Tudalen 3 o 3

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2009 12:56 pm
gan Dan Dean
yavannadil a ddywedodd:Y tro'ma, dechreodd popeth wrth Hamas saethu kasam'au at ysgolion a thai Israel, os dw i' cofio yn gywir.

Mae pob dadl sy'n trio cyfiawnhau y trosedd ffiaidd yma yn seiliedig ar yr honiad mai Hamas ddechreuodd drwy dorri'r cadoediad a bod na DDIM opsiwn arall i Israel druan annwyl diniwed i "amddiffyn" ei hun.

Mae'n siomedig bod rhan fwyaf o'r dadleuon ynglŷn a hyn wedi methu pwyntio allan bod hynnu yn bolycs llwyr o'r dechra i'r diwedd, gan nid yw'n anodd ymchwilio fewn i'r mater.

Mae nifer o grwpiau wedi taro Israel efo rocedi a mortars yn 2008. Yn ystod y cadoediad (Mehefin- 5 Tachwedd), ni darodd Hamas unrhywbeth at Israel. I'r gwrthwyneb, roeddynt yn annog i'r grwpiau arall beidio gwneud hefyd. Ond roedd yna rhai(chydig iawn i gymharu a be oedd o) yn cael eu saethu beth bynnag oherwydd nad oedd y grwpiau eraill yn ffarfiol o Hamas (er engraifft, yr Al-asqa martyrs brigade).
Wedyn ar Dachwedd 4 ymosododd Israel yn ddi-rybydd ar Gaza gan ladd 6 aelod o Hamas. Hamas yn ailddechra tanio diwrnod wedyn. Y cadoediad drosodd.

Felly Israel dorodd y cadoediad, nid Hamas.

Felly i ateb y cwestiwn y nytar plentynaidd - Beth i neud efo Hamas? Cadw at y ffycing cadoediad!

(Sa'r neges ma fwy manwl os sa gen i amsar)

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2009 1:23 pm
gan yavannadil
Dan Dean a ddywedodd:nytar


Esgusodwch fi, beth ydy'r gair'ma yn golygu? Fethais i dod o'i hyd o...

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2009 2:31 pm
gan ceribethlem
yavannadil a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:nytar


Esgusodwch fi, beth ydy'r gair'ma yn golygu? Fethais i dod o'i hyd o...

nutter yn y ffordd mwy Cymraeg. Rhywun bonkers.

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Iau 22 Ion 2009 2:54 pm
gan yavannadil
ceribethlem a ddywedodd:nutter yn y ffordd mwy Cymraeg. Rhywun bonkers.


Diolch!

Re: Galwad am heddwch rhwng Israel a Phalesteina

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 11:45 am
gan ITV Local Cymru
Yr wythnos hon ar Y Byd ar Bedwar, bydd y gohebydd Eifion Glyn yn Gaza.

Am flas o'r rhaglen a chyfweliad egscliwsif gydag Eifion Glyn ewch i:

http://www.itvlocal.com/cymru/y_byd_ar_bedwar/