yn ystod y cadoediad (Mehefin- 5 Tachwedd), ni darodd Hamas unrhywbeth at Israel. I'r gwrthwyneb, roeddynt yn annog i'r grwpiau arall beidio gwneud hefyd. Ond roedd yna rhai(chydig iawn i gymharu a be oedd o) yn cael eu saethu beth bynnag oherwydd nad oedd y grwpiau eraill yn ffarfiol o Hamas (er engraifft, yr Al-asqa martyrs brigade).
Wedyn ar Dachwedd 4 ymosododd Israel yn ddi-rybydd ar Gaza gan ladd 6 aelod o Hamas. Hamas yn ailddechra tanio diwrnod wedyn. Y cadoediad drosodd.
Felly Israel dorodd y cadoediad, nid Hamas.
Felly i ateb y cwestiwn y nytar plentynaidd - Beth i neud efo Hamas? Cadw at y ffycing cadoediad!
(Sa'r neges ma fwy manwl os sa gen i amsar)