gan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 26 Ebr 2007 9:35 am
Ond eto, Ms Wolf, mae'r gyfundrefn gyfansoddiadol yr ydych chi'n cwyno does neb yn gwybod ddigon amdano wedi golygu fod y Democratiaid wedi dod i rym yn y Gyngres Dachwedd ddiwetha, wedi dechrau proses o ddadansoddi a dad-wneud rhai o'r dewisiadau a wnaethpwyd gan lywodraeth cyntaf Bush, wedi gweld yr un a noddwyd gan Bush i'r C.U. adael y swydd gan y byddai'n gwybod na fyddai'n cael ei gymeradwyo, wedi gweld gadawiad Rumsfeld o dan gwmwl, ac wedi gweld llu o'r Neo-Cons yn llithro allan drwy ddrws cefn y Ty Gwyn gan fod pethau ar chwal.
Mae pawb yn gwybod na fuasai Bush efo gobaith petai efo'r gallu i sefyll am etholaeth eto - hynny yw, mae'r cyfundrefn yn gweithio - ac mae'r ffaith nad oes na'r un enw credadwy ymysg y Gweriniaethwyr ar hyn o bryd ar gyfer 2008 yn dweud llawer. Er fod Bush wedi ceisio arwain (neu yn hytrach wedi adael ei hun i gael ei arwain gan eraill, clyfrach), rwan y mae'r gyfundrefn yn galluogi i ddeddfwyr America symud yn erbyn ei wallau mewyaf amlwg. Dyna sut mae democratiaeth cynryhchioledig yn gweithio, wyddoch chi?
Bosib fod na bwynt i'r erthylg yma yn 2004, ond rwan? Son am fod a'r bys ar y pyls, mwn.
Ie, ie. Na fe.