Cymedrolwr: Chwadan
Foel Gornach a ddywedodd: Yn bersonol cytunaf a barn Henry Richard, yr Apostol Heddwch ac AS Merthyr Tudful, taw'r peth gorau a allai wedi digwydd i'r UDA fyddai rhannu adeg y Rhyfel Cartref. Nid oedd gan y rhyfel hwnnw ddim oll i'w wneud a chaethwasiaeth, esgus oedd hwnnw. Pwrpas y rhyfel oedd cadw undod er mwyn bod yn 'superpower'.
Foel Gornach a ddywedodd:
Mae unigolion, cymdeithasau a mudiadau gwych yn yr UDA sy'n ysbrydoliaeth i'r gweddill ohonom, sy'n brwydro'n ddewr yn erbyn yr imperialaeth atgas sy'n cael ei fynegi nawr. Diolch i Dduw amdanynt hwy.
Rhobert Ap Wmffre a ddywedodd:Er roedd pwrpas swyddogol yr Undeb o dan Abraham Lincoln yn ystod y Rhyfel Cartref yn gadw undod yr wlad, roedd caethwasanaeth yn sylwedd y dadl rhwng y taleithiau. Roedd yr wlad yn estyn dros y cyfandir (ac wrth gwrs, yn disodli'r Americanwyr brodorol a'r Mecsicaniaid yn ôl athroniaeth hiliol o "Manifest Destiny"),
Abraham Lincoln yn 1862 a ddywedodd:My paramount object in this struggle is to save the Union, and it is not either to save or destroy slavery. If I could save the Union without freeing one slave, I would do it; and if I could do it by freeing all the slaves, I would do it. What I do about slavery and the coloured race, I do because it helps to save the Union; and what I forebear because I do not believe it would help the Union.
Dyfyniad o’i gofiant Henry Richard a ddywedodd:…lest the people and Government of the United States, hitherto so free from the military traditions and its inevitable intoxication for military glory (ychydig o or-ddweud fynna!!), should seek with its vast armies and navies to arrogate to itself the position of a great military power, and become a menace to the peace of the world.
Henry Richard a ddywedodd:…it would have been far better to have seen the garland of victory for this great deliverence placed on the brow of the Prince of Peace, instead of being transferred to the head of ‘Moloch – horrid king ! besmeared with blood,’ to enhance his glory and perpetuate his brute dominion over the minds and hearts of men.
Dili a ddywedodd:Bu llawer o sôn o dro i dro am wrth-Americaniaeth rhai ar y Maes – term digon diystyr i ddisgrifio’r rhai sy’n gwrthwynebu polisi tramor yr Unol Daleithiau oddi ar yr Ail Ryfel Byd.
rooney a ddywedodd:Mae'r chwith yn casau enillwyr.
docito a ddywedodd:Fe nes I sylwi ar y peth am y tro cynta pan yn teithio o amgylch y byd ac yn clywed mwlsyn ar ol mwlsyn yn ail adrodd dadleuon michael moore
cwyno am Bush heb unrhyw sylfaen i'w dadl
camgymeriadau mawr gyda'i polisiau tramor
Ond y gwirionedd yw bod hi yn uffernnol o ffasiynnol i ymosod ar americannwyr yn y wlad hyn.
Dyw'r cyfrynge ddim yn helpu gyda ffilime fel Borat a crap Michael Moore
(fel dywedodd ffrind i fi.... Dyle pob americanwr weld y ffilime ond i unrhyw un tu allan i america ma nhw jyst yn cadarnhau eu rhagfarn)
Ma'n sefyllfa trist pan bod pobl yn beio holl erchyllderau'r byd ar un dyn oherwydd ei fod yn ffasiynnol i edrych yn asgell chwith ddeallusol.
Foel Gornach a ddywedodd:Rwy'n synnu dy fod fel Cristion yn canmol 'superpower'. Darllen beth sydd gan y Beibl i'w ddweud am 'superpowers', yn arbennig sylwadau'r proffwydi. Beth yw eu barn am yr Aifft, Asyria, Babilonia etc? Beth yw barn y Testament Newydd am Rhufain? Ac yn arbennig Llyfr y Datguddiad? Onid yw hanes Twr Babel yn dangos bod Duw yn erbyn y cysyniad o 'superpower'? Plis, paid a diolch i Dduw am unrhyw 'superpower'!
Yn wleidyddol, diwylliannol, economaidd a militaraidd bwli imperialaidd yw'r UDA. Mae unigolion, cymdeithasau a mudiadau gwych yn yr UDA sy'n ysbrydoliaeth i'r gweddill ohonom, sy'n brwydro'n ddewr yn erbyn yr imperialaeth atgas sy'n cael ei fynegi nawr. Diolch i Dduw amdanynt hwy.
Wmffre a ddywedodd:Ond dydw i ddim yn gweld hyn ar rhan yr UDA fel bwriad i ddod yn "superpower" mewn synnwr cyfoes.
Rhods a ddywedodd:Er hynny, rhaid dweud mai nid y gwlad mwya poblogaidd yn y blynyddoedd mwaf diweddara yw'r UDA oherwydd polisiau catastroffig a dinistriol George Bush yn rhyngwladol (Irac yn enwedig)
Rhods a ddywedodd:Ond der mlan, o edrych ar hanes, ma na dda ynddi rhywle , so ti yn meddwl?
A be am y rhyfel oer?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai