Cyflafan yn Virginia

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyflafan yn Virginia

Postiogan Boibrychan » Llun 16 Ebr 2007 10:17 pm

Cyflafan ar gampws coleg yn Virginia sydd wedi lladd mwy na dwbwl y bobl lladdwyd yn Columbine ac sydd y fwyaf gwaedlyd yn hanes yr UDA.

Heb weld y stori yng nghymraeg eto a does dim llawer ar y bbc ar hyn o bryd ond triwch CNN am y diweddaraf.

Hynod drist, sioc fawr ond eto mae gan Virginia rhai o'r rheolau drylliau mwyaf rhyddfrydig felly roedd y posibilrwydd yn llawer mwy tebyg mewn ffordd.

Dim ond un person saethodd pawb ond mae'r wybodaeth yn gymylog ar y funud!

:ofn: :( :? [/url]
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Mali » Maw 17 Ebr 2007 2:13 am

Bywydau ifanc efo gymaint o'u blaenau ......digwyddiad trist iawn . :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan huwwaters » Maw 17 Ebr 2007 9:09 am

Bai llywodraeth y talaith, a'r holl rai sydd am gael "the right to bear arms" yn ôl y cyfansoddiad. Y lleia o ddrylliau sydd mewn cylchrediad, ac o ganlyniad yn rhan annatod o ddiwylliant lleol, y llai tebyg mae pethau fel hyn am ddigwydd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dili Minllyn » Maw 17 Ebr 2007 10:10 am

Diddorol fel y mae'r Ail Welliant i Gyfansoddiad yr Unol Daleithiau'n cael ei ddyfynnu'n anghyflawn fel arfer. O'i weld yn ei gyfanrwydd, dyw e ddim yn rhyw siartr i gadw gwn at ba ddiben bynnag:

A well regulated militia being necessary to the security of a free State, the right of the People to keep and bear arms shall not be infringed.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Maw 17 Ebr 2007 12:32 pm

Druan â'r eirth. Dyle nhw gael cadw'u breichiau.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan docito » Maw 17 Ebr 2007 12:53 pm

Ma'n rhaid dweud ma rheolaeth arfau yw'r un pwnc yr ydym ni yn yr ynysoedd brydeinig yn bihafio mwyaf hunan gyfiawn.
Ma'n amlwg bod yna broblem dirfawr gyda gynnau yn yr Amerig. Ond pob tro ma yna gyflafan ma'r ymateb o fan hyn wastad yr un peth..... Ma'n rhoi rhyw gadarnhad i ni o pa mor dwp yw americannwyr a mor wareiddiefig i ni fel cenedl. Rwy'n dechre blino ar pawb yn neidio ar y Michael Mooreesque bandwagon ac yn sgrechian mai bai americanwyr yw e ayb.

Mae yna broblem enfawr gyda arfau yn yr UDA. Yn anffodus does neb wir yn cynnig atebion. Y gwirionedd yw bod y CYFANSODDIAD yn dweud bod hawl gan pobl amddiffyn ei hunaun. Ma'n anhebygol iawn bod y cyfansoddiad am newid oherwydd bod americanwyr ar y cyfan yn ei ffeindio hi'n annodd i edrych yn wrthrychol ar y sefyllfa .

Edrychwch ar ddinasoedd prydain. Ma dynion yn cario gynnau/cyllyll/cwn peryglus, oherwydd eu bod yn teimlo bygythiad o eraill heb sylweddoli bod gwneud hyn ond yn cynnyddu'r broblem. Ym mrydain ma' yna ymgais i geisio addysgu pobl o'r peryg o hyn heb edrych yn hollol hunangyfiawn.

Yn America... Beth yw'r ateb? Addysgu'r gendlaeth newydd mewn ffordd llai bygythiol na chwaith mor hunangyfiawn a beth ma pobl yn neud dyddie hyn.
I'm a great lover, I'll bet.

Probably the toughest time in anyone's life is when you have to murder a loved one because they're the devil.

You know what I hate? Indian givers... no, I take that back
Rhithffurf defnyddiwr
docito
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 900
Ymunwyd: Maw 13 Rhag 2005 10:58 am
Lleoliad: jyst off albany rd

Postiogan Dili Minllyn » Maw 17 Ebr 2007 2:10 pm

docito a ddywedodd:Y gwirionedd yw bod y CYFANSODDIAD yn dweud bod hawl gan pobl amddiffyn ei hunaun. Ma'n anhebygol iawn bod y cyfansoddiad am newid oherwydd bod americanwyr ar y cyfan yn ei ffeindio hi'n annodd i edrych yn wrthrychol ar y sefyllfa.

Fel nodais i uchod, mae'r Cyfansoddiad yn cael ei ddehongli a'i ddyfynnu'n ddethol iawn. Lluniwyd yr Ail Welliant i warantu hawl Americanwyr i ymffurfio'n warchodluoedd arfog i amddiffyn eu gwlad rhag byddin Ymerodraeth Prydain.

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Druan â'r eirth. Dyle nhw gael cadw'u breichiau.

The right of the people to keep and arm bears - nawr 'te, byddai honno'n ddeddf werth ei chael.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 17 Ebr 2007 6:01 pm

Dwi'n meddwl bod o'n digon hawdd i feio a'r NRA ac lobi arfau yn America ond mae'r diwylliat arfau yn rhan anatod o diwylliant Americanaidd. Mae na lot o ramant hefyd wedi gysylltu rhwng arfau ac hanes America, o'r Minute Men i'r Cowbois.

Sdim ond raid mynd ar wefannau fel Youtube i weld. Fel hwn
[ Sylwad:where exactly do u live c******cker? im guessing britain(where guns have been banned from civilians)] , neu hwn ac hwn.

Dwi'm yn gweld sut gallai beth digwyddodd ddoe newid unrhyw beth i ddeud y gwir. Roedd yna Americanwr ar y radio yn dweud dylsai myfyrwyr yn y prifysgol wedi cael y hawl i cario gwn.

Penderfyniad nhw ydio yn y diwedd ac os di nhw yn gallu delio gyda rhwyun yn cerdded mewn ysgol gyda gwn ac saethu plant yn farw, wel eu dewis nhw ydio.
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Jon Bon Jela » Maw 17 Ebr 2007 7:58 pm

Mae yna grwp ar Facebook i'r rhai sydd eisiau cyfrannu unrhyw negeseuon er cof am y rhai a fu farw.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan ffwrchamotobeics » Mer 18 Ebr 2007 8:05 am

Dramau Cho Seung-Hui i'w gweld fan hyn
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai