Deall yr Unol Daleithiau

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Positif80 » Gwe 13 Gor 2007 10:55 am

Ond eto i fod yn deg, dyla tua hanner o'r lle fod yn Mexico eniwe. :winc:
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Rhobert Ap Wmffre » Gwe 13 Gor 2007 4:00 pm

Cytunaf ac anghytunaf gyda ti, Foel.

Foel Gornach a ddywedodd: Yn bersonol cytunaf a barn Henry Richard, yr Apostol Heddwch ac AS Merthyr Tudful, taw'r peth gorau a allai wedi digwydd i'r UDA fyddai rhannu adeg y Rhyfel Cartref. Nid oedd gan y rhyfel hwnnw ddim oll i'w wneud a chaethwasiaeth, esgus oedd hwnnw. Pwrpas y rhyfel oedd cadw undod er mwyn bod yn 'superpower'.


Er roedd pwrpas swyddogol yr Undeb o dan Abraham Lincoln yn ystod y Rhyfel Cartref yn gadw undod yr wlad, roedd caethwasanaeth yn sylwedd y dadl rhwng y taleithiau. Roedd yr wlad yn estyn dros y cyfandir (ac wrth gwrs, yn disodli'r Americanwyr brodorol a'r Mecsicaniaid yn ôl athroniaeth hiliol o "Manifest Destiny"), ac yr oedd dadlau ffyrnig rhwng y de a'r gogledd dros hanner cyntaf y 19ed ganrif am ba daleithiau fyddai'n "gaeth" neu'n "rydd."

Doedd dim diddordeb gan arweinyddiaeth yr Unol Daleithiau am fod yn "superpower" yng nghyfnod y Rhyfel Cartref. Daeth yr imperialiaeth rhyngwladol wedi tyfiant diwydiannol yn hwyr yn y 19ed ganrif. Mae'r rhyfel rhwng Sbaen a'r UDA ym 1898 yn ddechreuad pwer a dylanwad rhyngwladol yr UDA. Yn anffodus, dydw i ddim yn credu y byddai'r caethwasanaeth ei ddileu heb frwydr fawr.

Er gwaetha hwyrfrydigrwydd yr Arlywydd Lincoln i ryddhau'r caethweision yn gynnar yn y rhyfel, amcan sylweddol rhai a frwydrodd oedd hyn, yn enwenidig ymhlith y mewnfudwyr o Gymru. Roedd terfyn caethwasanaeth yn effaith bwysicaf yr rhyfel, er bod pobl groenddu wedi wynebu canrif arall o hiliaeth ac anffafriaeth yn America.


Foel Gornach a ddywedodd:
Mae unigolion, cymdeithasau a mudiadau gwych yn yr UDA sy'n ysbrydoliaeth i'r gweddill ohonom, sy'n brwydro'n ddewr yn erbyn yr imperialaeth atgas sy'n cael ei fynegi nawr. Diolch i Dduw amdanynt hwy.


Cytunaf 100%!
Rhobert Ap Wmffre
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 24 Mai 2007 4:27 pm
Lleoliad: Wisconsin, UDA

Postiogan Foel Gornach » Gwe 13 Gor 2007 11:13 pm

Rhobert Ap Wmffre a ddywedodd:Er roedd pwrpas swyddogol yr Undeb o dan Abraham Lincoln yn ystod y Rhyfel Cartref yn gadw undod yr wlad, roedd caethwasanaeth yn sylwedd y dadl rhwng y taleithiau. Roedd yr wlad yn estyn dros y cyfandir (ac wrth gwrs, yn disodli'r Americanwyr brodorol a'r Mecsicaniaid yn ôl athroniaeth hiliol o "Manifest Destiny"),


Rwy’n cydnabod fod caethwasiaeth wedi chwarae rhan holl-bwysig fel cyfraniad at y tensiwn rhwng taleithiau’r Gogledd a thaleithiau’r De hyd 1861. Ond roedd achos ymladd y rhyfel, ym meddwl Lincoln o leia, yn un o gadw’r Undeb o flaen pob dim arall.

Abraham Lincoln yn 1862 a ddywedodd:My paramount object in this struggle is to save the Union, and it is not either to save or destroy slavery. If I could save the Union without freeing one slave, I would do it; and if I could do it by freeing all the slaves, I would do it. What I do about slavery and the coloured race, I do because it helps to save the Union; and what I forebear because I do not believe it would help the Union.


Mae’r Manifest Destiny yn syniad imperialaidd ynddo’i hun, a bu’n help i gyfiawnhau dinistrio’r cenhedloedd brodorol, a chipio tiroedd oddi ar wledydd eraill cyn y Rhyfel Cartref gan osod yr UDA lan i fod yn superpower. Hynny oedd gofid mawr Henry Richard. Pe byddai’r Gogledd yn ennill, meddai, fe fyddai yna berigl i’r UDA feddwi ar ogoniant (glory) grym milwrol:

Dyfyniad o’i gofiant Henry Richard a ddywedodd:…lest the people and Government of the United States, hitherto so free from the military traditions and its inevitable intoxication for military glory (ychydig o or-ddweud fynna!!), should seek with its vast armies and navies to arrogate to itself the position of a great military power, and become a menace to the peace of the world.


Y proffwyd o Dregaron!! Iddo ef, pe byddai Taleithiau’r De wedi llwyddo ennill annibyniaeth ni fyddai’r perigl mor fawr. Nid amddiffyn caethwasiaeth yw hyn; yr oedd hynny yn atgas i HR fel y mae i minnau – yr oedd ffyrdd eraill ar gael i ddileu’r drwg hwnnw. Nid oedd pawb a ymladdai dros y De (e.e. Stonewall Jackson) yn credu mewn caethwasiaeth, ac nid oedd pawb a ymladdai dros y gogledd yn ei erbyn – fel y profa’r agwedd at y duon yn ystod y 140+ mlynedd yn dilyn y Rhyfel.

Gwnaeth HR groesawu rhyddid y caethion ar ddiwedd y rhyfel, ond

Henry Richard a ddywedodd:…it would have been far better to have seen the garland of victory for this great deliverence placed on the brow of the Prince of Peace, instead of being transferred to the head of ‘Moloch – horrid king ! besmeared with blood,’ to enhance his glory and perpetuate his brute dominion over the minds and hearts of men.
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan Rhobert Ap Wmffre » Sul 15 Gor 2007 4:14 am

Foel, rwyt ti'n gwneud pwyntiau gwerthfawr am gymhlethrwydd hanes yr Unol Daleithiau a'r Rhyfel Cartref. Rwyt ti'n iawn hefyd am "Manifest Destiny" fel "imperialaeth." Roedd Manifest Destiny rhan o'r un agwedd hiliol tu ôl i'r imperialaeth Brydeinig: sef yr "hawl" gan bobl wyn i ddwyn tir a chyfoeth oddiwrth brodorion "di-wareiddiedig" ac eu "cristioneiddio" nhw hefyd. Ond dydw i ddim yn gweld hyn ar rhan yr UDA fel bwriad i ddod yn "superpower" mewn synnwr cyfoes.

Rwyf yn cydnabod diffygion Abraham Lincoln. Roedd e'n geidwadol ar y pwnc caethwasanaeth ac yn hiliol ei hun. Nad oedd e'n ddiddymwr radicalaidd erioed. Serch hynny, fe'i ystyriwyd fel y "dyn a ryddhaodd y caethweision."

Trasig ac yn greulon oedd y Rhyfel Cartref, ond yn bersonol, dydw i ddim yn credu y gallai'r rhyfel wedi cael ei osgoi. A petai'r de wedi ennill, na fyddai hyn wedi bod yn stopio mwy o ryfela rhwng y ddwy ochr. Byddai caethwasanaeth wedi bod yn parhau am ddegawdau, dwi'n ofni.

Trasig hefyd oedd gormes y duon (enwedig yn y de, ond yn y gogledd hefyd) sydd wedi parhau dros ganrif wedi'r rhyfel.

Mae sylwadau Henry Richard yn swnio'n ddiddorol. Maen nhw'n f'atgoffa o syniadau Samuel Roberts, Llanbrynmair, a oedd yn America ar y pryd ac yn ddiddymwr heddychlon hefyd.

Er nad ydw i'n cytuno gyda ti ar sawl pwynt, mae'n bleser mawr dadlau am hyn gyda rhywun sy'n nabod hanes yr UDA (yn well na rhai Americanwyr). :winc:
Rhobert Ap Wmffre
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 14
Ymunwyd: Iau 24 Mai 2007 4:27 pm
Lleoliad: Wisconsin, UDA

Postiogan Dan Dean » Iau 19 Gor 2007 2:24 pm

Dili a ddywedodd:Bu llawer o sôn o dro i dro am wrth-Americaniaeth rhai ar y Maes – term digon diystyr i ddisgrifio’r rhai sy’n gwrthwynebu polisi tramor yr Unol Daleithiau oddi ar yr Ail Ryfel Byd.

Dwi di cael fy nhgyhuddo o hyn droeon - yr un mor pathetic na'r cyhuddiadau "gwrth-orllewinol" a "gwrth-semetiaeth". Ffordd gora o weld hi i mi ydi edrych ar y rhai sydd yn eu defnyddio yn eu dadl ac yna ti'n sylwi bod gen ti un sefydliad broffesiynol o idiots.

rooney a ddywedodd:Mae'r chwith yn casau enillwyr.

Yntydi. Cynta ath Hugo Chavez enill ei etholiad roedd yn gorfod rhedeg i ffwrdd o'i gefnogwyr blin a wedyn ddim yn edmygu ei hun o gwbwl...
Hwn di'r ail edefyn i chdi ddweud y fath crap a dwi di gofyn yn y llall be ddiawl oedd hyn fod i feddwl ond wrth gwrs, dim ateb.

docito a ddywedodd:Fe nes I sylwi ar y peth am y tro cynta pan yn teithio o amgylch y byd ac yn clywed mwlsyn ar ol mwlsyn yn ail adrodd dadleuon michael moore

Doedd na dim byd newydd yn nadleuon Michael Moore. Mawya tebyg sa chdi di clywed yr un peth cyn i Moore gyflwyno ei ddadleuon.

cwyno am Bush heb unrhyw sylfaen i'w dadl

Ti'n siwr am hynnu? Sw ni yn meddwl bod rhywfath o sylfaen yn rhywle...

camgymeriadau mawr gyda'i polisiau tramor

Pa "gamgymeriadau" oedd gen ti mewn sylw? Irac yn un amlwg mae'n siwr, ond dim camgymeriadau'r polisi tramor yw'r prif broblem y gwrthwynebwyr!

Ond y gwirionedd yw bod hi yn uffernnol o ffasiynnol i ymosod ar americannwyr yn y wlad hyn.

"Ooo mai goood mae ymosod ar yr Ffrancwyr MOOOOOOR ddoe!"

Sw ni'n meddwl bod o run peth am Arabs. A lot o fforinars eraill hefyd.

Dyw'r cyfrynge ddim yn helpu gyda ffilime fel Borat a crap Michael Moore

Eh? Onid ydyw'n beth da i'r cyfrynge ddangos pethau a safbwyntiau gwahanol? Dy nhw'n helpu gyda Fox News? Sw ni'n meddwl bod y math o safbwynt mae Moore yn gyflwyno yn cael ei weld dipyn llai na'r math o safbwynt mae Fox yn gyflwyno yn y cyfryngau.

(fel dywedodd ffrind i fi.... Dyle pob americanwr weld y ffilime ond i unrhyw un tu allan i america ma nhw jyst yn cadarnhau eu rhagfarn)

I UNRHYW un?!

Ma'n sefyllfa trist pan bod pobl yn beio holl erchyllderau'r byd ar un dyn oherwydd ei fod yn ffasiynnol i edrych yn asgell chwith ddeallusol.

A be yn y byd mae hyn i fod i feddwl?! HOLL erchylltrau?! Pwy sy'n gwneud hyn? A be sy'n "ddeallusol" am yr uchod beth bynnag?

Foel Gornach a ddywedodd:Rwy'n synnu dy fod fel Cristion yn canmol 'superpower'. Darllen beth sydd gan y Beibl i'w ddweud am 'superpowers', yn arbennig sylwadau'r proffwydi. Beth yw eu barn am yr Aifft, Asyria, Babilonia etc? Beth yw barn y Testament Newydd am Rhufain? Ac yn arbennig Llyfr y Datguddiad? Onid yw hanes Twr Babel yn dangos bod Duw yn erbyn y cysyniad o 'superpower'? Plis, paid a diolch i Dduw am unrhyw 'superpower'!

Yn wleidyddol, diwylliannol, economaidd a militaraidd bwli imperialaidd yw'r UDA. Mae unigolion, cymdeithasau a mudiadau gwych yn yr UDA sy'n ysbrydoliaeth i'r gweddill ohonom, sy'n brwydro'n ddewr yn erbyn yr imperialaeth atgas sy'n cael ei fynegi nawr. Diolch i Dduw amdanynt hwy.

Gwir pob gair - neges ardderchog. Cymerwch El Salvador fel un engraifft o nifer: un o tactegau'r regime yn yr 80au oedd dienyddio lleianod(hynnu'n cynnwys 4 Americanes) a esgobion (gan gynnwys yr hynod boblogaidd archesgob Óscar Romero), a roedd y Tŷ Gwyn(cyfnod Reagan) yn ffrind gora iddynt. Cristnogol iawn. :rolio:

Sylwadau call a difyr iawn gan Rhobert Ap Wmffre, a enw cwl hefyd! Croeso i'r maes!

Wmffre a ddywedodd:Ond dydw i ddim yn gweld hyn ar rhan yr UDA fel bwriad i ddod yn "superpower" mewn synnwr cyfoes.

Dwnim os oedd rhywbeth cyn hyn ond roedd Athrawiaeth Monroe yn 1823 a'r gweithredau a oedd yn cael ei ddylanwadu ganddo blynyddoedd wedi hynnu yn arwydd o fwriad yr UDA.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Rhods » Gwe 20 Gor 2007 2:08 pm

Mae drwg a da yn mhob gwlad a ma pobl da a drwg hefyd yn byw yn mhob gwlad. Mae'r r'un yn wir am yr UDA. O edrych ar hanes mae'n rhaid gwerthfawrogi yr hyn a wnaethon nhw i ni yn yr ail rhyfel byd, pam yn ein helpu yn y rhyfel yn erbyn Hitler a natsiaeth. Hefyd - rhaid diolch hefyd i Regan am y rol allweddol y chwareaodd e yng nghwymp comiwnyddiaeth ar rhyfel oer. Er hynny, rhaid dweud mai nid y gwlad mwya poblogaidd yn y blynyddoedd mwaf diweddara yw'r UDA oherwydd polisiau catastroffig a dinistriol George Bush yn rhyngwladol (Irac yn enwedig)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Positif80 » Gwe 20 Gor 2007 4:21 pm

Yn union. Mae hanes America yn llawn ddrygioni, ond eto mae'r un peth yn wir am bob wlad yn y byd. Maent hefyd cyflawni llu o bethau da ymysg y drwg.

Mae pob gwald wedi gwneud rywbeth ofnadwy i'w pobl eu hunain neu i bobl gwlad arall.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Dan Dean » Maw 24 Gor 2007 2:22 pm

Rhods a ddywedodd:Er hynny, rhaid dweud mai nid y gwlad mwya poblogaidd yn y blynyddoedd mwaf diweddara yw'r UDA oherwydd polisiau catastroffig a dinistriol George Bush yn rhyngwladol (Irac yn enwedig)

Gwir bod Bush ddim di helpu llawer ond "catastroffig a dinistriol" sw ni'n galw polisiau eraill yn rhyngwladol bell cyn Bush (tra ti'n son am Reagan - Lladin America yn yr 80au er engraifft). Mae bron pob Arlywydd a'i weinyddiaeth ers yr ail ryfel Byd wedi bod yn ynglymedig a rhywbeth hollol annerbyniol a dinistriol.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Rhods » Maw 24 Gor 2007 2:36 pm

Dwi ddim yn dadle Dan Dean - ond fel wedes i ma drwg a da yn mhob gweinyddiaeth. D'oes bosib bod ti yn gweld unrhyw fymryn o dda yn yr UDA? Jyst chydig? Dwi yn gwbod bod gen ti barn sgeptic am yr UDA ai polisiau etc a dwi yn parchu dy farn, ond der mlan, o edrych ar hanes, ma na dda ynddi rhywle , so ti yn meddwl? Mae'n rhaid i ti ddweud bod yr UDA di neud lot i helpu ni yn yr ail rhyfel byd - pe na nai'r Americaniaid di dod mewn , bydde Hilter di ennill, dwi'n meddwl - a wyt ti yn mynd i gwerthfawrogi y cymorth y gwnaethant i ni yn y stod y cyfnod yma? A be am y rhyfle oer a comiwnyddiaeth ? Mi wnaeth Regan, Thatcher a Gorbachov job ffantastig i dod a diwedd i hyn - like them, or loath them gellir neb gwadu hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Dan Dean » Maw 24 Gor 2007 3:13 pm

"Yndan, wrth gwrs da ni gyd yn ddiolchgar" medda Dan Dean wrth Rhods am bwynt yn ymwneud efo ymladdwyr yn erbyn Nazis yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn yr edefyn yma! :winc:

Ac yna dwi'n ychwanegu "Ond dydi hynnu ddim yn esgusodi nifer o ryfeloedd a ymosodiadau eraill da "ni" wedi bod ynddo."

A Rhods, gobeithio dy fod yn gwerthfawrogi ymdrech ffyrnig yr Undeb Sofietaidd i ymladd byddin Hitler hefyd. Mi roedd na dda yn hwnnw rhywle hefyd, so ti yn meddwl?

Rhods a ddywedodd:Ond der mlan, o edrych ar hanes, ma na dda ynddi rhywle , so ti yn meddwl?

Yn amlwg ond yn brin.

Er fod o'n gywir dwin ffendio'r dyfyniadau "Mae drwg a da yn mhob gwlad a ma pobl da a drwg hefyd yn byw yn mhob gwlad" yn ddigri achos ei fod o mor amlwg!

A be am y rhyfel oer?

Dwi di colli cownt o faint o bethau gwbwl ffiaidd ddigwyddodd yn ystod y cyfnod yna un ddy nêm of awyr ffait ygensd comiwnusym.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai