Quebec: A yw'n wlad/genedl?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan S.W. » Maw 17 Ebr 2007 12:06 pm

SerenSiwenna a ddywedodd:Hwn yn edrych yn diddorol iawn, diolch i Rhys am ei postio fe...

O ni ddim yn gwybod fod Quebec yn wlad? :wps:

Talaith ydy o. Cei di rhai yn dadlau bod on wlad gan bod Canada yn wlad iaith Saesneg a Quebec yn dalaith Ffrengig. Yn bersonol dwin ei ystyried yn dalaith o Ganada yn yr un modd mae Vancouver, British Colombia ac ati yn daleithiau yn Canada.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Mr Gasyth » Maw 17 Ebr 2007 12:21 pm

S.W. a ddywedodd:
SerenSiwenna a ddywedodd:Hwn yn edrych yn diddorol iawn, diolch i Rhys am ei postio fe...

O ni ddim yn gwybod fod Quebec yn wlad? :wps:

Talaith ydy o. Cei di rhai yn dadlau bod on wlad gan bod Canada yn wlad iaith Saesneg a Quebec yn dalaith Ffrengig. Yn bersonol dwin ei ystyried yn dalaith o Ganada yn yr un modd mae Vancouver, British Colombia ac ati yn daleithiau yn Canada.

Be ti'n ystyried Cymru ta? :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan S.W. » Maw 17 Ebr 2007 1:25 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:

Sefyllfa Cymru o fewny DU yn gwbwl wahanol i un Quebec o fewn Canada Mr Gasyth. Mae Quebec yr un peth a dyweder De Penfro yng Nghymru. Rhyw fath o "Little France beyond Canada". Mae rhanfwyaf o dalaith Quebec yn cael ei 'redeg' gan yr Americanwyr Brodorol a nid y llywodraeth taleithiol. Mae nhw am weld Quebec yn parhau yn rhan o wladwriaeth Canada. Ffin ffug gan pobl o dras fewnfudwyr Ffrengig byddai rhyw wladwiaeth Ffrengig.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Mr Gasyth » Maw 17 Ebr 2007 2:14 pm

Tydw i ddim yn meddwl base Quebeciaid yn cytuno eu bod ar yr un lefel a Sir benfro. A be di Canada ond 'little England beyond the pond' felly? Sori, ond dwi'm yn deall dy ddadl. Mae Canada yn wlad er mai disginyddion i brydeinwyr (ar y cyfan) ydyn nhw, ond tydi Quebec ddim achos mai disginyddion i Ffrancwyr ydyn nhw - ai dyna wyt ti'n ddeud?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan S.W. » Maw 17 Ebr 2007 2:54 pm

Dwi di egluro hyn o'r blaen ond yn fras

Quebec = talaith o dras Ffrengig o fewn gwladwriaeth o dras Prydeindod.

Brodorion Quebec, h.y. y pobl oedd hynny cyn i bawb ddechrau siarad Ffrangeg ddim am fod yn rhan o wladwriaeth Quebecois.

Pwy wyt ti am gefnogi?

Mewnfudwyr isio creu rhyw wladwriaeth ffug o fewn gwladwriaeth newydd neu'r brodorion sydd eisioes wedi gweld ffiniau ffug yn cael eu creu ar draws eu hen diroedd rhwng yr UDA a Chanada a ddim am weld gwladwriaeth arall a seiliau Ewropeaidd yn creu mwy o ffiniau lbe nad oedd rhai yn bodoli.

Petai Quebec yn wladwriaeth (nid trefedigaeth) a chafodd ei choncro gan Brits bach drwg iawn. Hawl iw hannibyniaeth. Ond, nid dyna oedd hanes Quebec.

Petai 'Saeson' De Penfro, sydd wedi byw yno ers ganrifoedd am gael ei hannibyniaeth o'r wladwiaeth Gymreig. Be fyddai dy farn di? Does dim gwahaniaeth heblaw am yr iaith maent yn ei siarad.

Dwi'n gwbod pa ochr mae fy ngefnogaeth i am fynd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan S.W. » Mer 18 Ebr 2007 8:39 am

Syniad da ei symud i'r seiat yma.

Pwynt arall ddoth im meddwl wedyn. Mae Canada, fel yr UDA wedi gweld mewnfudo o pob cwr o Ewrop a pobl wedi ymgartrefu mewn llwythi o pobl eu hunain. Yng Nghanada mae gen ti Nova Sotia, ardal sydd a phresenoldeb Albanaidd a'r iaith Gaeleg yn dal i fod yn gymharol iach yno, mae gen ti ardaloedd Gwyddelig, ardaloedd Hisbanic, ardaloedd ble bo'r mwyafrif yn pobl Afro Carribbean.

Os am gefnogi annibyniaeth i talaith sy'n siarad Ffrangeg waeth i ni gefnogi annibyniaeth i'r pobl hyn i gyd hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Mr Gasyth » Mer 18 Ebr 2007 8:48 am

S.W. a ddywedodd:Syniad da ei symud i'r seiat yma.

Pwynt arall ddoth im meddwl wedyn. Mae Canada, fel yr UDA wedi gweld mewnfudo o pob cwr o Ewrop a pobl wedi ymgartrefu mewn llwythi o pobl eu hunain. Yng Nghanada mae gen ti Nova Sotia, ardal sydd a phresenoldeb Albanaidd a'r iaith Gaeleg yn dal i fod yn gymharol iach yno, mae gen ti ardaloedd Gwyddelig, ardaloedd Hisbanic, ardaloedd ble bo'r mwyafrif yn pobl Afro Carribbean.

Os am gefnogi annibyniaeth i talaith sy'n siarad Ffrangeg waeth i ni gefnogi annibyniaeth i'r pobl hyn i gyd hefyd.

Hold on, dwi'm di datgan barn ar annibynniaeth i Quebec naill ffordd na'r llall. Ond ma yna ymdeimlad o genedligrwydd a chenedlaetholdeb yn Quebec, gyda cyfran sylweddol o'r boblogateh eisiau annibynniaeth a cyfran fwy fyth yn ystyried eu hunain yn Quebeciaid yn hytrach na Canadwyr. Ella mod i'n rong, ond dwi rioed wedi clywed am y mudiad cenedlaethol Nova Scotiaidd.

Fy mhwynt ydi, os hydyn nhw'n ymdeimlo yn genedl - pwy ddiawl da ni i ddeud bod nhw ddim?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan S.W. » Mer 18 Ebr 2007 9:04 am

Dwi'n derbyn dy bwynt di o ran os oes pobl yno yn teimlo rhyw genedligrwydd yna pwy dan ni i gwyno am hynny. Ti'n iawn, yn y pendraw yn nwylo'r Quebeciaid (be bynnag eu cefndir) mae dyfodol y dalaith honno.

O be dwi'n wybod am y dalaith (a dwi'm yn honni fy mod in gwbod lot o bell ffordd) mae mwyafrif helaeth cefnogaeth tuag at y annibyniaeth, a'r ymdeimlad o fod yn Quebecois a nid Canadiaid (neu be bynnag di Canadians yn Gymraeg) o dod o blith y disgynyddion Ffrengig.

Fel yn yr UDA mae llwythi brodorol Canada i bob pwrpas yn rheoli eu 'settlements' eu hunain. Mae cyfran helaeth iawn o dir Quebec yn settlement a felly yn cael ei reoli gan llwythi brodorol. Mae llywodraeth Canada hefyd o be dwi'n ddallt yn talu rhyw 'ground rent' i llwythi brodorol am fod yno - rhyw fath o iawndal. Mae llwythi brodorol Quebec wedi datgan nad ydyn nhw am fod yn rhan o rhyw wladwriaeth Quebecaidd newydd a'u bod nhw yn gweld eu hunain fel rhan o'r wladwriaeth Canadaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Arffinwé » Mer 18 Ebr 2007 9:51 am

O be dwi'n ddallt, dydy Québec ddim yn wlad, ond yn un o "province"-iau (Fi ydy'r unig un sy'n meddwl bod "talaith" yn golygu "state", ond methu ffeindio gair Cymraeg ar gyfer "province"?) gwreiddiol Canada.

Mi ddechreuodd Gogledd Mericia cael ei goloneiddio gan Ffrainc yn y 1600au cynnar - gan Samuel de Champlain a'i fets. Ac roedd na lot o gwffio a dadla a ffraeo rhwng y menwfudwyr o Frainc o'r rheiny o'r "Ymerodraeth Brydeinig". Fodd bynnag fe arwyddwyd Cytundeb Paris yn 1763 (Treaty of Paris) a cafodd Prydain eu dwylo ar "Frainc Newydd" a chreu Québec allan ohoni. Er hyn, mi oedd gan Québec, ac mae dal ganddi heddiw ei gyfraith ei hun yn seiliadeig ar gyfraith Ffrainc Newydd - yr unig province yng Nghanda sydd hefo.

Rwan mae fy wybodaeth o hanes Canada yn mynd y niwlog - ond dwi'n gwybod bod yna hiliaeth mawr yn erbyn yr iaith Frangeg a ballu hyd nes craewyd Siarter yr Iaith yn 1977. Mae'r ddeddf ym yn deud, ymysg pethau arall yn deud mai Ffrangeg yw unig iaith swyddogol y province, ac yn rhoi hawl i bopeth swyddogol yn y province (ee Assemblée nationale du Québec) cael ei wneud drwy Ffrangeg. Er hyn, caiff pob deddf ei gyhoeddi yn Ffrangeg a Saesneg a mae hawl mynd i' cwrt unai mewn Saesneg neu Ffrangeg. Ond dydy'r deddf iaith yma ddim yn dal dwr mewn ardaloedd cadwyriaeth trigolion y cenhedloedd cyntaf (First Nations' Reserves)

By dau ymgyrch i wahanu Québec o Ganada - yn 1980, ac yn 1995.
Yn refferendwm 1980 bu'r pleidleisiau fel hyn: 59.56% yn erbyn a 40.44% o blaid. Ac yna yn 1995 gyda pholbogrwydd y Bloc Québécois - 50.6% yn erbyn a 49.4% o blaid - agos iawn.

Serch gwleidyddaieth a hanes, does dim ond rhaid mynd dros y bont o Ottawa i Gatineau i weld y wahaniaeth diwylliannol sy rhwng anglophone-iaid a'r francaphone-iaid yng Nghanada.

"Quebec: A yw'n wlad/genedl?" - Gwlad? Ar bapur - nac ydy, ond mae o yn llygiad llawer o'r Québécois. Mae hi wedi dod yn agos uffernol i gael anibyniaeth. Ond yn sicir mae'r bobl yn genedl annibynol i weddill Canada. Mi ddeudodd Stephen harper (arlwydd presenol Canada) "this House recognize[s] that the Québécois form a nation within a united Canada."

Hefo cyfraith ei hun, a deddf iaith, a bod mor agos a hynny i anibyniaeth, ella all Cymru ddysgu un nue ddau o bethau gan Québec.
Arffinwé ap Orffindún

A fyno glod, bid farw.
Rhithffurf defnyddiwr
Arffinwé
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 08 Gor 2005 2:08 pm
Lleoliad: Victoria, BC, Canada / Toronto, ON, Canada / Sili, Morgannwg / Llangefni, Môn - AKA RHYWLE YN Y BYD

Postiogan S.W. » Mer 18 Ebr 2007 10:09 am

Dadansoddiad diddorol, ellai'm dallt sut mae pobl o dras Ffrengig yn Quebec yn fwy o genedl na'r Albanwyr yn Nova Scotia, yr Hispanics sydd ar draws y wlad, y pobl o dras Affricanaidd sydd ar draws y wlad ac ati. Natur Canada a'r UDA ydy mae gwledydd wedi u gwneud o pobl o pob math o wahanol dras ydyn nhw. Mae gen ti fudiadau yn yr UDA sydd am greu gwladwriaeth annibynol yn nhaleithiau'r De o amgylch Florida a Georgia i'r pobl dduon. Nytars hiliol ydyn nhw.

Wrach fy mod i'n hollol anghywir ond dwi wastad wedi gweld ymgyrch i greu rhyw hunaniaith gendlaethol yn Quebec fel rhywymgais gan pobl o dras Ffrengig i beidio cael eu rheoli gan wladwriaeth sydd mor agor at Brydain. H.y. mwy yn erbyn y cysyniad o fod yn rhan o rhywbeth oedd yn 'British' nag isio bod yn annibynol fel y cyfryw.

Mae'n enghraifft dda o sut gall ardal fod yn ddwyieithog o fewn bron pob agwedd o fywyd gyda ychydig iawn o drafferth. Mae'n enghraifft dda i Gymru o ran gwerthu dwyiethrwydd i'r sector breifat. Ond, dwim yn gweld mwy nag hynny iw ddysgu ganddynt. Petai KFC hefo arwydd mewn iaith frodorol yn ogystal a Ffrangeg a Saesneg yna byddai hynny wir UN enghraifft o rhywbeth dylsai Cymru edrych tuag ato.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron