Bu llawer o sôn o dro i dro am wrth-Americaniaeth rhai ar y Maes – term digon diystyr i ddisgrifio’r rhai sy’n gwrthwynebu polisi tramor yr Unol Daleithiau oddi ar yr Ail Ryfel Byd.
O’m rhan i, tipyn o Americagarwr ydwi, gan werthfawrogi diwylliant amrywiol y wlad a’i thraddodiadau gwleidyddol amlochrog – llawer mwy amlochrog nag y byddai rhywun yn meddwl o edrych ar cowbois sy’n cynrychioli’r wlad ar y llwyfan ryngwladol ar hyn o bryd.
Gan ein bod ni i gyd yn byw o hyd yng nghysgod ein cymydog mawr grymus, gwell i ni geisio deall beth sy’n ei gyrru hi ymlaen fel gwlad. Gaf i ofyn, felly, am eich cynigion chi am ffynonellau gwybodaeth da – llyfrau, ffilmiau, cylchgronau, gwefannau – ynghylch yr Americanwyr?
Dwi wrth ar hyn o bryd, er enghraifft, efo llyfr John Coski The Confederate Battle Flag: America’s Most Embattled Emblem sy’n olrhain hanes ystyr ac arwyddocâd baner groes letraws Taleithiau’r De, o’r Rhyfel Cartref hyd heddiw, via’r Dixiecrats a’r mudiad hawliau sifil.