Tudalen 2 o 3

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Llun 19 Ion 2009 12:03 pm
gan yavannadil
7ennyn a ddywedodd:Mae gwladwriaeth Israel a Hamas cyn waethed a'u gilydd.


Yn wir! Felly, beth yw'r gwahaniaeth? Mae gan Israel awyrennau, mae gan Hamas bomiau byw; dw i'n meddwl gallaf i dewis ochr fel mynnaf i.

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Llun 19 Ion 2009 12:18 pm
gan Nanog
Y disnistr:

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle ... 836869.stm

"
2UN official John Ging said half a million people had been without water since the conflict began, and huge numbers of people were without power."


Ydy chi'n cofio rhai wythnose 'nol y tanciau dwr 'na yn cael eu dwyn neu difrodi yn y Rhondda pan nad oedd ganddynt ddwr? Sdim eisiau dweud mwy....

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Llun 19 Ion 2009 7:57 pm
gan Seonaidh/Sioni
Duw a ddywedodd:Fel plant Duw Ei Hun, mae gan yr Iddewon perffaith hawl i wneud fel a mynnon nhw. Wedi'r cyfan, cawsant eu trin yn ofnadwy gan y Nazis, felly mae nawr ganddynt y esgus i wneud yr un fath beth i drigolion Gaza. Llygad am lygad, ond yn achos yr Iddewon, 2000 o gyrff am lygad.

Gan y Nazis, gan bron pawb yn Ewrop ar un pryd neu'i gilydd. A'r Sipsis nhwthau. Ond ble, gofynnaf, mae "cartefwlad" y Sipsis truain? Wedi cael eu hanghofio am ryw reswm.

Am "blant Duw ei Hun", rwtsh. Dyma gred y Mormonaid hefyd, dyma gred Tystiau Jehofa, dyma gred amryw i bobl - cenhedlau neu grwpiau ffydd - o gwmpas y byd. Rwtsh i gyd. Os mai "plentyn Duw" ydy neb, yna mae PAWB yn blentyn Duw.
Does 'na ddim "hil ddewisedig", fel a honiai Hitler ac ati. Felly, os am wrthod cred y Nazis, mae'n canlyn byddi di'n gwrthod cred y Zionists. Sylw - dim byd yn erbyn Iddewon, na hyd yn oed Israel, ond Zionaeth - eu fersiwn nhw o bethau fel ein BNP ni ac ati.

Peidia rhyfel pan wrthodwm ni frwydro.

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Llun 19 Ion 2009 9:27 pm
gan 7ennyn
yavannadil a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:Mae gwladwriaeth Israel a Hamas cyn waethed a'u gilydd.


Yn wir! Felly, beth yw'r gwahaniaeth? Mae gan Israel awyrennau, mae gan Hamas bomiau byw; dw i'n meddwl gallaf i dewis ochr fel mynnaf i.

Nid rhyw ornest reslo er mwyn dy adloniant di ydi hi yavannadil! Mae yna bobl yn dioddef go iawn - plant bach wedi eu rhwygo'n dameidiau neu eu claddu dan rwbel. Tyfa i fyny 'ngwas i!

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Llun 19 Ion 2009 10:29 pm
gan Hedd Gwynfor
yavannadil a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:Mae gwladwriaeth Israel a Hamas cyn waethed a'u gilydd.


Yn wir! Felly, beth yw'r gwahaniaeth? Mae gan Israel awyrennau, mae gan Hamas bomiau byw; dw i'n meddwl gallaf i dewis ochr fel mynnaf i.


Y gwahaniaeth efallai yw bod byddin Israel wedi llad dros 1,300 tra bod Hamas wedi lladd 13 (1%) yn yr un cyfnod.

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Maw 20 Ion 2009 2:11 am
gan Duw
Sioni - wyt ti wedi clywed am eironi? Wyt ti ar gyffurie neu beth? :rolio:

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Maw 20 Ion 2009 12:44 pm
gan yavannadil
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Y gwahaniaeth efallai yw bod byddin Israel wedi llad dros 1,300 tra bod Hamas wedi lladd 13 (1%) yn yr un cyfnod.


Y tro'ma, dechreodd popeth wrth Hamas saethu kasam'au at ysgolion a thai Israel, os dw i' cofio yn gywir. Mae Iddewon yn dweud bod nifer y meirw yn isel oherwydd cyfundrefn larwm a chysgodau, yn benodol dim oherwydd dymuniad Hamas.
Felly, beth ydych chi'n awgrymu i'r Iddewon? Aros cyn 1,300 dyn marw eu hyn? Neu gofyn terfysgwyr i ddod i gae agored? Neu anfon i Aza milwyr â chyllyll?

A gyda llaw, faint o 1,300 ydy terfysgwyr?

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Maw 20 Ion 2009 12:53 pm
gan yavannadil
7ennyn a ddywedodd:
yavannadil a ddywedodd:
7ennyn a ddywedodd:Mae yna bobl yn dioddef go iawn - plant bach wedi eu rhwygo'n dameidiau neu eu claddu dan rwbel.


Yn wir, mae IDF yn ymladd dros plant bach (Israel) wedi eu rhwygo'n dameidiau neu eu claddu dan rwbel. Beth i'w wneud ag Hamas?

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Mer 21 Ion 2009 9:59 pm
gan Seonaidh/Sioni
yavannadil a ddywedodd:Y tro'ma, dechreodd popeth wrth Hamas saethu kasam'au at ysgolion a thai Israel, os dw i' cofio yn gywir. Mae Iddewon yn dweud bod nifer y meirw yn isel oherwydd cyfundrefn larwm a chysgodau, yn benodol dim oherwydd dymuniad Hamas.
Felly, beth ydych chi'n awgrymu i'r Iddewon? Aros cyn 1,300 dyn marw eu hyn? Neu gofyn terfysgwyr i ddod i gae agored? Neu anfon i Aza milwyr â chyllyll?

A gyda llaw, faint o 1,300 ydy terfysgwyr?

Mae pobl Palesteina wedi colli rhan helaeth o'u gwlad oherwydd euogrwydd yr Ewropeaid a'r Americanwyr tuag at yr Iddewon. Dyma ddau beth anghywir - ac ni wnant "cywir" o gwbl. Tra bydd yr Iddewon yn mynnu cael gwlad grefyddol yno, bydd problemau efo'r Palesteiniaid. Sdim ots ai Hamas ai Hezb Allah ai Al Fatah ai pwy bynnag, oni ddaw cyfiawnder i bawb yno (ac mae hyn yn CYNNWYS yr Iddewon) bydd trafferth. A bon y broblem yw uchelgais Israel.

Ond, gwaeth fyth i'r byd, oni ddaw newid sylweddol yn y gyfundrefn, bydd pethau fel rocedi Hamas, bomio Israel ac ati fel picnic wrth gymharu ag a ddigwydd. Rhaid siarad, rhaid trafod. Dydy safbwyntiau fel un Yavannadil ddim yn helpu o gwbl.

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2009 12:56 pm
gan Dan Dean
yavannadil a ddywedodd:Y tro'ma, dechreodd popeth wrth Hamas saethu kasam'au at ysgolion a thai Israel, os dw i' cofio yn gywir.

Mae pob dadl sy'n trio cyfiawnhau y trosedd ffiaidd yma yn seiliedig ar yr honiad mai Hamas ddechreuodd drwy dorri'r cadoediad a bod na DDIM opsiwn arall i Israel druan annwyl diniwed i "amddiffyn" ei hun.

Mae'n siomedig bod rhan fwyaf o'r dadleuon ynglŷn a hyn wedi methu pwyntio allan bod hynnu yn bolycs llwyr o'r dechra i'r diwedd, gan nid yw'n anodd ymchwilio fewn i'r mater.

Mae nifer o grwpiau wedi taro Israel efo rocedi a mortars yn 2008. Yn ystod y cadoediad (Mehefin- 5 Tachwedd), ni darodd Hamas unrhywbeth at Israel. I'r gwrthwyneb, roeddynt yn annog i'r grwpiau arall beidio gwneud hefyd. Ond roedd yna rhai(chydig iawn i gymharu a be oedd o) yn cael eu saethu beth bynnag oherwydd nad oedd y grwpiau eraill yn ffarfiol o Hamas (er engraifft, yr Al-asqa martyrs brigade).
Wedyn ar Dachwedd 4 ymosododd Israel yn ddi-rybydd ar Gaza gan ladd 6 aelod o Hamas. Hamas yn ailddechra tanio diwrnod wedyn. Y cadoediad drosodd.

Felly Israel dorodd y cadoediad, nid Hamas.

Felly i ateb y cwestiwn y nytar plentynaidd - Beth i neud efo Hamas? Cadw at y ffycing cadoediad!

(Sa'r neges ma fwy manwl os sa gen i amsar)