Ydi America'n troi'n wladwriaeth dotalitaraidd?

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydi America'n troi'n wladwriaeth dotalitaraidd?

Postiogan Emrys Weil » Maw 24 Ebr 2007 8:54 pm

Erthygl ysgytiol gan Naomi Wolf yn y Guardian heddiw:

yma

Yr ymateb cyntaf oedd - ti'n gor-ddeud, Naomi, heb gymharu tebyg at ei debyg, ond mae rhywbeth yn y paragraffau olaf, ac yn arbennig yn y modd mae'n ymdrin a hawliau newydd yr Arlywydd sy'n argyhoeddi.

Dim ond mater o amser yw hi cyn bydd y dyn neu ddynes iawn (neu, yn hytrach, rong) yn cam-ddefnyddio'r pwerau...
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan huwwaters » Maw 24 Ebr 2007 9:21 pm

Daeth hyn yn amlwg i mi gyda George W. Bush yn ymestyn ei bwer gyda 'veto' dros bleidleisiau yn nhai'r Cyngres.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Foel Gornach » Maw 24 Ebr 2007 11:27 pm

Mae'r erthygl yn un wirioneddol frawychus.

Nid dinasyddion yr UDA yn unig sy'n mynd i gael eu heffeithio gan y symud hwn at dotalitariaeth. Gan fod grym economaidd a diwylliannol y wladwriaeth honno yn ymestyn ar draws y byd, ac yn dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yng Nghymru fach yn meddwl hefyd, mae perygl mawr i bob un.

Rhaid i ni fod yn barod i wrthsefyll y grym imperialaidd hwn. Mae cenedlaetholdeb Cymreig yn rhan o'r arfogaeth i wneud hynny!
Rhithffurf defnyddiwr
Foel Gornach
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 99
Ymunwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
Lleoliad: Dyffryn Teifi

Postiogan huwwaters » Mer 25 Ebr 2007 10:18 am

Foel Gornach a ddywedodd:Mae'r erthygl yn un wirioneddol frawychus.

Nid dinasyddion yr UDA yn unig sy'n mynd i gael eu heffeithio gan y symud hwn at dotalitariaeth. Gan fod grym economaidd a diwylliannol y wladwriaeth honno yn ymestyn ar draws y byd, ac yn dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yng Nghymru fach yn meddwl hefyd, mae perygl mawr i bob un.

Rhaid i ni fod yn barod i wrthsefyll y grym imperialaidd hwn. Mae cenedlaetholdeb Cymreig yn rhan o'r arfogaeth i wneud hynny!


Dwi'n meddwl bod angen i'r Undeb Ewropeaidd neud mwy i ddenu pobol at fod the defnyddio'r Ewro yn lle'r Doler fel cyfrwng marchnata.

Triodd Yr Ariannin newid at y Doler. Llardie llwyr. Bellach mae'r Doler wedi cyrraedd $2 am £1. Dwi'n meddwl fod angen ceisio cael pobl i fuddsoddi mewn pres sefydlog y mae nifer o wledydd yn ei ddefnyddio, er mwyn leihau unrhyw symudiad negyddol y gall yr UDA ei wneud ar y byd.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Iesu Nicky Grist » Mer 25 Ebr 2007 10:40 am

Pwy droi'n dotalitaraidd? :? America greodd totalitariaeth.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Postiogan Nanog » Mer 25 Ebr 2007 7:31 pm

Ydy nhw wedi dechre creu 'mangreoedd' fyd? :?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Dafydd Iwanynyglaw » Iau 26 Ebr 2007 9:35 am

Ond eto, Ms Wolf, mae'r gyfundrefn gyfansoddiadol yr ydych chi'n cwyno does neb yn gwybod ddigon amdano wedi golygu fod y Democratiaid wedi dod i rym yn y Gyngres Dachwedd ddiwetha, wedi dechrau proses o ddadansoddi a dad-wneud rhai o'r dewisiadau a wnaethpwyd gan lywodraeth cyntaf Bush, wedi gweld yr un a noddwyd gan Bush i'r C.U. adael y swydd gan y byddai'n gwybod na fyddai'n cael ei gymeradwyo, wedi gweld gadawiad Rumsfeld o dan gwmwl, ac wedi gweld llu o'r Neo-Cons yn llithro allan drwy ddrws cefn y Ty Gwyn gan fod pethau ar chwal.

Mae pawb yn gwybod na fuasai Bush efo gobaith petai efo'r gallu i sefyll am etholaeth eto - hynny yw, mae'r cyfundrefn yn gweithio - ac mae'r ffaith nad oes na'r un enw credadwy ymysg y Gweriniaethwyr ar hyn o bryd ar gyfer 2008 yn dweud llawer. Er fod Bush wedi ceisio arwain (neu yn hytrach wedi adael ei hun i gael ei arwain gan eraill, clyfrach), rwan y mae'r gyfundrefn yn galluogi i ddeddfwyr America symud yn erbyn ei wallau mewyaf amlwg. Dyna sut mae democratiaeth cynryhchioledig yn gweithio, wyddoch chi?

Bosib fod na bwynt i'r erthylg yma yn 2004, ond rwan? Son am fod a'r bys ar y pyls, mwn.
Ie, ie. Na fe.
Dafydd Iwanynyglaw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 462
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 10:39 am
Lleoliad: yma


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron