Rhyfel y Falkvinas - cwrdd milwr o Batagonia

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Rhyfel y Falkvinas - cwrdd milwr o Batagonia

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Maw 03 Ebr 2007 9:40 am

Tra'n darllen "Y Tren Ola Adre" gan Steve Eaves a brynnais yn ddiweddar (dwi'n gwbod, ffingar on ddy pyls of contemporeri miwsic fel arfer, ond mae'n rhaid i rywun gadw Robat Lolfa mewn busnas) ac ma na nodyn ar un o ganeuon Bwchadanas (ddim yn ffan, mae arna'i ofn) yn dweud ei bod yn seiliedig ar stori o filwr o Gymru wnaeth ddod ar draws milwr o Batagonia yn gweddio yn Gymraeg mewn eglwys ym Mhorth Stanley.

A wyr unrhyw un am sail y stori hon?
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan Dili Minllyn » Maw 03 Ebr 2007 10:22 am

Mae llawer o straeon tebyg i'w cael, ond hyd yn hyn welais i erioed ffynhonnell ddibynadwy i'r un ohonyn nhw.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Mali » Maw 03 Ebr 2007 4:18 pm

Dwi'n cofio clywed am hyn ar y radio neu'r teledu [ ddim yn siwr prun] yn ystod Rhyfel y Malfinas.
Wedi dod o hyd i adolygiad o Rhyfel Ni ar wefan y BBC. Diddorol nodi fod 'na gyfarfod wedi bod yn yr eglwys yn Port Stanley rhwng milwr o'r Ariannin a nyrs o Brydain , y ddau o dras Cymreig.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Mer 04 Ebr 2007 8:19 am

Diolch. Diddorol iawn.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma

Postiogan sanddef » Mer 04 Ebr 2007 2:07 pm

Mae Mali yn iawn, ond nid oedd yr Ariannwr-o-dras-Cymreig nac yn siarad Cymraeg nac yn brotestant.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Madrwyddygryf » Mer 04 Ebr 2007 5:42 pm

Do dwi wedi clywed ambell i stori am hyn. Ond di roed wedi'w chadarnhau chwaith.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Cymraeg yn Y Malfinas

Postiogan Ar Roue » Iau 05 Ebr 2007 1:09 am

Cofio gweld rhaglen ar S4C y tro diwethaf roeddynt yn cofio am y brwydro am Y Malfinas.

Roedd cyfieithydd swyddogol i arweinydd yr
Archantinwyr ar yr ynys yn hannu o'r Wladfa. Roedd ganddo beth Cymraeg ac yn ail ddysgu'r iaith. Roedd yn canu yn Gymraeg ac roedd ei blant yn frwd dros yr iaith.

Nid wyf yn sicir os ef a gyfarfu a nyrys gyda tipyn o Gymraeg ganddi ym Mhort Stannley. Efallai mai stori arall oedd honna
Rhithffurf defnyddiwr
Ar Roue
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 30
Ymunwyd: Maw 23 Ion 2007 2:53 pm
Lleoliad: LLOEGR


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron