Sarkozy yn fuddugol

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Sarkozy yn fuddugol

Postiogan Clebryn » Sul 06 Mai 2007 6:06 pm

Newyddion gwych o Baris heno!

Sarkozy a'r adain dde yn trechu yr ymgeisydd Sosialaidd Segolene Royal

Dyma ganlyniad calonogol iawn i Ewrop benbaladr ac i'r economi Ffrengig
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Re: Sarkozy yn fuddugol

Postiogan Emrys Weil » Sul 06 Mai 2007 9:28 pm

Clebryn a ddywedodd:Newyddion gwych o Baris heno!

Sarkozy a'r adain dde yn trechu yr ymgeisydd Sosialaidd Segolene Royal

Dyma ganlyniad calonogol iawn i Ewrop benbaladr ac i'r economi Ffrengig


Newyddion drwg iawn i'r iaith Lydaweg, ac i unrhyw un nad yw'n cydfynd a delwedd Sarkozy o Ffrengig-dod.
Pan gyrhaeddaswn ganol gyrfa'n bywyd,
Mewn coedwig dywell, cefais i fy hunan;
Oherwydd ynddi'r union ffordd gollasid.
Rhithffurf defnyddiwr
Emrys Weil
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 410
Ymunwyd: Gwe 16 Gor 2004 8:02 pm

Postiogan Mr Gasyth » Sul 06 Mai 2007 10:36 pm

Tra mod i'n amau fod economeg adain dde Sarkozy am fod yn dda i Ffrainc, mae ei agweddau adain dde ar faterion fel mewnfudo, hawliau dinesig, yr heddlu ac ati yn fy mhoeni yn fawr. Mae Ffrainc i mewn am gyfnod o wrthdaro dwi'n amau.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan krustysnaks » Sul 06 Mai 2007 10:49 pm

Doedd gwrando ar ganlyniad Ffrainc ddim hanner mor dda â Chymru.

Un cyhoeddiad bach pitw am saith o'r gloch y nos?

Rhowch i mi aros i fyny at 0430 a dal ddim bod yn siwr pwy sydd wedi ennill unrhyw ddydd.

O ddifri: fe fydd hi'n gyfnod anodd i Ffrainc rwan. Mae'r wlad fel petae hi wedi bod yn 'coastio' o dan Chirac ac mae penderfyniadau pwysig i'w gwneud nawr. Fe fydd gweld yr wythnos waith 35 awr yn diflannu a pholisiau Sarkozy ar gyfer y "scum" dinesig yn her i'r wlad, dwi'n meddwl.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Postiogan Rhods » Maw 08 Mai 2007 12:52 pm

Canlyniad ffantastig ir Thatcherwr Ffrengig Sarkozy! Ergyd enfawr ir chwith :lol: :lol:

Dwi yn meddwl fod e yn foi tyff - a fydd e yn sefyll lan iw elynion - dim nonsens. Ishe bach o hwn nol yng ngwleidyddiaeth Cymru/Prydain yn lle'r namby/pampy nonsens'ma sydd wedi cymryd drosodd ein gwleidyddiaeth ni dros y blynyddoedd diwetha.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan Griff-Waunfach » Maw 08 Mai 2007 1:30 pm

Rhods a ddywedodd:Canlyniad ffantastig ir Thatcherwr Ffrengig Sarkozy! Ergyd enfawr ir chwith :lol: :lol:


Felly, Rhods, mi wyt ti yn credu bod beth sy'n dda mewn un gwlad yn dda ym mhob gwlad? Er gwaetha diwylliant / hanes gwleidyddol ac sefyllfa economi'r wlad honno?
Dwi ddim yn dweud fy mod i yn gwybod llawer am wleidyddiaeth Ffrainc, na Sarkozy, ond byddwn i ddim yn cefnogol i rhywun sydd ar yr un trywydd gwleidyddol a mi mewn gwlad arall, heb gwybod unrhywbeth am y sefyllfa yno.

Hefyd sut mae'n ergyd i'r chwith... oni bai oedd Chiraq yn "trendy lefty", fel wyt ti'n hoff o'i disgrifio nhw Rhods :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Mr Gasyth » Maw 08 Mai 2007 1:34 pm

Griff-Waunfach a ddywedodd:Hefyd sut mae'n ergyd i'r chwith... oni bai oedd Chiraq yn "trendy lefty", fel wyt ti'n hoff o'i disgrifio nhw Rhods :winc:


Doedd Chirac ddim yn sefyll. Fe gurodd Sarkozy yr ymgeisydd sosialaidd yn y rownd olaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Griff-Waunfach » Maw 08 Mai 2007 1:36 pm

Dwi yn gwybod hwna! Ond nid yw sefyllfa'r sosialwyr wedi gwaethygu. Felly a yw hyn yn ergyd?
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Clebryn » Maw 08 Mai 2007 2:01 pm

Griff-Waunfach a ddywedodd:Dwi yn gwybod hwna! Ond nid yw sefyllfa'r sosialwyr wedi gwaethygu. Felly a yw hyn yn ergyd?


Mae nhw wedi colli 4 etholiad arlywyddol yn olynol!
Os nad yw hynny yn ergyd- be sy!?

Mae Segolene Royal wedi profi unwaith ac am byth nad yw sosialaeth Ffrainc yn etholadwy! Mi fydd rhaid i'r blaid sosialaidd ddiwygio yn sylfaenol o hyn allan os am adfer ei chroen gwleidyddol
Am Gymrawd, Ew am Gymro
Clebryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 498
Ymunwyd: Gwe 13 Mai 2005 5:42 pm

Postiogan krustysnaks » Maw 08 Mai 2007 4:08 pm

Rhods a ddywedodd:Dwi yn meddwl fod e yn foi tyff - a fydd e yn sefyll lan iw elynion - dim nonsens. Ishe bach o hwn nol yng ngwleidyddiaeth Cymru/Prydain yn lle'r namby/pampy nonsens'ma sydd wedi cymryd drosodd ein gwleidyddiaeth ni dros y blynyddoedd diwetha.

Fydden i'n dewis "namby/pampy nonsens" dros rhywun sy'n meddwl bod galw dynion ifainc, di-waith, dinesig o leiafrifoedd ethnig yn "sgym" yn iawn bob tro.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron