S.W. a ddywedodd:Dadansoddiad diddorol, ellai'm dallt sut mae pobl o dras Ffrengig yn Quebec yn fwy o genedl na'r Albanwyr yn Nova Scotia, yr Hispanics sydd ar draws y wlad, y pobl o dras Affricanaidd sydd ar draws y wlad ac ati.
Do'n i'm yn trio awrgymu eu bod nhw'n fwy o o genedl na neb arall. I ddeud y gwir mae newid amlwg, a phwisig, i'w weld rhwng bobl o brovince i brovince - all hyn ei weld drwy y steroteips ti'n gweld ee. y pysgotwr o Newfoundland, neu'r hippi o BC. y faith ydyd mae'r Québécois wedi brwydro yn gald i brofi bod nhw hefo iaith, a diwylliant, hanes a thraddodiadau eu hunain. Ella bod hyn yn tarddu o'r oes pan mewn effaith, concwerwyd rhan o Ffrainc gan Brydain.
S.W. a ddywedodd:Natur Canada a'r UDA ydy mae gwledydd wedi u gwneud o pobl o pob math o wahanol dras ydyn nhw.
Dyma'r Melting pot vs Mosaic. Es i i darlith ar hyn yn y coleg. 'Swn i'm yn cytuno bod Mericia yn aldweyrchu gwlad yn falch o fod wedi'i wneud o wahanol dras pan mae#n rhaid i rhywun rhoi unrhyw genedlaetholdeb arall mae ganddyn i fyny os ydynt am ddod yn genedlatholwr/aig Mericianaidd- hy y "melting pot" Ond ta waeth am hynny.
Ti'n iawn bod Canada yn falch o ac yn brolio ei mosaic diwyllanol. Mae'n nhw yn un o ddwy wlad yn y byd sy hefo gweithred swyddogol aml-ddiwyllianol. (Awstralia yw'r llall). A dyna yw un o'r pethau mae gen rhai or bobl yn erbyn Québec yn torri i ffwrdd - y golled o'r ddiwyllaint yna
S.W. a ddywedodd:Mae gen ti fudiadau yn yr UDA sydd am greu gwladwriaeth annibynol yn nhaleithiau'r De o amgylch Florida a Georgia i'r pobl dduon. Nytars hiliol ydyn nhw.
Ydy hyn yn golygu bod y Gwyddelod yn nytars hiliol ga eu bod nhw, wedi torri i ffwrdd o'r DU?
S.W. a ddywedodd:H.y. mwy yn erbyn y cysyniad o fod yn rhan o rhywbeth oedd yn 'British' nag isio bod yn annibynol fel y cyfryw.
Am wn i dwi'n cytuno efo chdi yn fan'ma - Ond mae dewis gan bobl i bod yn rhan o, a chael cymorth gan rywbeth nad ydyn yn licio, neu trio stryglan ar ben eu hunain. Dyma oedd un ddadl fawr adeg y refferendwm - arian gofal iechyd roedd Québec yn ei gael o Ottawa.
S.W. a ddywedodd:Mae'n enghraifft dda o sut gall ardal fod yn ddwyieithog o fewn bron pob agwedd o fywyd gyda ychydig iawn o drafferth..
'Swn i ddim yn deud bod hyn yn wir o bell fordd. Mae'r agwedd at yr ieithoedd wahanol yng Nghanda yn eitha tebyg am wn i i farn rhia pobl am y Gymraeg - "Beth yw'r pwynt os alla i wneud yn ianw hebddi?" H.y. Mae Ffrangeg yn rhywbeth aen rhiad i bawb astudio yn yr ysgol. Ond roedd yn gas gen y rhan fwyaf o'r bobl dw i'n eu nabod astudio'r iaith. Mae llai a llai o bwysicrwydd i Ffrangeg wrth i chdi fynd yn fwy i'r Gorllewin - a phan ti'n cyrraedd BC - 'sna fawr o son amdnai o gwbwl.
Mae o'r un peth efo Seaseng yn Québec - nesh i gyfarfod a rhai Québécois yn y coleg oedd bron dim saesneg ganddyn nhw. gan nad oedd ei angen o yn Québec.
Mae'n wir alla i fynd i Loblaws, neu Weston Produce a prynu bocs o gorn fflecs, dwyieithog. Ond dwi'm yn siwr a yw'r Ffrangeg ar y bocs yn adlwyrchu bod Canada yn wlad dwyieithog, ynteu ydy o yna dim ond oherwydd y deddf iaith, a fel bod dim rhaid argraffu 2 fath o focs - un Ffrengig, ac yn Saesneg.
S.W. a ddywedodd:Petai KFC hefo arwydd mewn iaith frodorol yn ogystal a Ffrangeg a Saesneg yna byddai hynny wir UN enghraifft o rhywbeth dylsai Cymru edrych tuag ato.
Dwi wedi iwsio ATMs (Peirianau banc i chdi a fi!) yng Nghanda hefo tair iath posib ynddyn nhw - Saesneg, Ffrangeg a Tsieniadd (Paid a gofyn pa ddeialect!) i adlwyrchu y canran mawr o fewnfudwyr, a felly siaradwyr Tsieniaidd yng Nghanada. Digon da i chdi?
(Sori am wneud gymaint o ddyfyniadau!)