S.W. a ddywedodd:Mr Gasyth a ddywedodd:S.W. a ddywedodd:Mr Gasyth, dwi wedi dweud eisioes bod o fyny i nhw yn y pendraw oll gallaf i ei wneud ydy cynnig barn ar y mater. Mae Quebecois a'r Gymraeg yn ddau beth gwbl wahanol a gwreiddiau cwbwl wahanol iw dadleuon.
Ti'n iawn. Ond o ddilyn rhesymeg dy ddadl di dylai Canada a'r Unol Daleithiau uno, ynghyd a Mecsico a gweddill America Ladin hyd yn oed. Pam fod y ffin ar y 49th pararell yn iawn ac yn gwneud synnwyr fel rhaniad cenhedloedd, ond fod Quebec ddim?
O ran diwylliant does dim llawer o wahaniaeth rhwng Canada a'r UDA. Prydain greodd Canada pan gafodd hi ei chicio allan o'r UDA. Dyna pam y bu i Brydain a'r UDA fynd i ryfel sawl gwaith yn y 19fed ganrif dros y ffin rhwng y ddwy wlad. Mi losgodd byddin Prydain yr Hen Ty Gwyn i lawr mewn ffraeo dros ddyfodol Canada.
Ond, dyna sut mae hanes wedi ei throi hi. Yn yr un modd a Awstralia a Seland Newydd. Gwledydd sy'n enghreifftiau wych o sut mae Ewropeaid wedi dod i fewn a newid natur y wlad au creu yn wledydd cymys o ran eu diwylliant.
Oes mae 'na wahaniaeth rhwng diwylliant Canada a diwylliant yr Unol Daleithiau.
Ffrwyth hanes a thirwedd Canada ydi diwylliant Canada ac nid yr Unol Daleithiau. Gwelir hyn yn amlwg yn ei barddoniaeth, llenyddiaeth, miwsig ac arluniaeth.
Mae diwylliant Talaith Cwibec, ar y llaw arall, yn hollol unigryw wrth gwrs ac yn 'home grown' ac yn sicr yn wahanol i ddiwylliant America; a Ffrangeg yw'r iaith ac nid Saesneg.
Digon gwir mae diwylliant Canada yn dangos dylanwad Prydeinig, Ffrengig a diwylliant y Brodorion Cyntefig. Ond serch hyny Canadian ydi diwylliant Canada ac nid American.
Mae pobl Canada yn ymfalchio yn ei gwlad a'i thraddodiadau. Ac mae'r llywodraeth yn gweithio'n galed i leihau dylanwadau allanol trwy gyfrwng rhaglenni, deddfau a sefydliadau fel y Canadian Broadcasting Corporation, National Film Board Canada a'r Canadian Radio-television and Telecommunications Commission.
Fel Canadian o dras Cymreig ac un sydd wedi byw yng Nghanada am dros ddeugain mlynedd mi rydw i yn ymwybodol o'r tebygrwydd rhwng sefyllfa diwylliant Cymru ym Mhrydain a sefyllfa diwylliant Canada yng Ngogledd America.
Na tydi diwylliant Cymru ddim bron ru'n peth a Lloegr. A tydi diwylliant Canada ddim bron ru'n peth ag America chwaith. Neu mi fwytai'n het.