Quebec: A yw'n wlad/genedl?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan S.W. » Mer 18 Ebr 2007 3:05 pm

Heblaw fod ganddyn nhw monarchy!

O ddifri pan fuais i yng Nghanada chydig flynyddoedd yn nol a neud rhyw sylw fy mod i di dod ar fy ngwyliau i beidio gwario arian hefo llun o'r Frenhines arno. Ges i ymateb bod pobl Canada yn dueddol o fod yn ffafriol iawn tuag at y Cwin gan bod on gadael i pobl wbod nad America mohonynt!

Dwim yn dweud bod gan yr UDA a Chanada yr un diwylliant. Ond, mae'r ddwy wlad yn wledydd sydd a Saesneg fel y brif iaith, sydd a chysylltiadau a Phrydain. Ond, sydd hefyd yn wledydd wedi eu seilio ar fewnfudo o ar draws y byd yn enwedig o Ewrop. Mae hynny'n neud nhw'n debyg iawn. Petai'r UDA heb gael ei chreu yn 1774 pan gicwyd y Prydeinwyr allan byddai o ddim yn amhosib bod yr UDA a Canada wedi dod yn annibynol gyda'u gilydd fel un gwlad yn hwyrach ymlaen beth bynnag.

Y gwahaniaeth ydy bod a Canadiaid ddim mor dreisgar a'u cymdogion (gweler Bowling for Columbine).
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Un o Gwebéc » Iau 19 Ebr 2007 4:01 pm

S’mae,

Dwi’n o Gwebéc a mi nes i ddarllen nifer o negeseuon ddiddorol iawn ac eisiau dweud ychydig bach am bwynt ‘ma. Dwi wedi darllen ychydig bach am hanes Cymru ac dwi’n meddwl fy mod i’n gwybod ddigon am Quebec i rhoi farn o defnydd – gobeithio o leiaf :?

Yn y lle cyntaf, dwi’n sicrhau y mae’r syniad bod Quebec yn talaith o Ganada fel eraill ddim i drwch y blewyn. O leiaf, does ddim sut y mwyafrif y Cwebecwyr yn ystyried eu hunan. Yn lle, dan ni'n ystyried ein hunan fel Cwebecwyr yn y lle cyntaf ac Canadaidd wedyn ...

Dwi ddim yn gwybod am sefyllfa hunaniaeth Sir Benfro mewn Cymru. Ydi'r siaradwyr Saesneg yr ardal yn ystyried eu hunan fel Welsh, Saeson, neu bobol yr ardal yn y lle cyntaf ?
Gorau arf, arf ddysg
Rhithffurf defnyddiwr
Un o Gwebéc
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Iau 19 Ebr 2007 2:00 pm
Lleoliad: Rhywle ger Cwebéc, Canada

Postiogan Un o Gwebéc » Iau 19 Ebr 2007 4:35 pm

dienw a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:O ran diwylliant does dim llawer o wahaniaeth rhwng Canada a'r UDA.


:ofn: Mae hynny'n ddeud mawr. Siwr 'sa na ambell un yng Nghanada yn anghytuno. :)


Mae'n dibynnu. Mae ofn arna i fod mae'n rhannol cywir, a leiaf am rhan Canada saesneg eu iaith :ofn:
Gorau arf, arf ddysg
Rhithffurf defnyddiwr
Un o Gwebéc
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Iau 19 Ebr 2007 2:00 pm
Lleoliad: Rhywle ger Cwebéc, Canada

Postiogan anffodus » Iau 19 Ebr 2007 5:42 pm

Rhods a ddywedodd:O ran Cymru ar iaith - ar ffin - wel odd y Gymraeg yn cael ei siarad trwy Prydain gyfan cannoedd o flynyddoedd yn ol - ydw in iawn?? Pam y ffin? Pwy greodd y ffin? Gall rhywun dweud wrtha i yr hanes - achos dwi ddim yn gwbod dim am hyn - gall rhywun ar maes esbonio wrtha i ???(sori am bod yn thic bois!)


Harri'r VIII greodd y ffin pan odd o'n creu'r deddfa uno. Mi oedd 'na ffin o ryw fath cyn y deddfa ond mi newidwyd chydig bach arni. Cyn y ddeddf roedd 'na lefydd fel Croesoswallt a llefydd tebyg sy yn Lloegr heddiw, yng Nghymru'r adag honno. Ond mi roth Harri rheiny i Loegr ac mi rannodd o weddill Cymru i 13 o siroedd. Mi gafodd sir fynwy ei hychwanegu at Gymru'n eitha diweddar sy'n sail i'r ddadl gan yr English Democrats y dylia na refferendwm fod ym mynwy i weld os ydi'r bobl isio bod yn Gymry neu Saeson
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan dienw » Iau 19 Ebr 2007 11:15 pm

Un o Gwebéc a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:O ran diwylliant does dim llawer o wahaniaeth rhwng Canada a'r UDA.


Mae'n dibynnu. Mae ofn arna i fod mae'n rhannol cywir, a leiaf am rhan Canada saesneg eu iaith :ofn:


Mae fy nghyfeillion saesneg eu hiaith yma yn anghytuno'n llwyr - ond mae'n debyg eu bod nhw wedi cael llond bol ar gael eu galw'n "Americanwyr" pan yn teithio dros môr :)
dienw
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Sad 22 Gor 2006 8:24 pm
Lleoliad: Canada

Postiogan Un o Gwebéc » Gwe 20 Ebr 2007 2:32 pm

Mae fy nghyfeillion saesneg eu hiaith yma yn anghytuno'n llwyr - ond mae'n debyg eu bod nhw wedi cael llond bol ar gael eu galw'n "Americanwyr" pan yn teithio dros môr :)[/quote]

Ella ti'n iawn. O'm rhan i, rwy'n casau pan bobol yn defnyddio y gair "America" lle maen nhw'n siarad am yr UDA yn unig. Yn union fel Mecsico â Chanada ddim yn fodoli o gwbwl.

Ynglyn a'u diwylliant nawr. Wrth gwrs, maen nhw'n anghytuno'n llwyr. Ond dwi'n siwr dy ffrindiau yn edrych ar gyfres yr UDA o bryd i bryd ? Efallai mae nhw gwrando ar y newyddion ar sianeloedd fel CNN, ABC, bobol fel Larry King ac eraill ?

Ond beth ydi i fod "Canadian" ? Bod ar wahan o'r bobol yr UDA ? Ydi hi'n meddwl mae'r hunaniaeth canadaidd ei sefydlu ar wrthblaidd yr UDA ?

Beth ydi dy farn hynny, Dienw ? Rwy'n meddwl mae rhaid i ti gwybod fy mod i wedi byw yn Ontario ac wedi fyw ymlith â bobol saeneg eu iaith am flynedd, gan o'n rhan y Canadian Forces am naw flwyddyn. Felly, dwi ddim yn ystyried fy hun heb brofiad empeiraidd chwaith 8)

Gyda llaw, lle wyt ti'n fyw ar hyn o bryd ? Ac wyt ti wedi bod yn Canada am tro hir ?
Gorau arf, arf ddysg
Rhithffurf defnyddiwr
Un o Gwebéc
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Iau 19 Ebr 2007 2:00 pm
Lleoliad: Rhywle ger Cwebéc, Canada

Postiogan Lôn Groes » Gwe 20 Ebr 2007 6:01 pm

S.W. a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Mr Gasyth, dwi wedi dweud eisioes bod o fyny i nhw yn y pendraw oll gallaf i ei wneud ydy cynnig barn ar y mater. Mae Quebecois a'r Gymraeg yn ddau beth gwbl wahanol a gwreiddiau cwbwl wahanol iw dadleuon.


Ti'n iawn. Ond o ddilyn rhesymeg dy ddadl di dylai Canada a'r Unol Daleithiau uno, ynghyd a Mecsico a gweddill America Ladin hyd yn oed. Pam fod y ffin ar y 49th pararell yn iawn ac yn gwneud synnwyr fel rhaniad cenhedloedd, ond fod Quebec ddim?


O ran diwylliant does dim llawer o wahaniaeth rhwng Canada a'r UDA. Prydain greodd Canada pan gafodd hi ei chicio allan o'r UDA. Dyna pam y bu i Brydain a'r UDA fynd i ryfel sawl gwaith yn y 19fed ganrif dros y ffin rhwng y ddwy wlad. Mi losgodd byddin Prydain yr Hen Ty Gwyn i lawr mewn ffraeo dros ddyfodol Canada.

Ond, dyna sut mae hanes wedi ei throi hi. Yn yr un modd a Awstralia a Seland Newydd. Gwledydd sy'n enghreifftiau wych o sut mae Ewropeaid wedi dod i fewn a newid natur y wlad au creu yn wledydd cymys o ran eu diwylliant.


Oes mae 'na wahaniaeth rhwng diwylliant Canada a diwylliant yr Unol Daleithiau.
Ffrwyth hanes a thirwedd Canada ydi diwylliant Canada ac nid yr Unol Daleithiau. Gwelir hyn yn amlwg yn ei barddoniaeth, llenyddiaeth, miwsig ac arluniaeth.
Mae diwylliant Talaith Cwibec, ar y llaw arall, yn hollol unigryw wrth gwrs ac yn 'home grown' ac yn sicr yn wahanol i ddiwylliant America; a Ffrangeg yw'r iaith ac nid Saesneg.
Digon gwir mae diwylliant Canada yn dangos dylanwad Prydeinig, Ffrengig a diwylliant y Brodorion Cyntefig. Ond serch hyny Canadian ydi diwylliant Canada ac nid American.
Mae pobl Canada yn ymfalchio yn ei gwlad a'i thraddodiadau. Ac mae'r llywodraeth yn gweithio'n galed i leihau dylanwadau allanol trwy gyfrwng rhaglenni, deddfau a sefydliadau fel y Canadian Broadcasting Corporation, National Film Board Canada a'r Canadian Radio-television and Telecommunications Commission.
Fel Canadian o dras Cymreig ac un sydd wedi byw yng Nghanada am dros ddeugain mlynedd mi rydw i yn ymwybodol o'r tebygrwydd rhwng sefyllfa diwylliant Cymru ym Mhrydain a sefyllfa diwylliant Canada yng Ngogledd America.
Na tydi diwylliant Cymru ddim bron ru'n peth a Lloegr. A tydi diwylliant Canada ddim bron ru'n peth ag America chwaith. Neu mi fwytai'n het.

:lol:
'.............Yna heb frys na braw
Llithrodd ei flewyn cringoch dros y grib;
Digwyddodd,darfu,megis seren wib.'
Lôn Groes
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Sul 18 Gor 2004 11:31 pm
Lleoliad: Glannau'r Tawelfôr: Canada

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai