Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2007 4:44 pm
gan Mihangel Macintosh
Newyddion drwg.

O liaf fe wnaeth Chirac ei deimladau yn glir am Irac a peidio a bod yn bwdl bach i Bush...

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2007 6:22 pm
gan Selador
Be sy'n bod efo pobol? Odd Bayrou yn amlwg yn ddyn bach ffein. O leia ma'r Ffrancwyr wedi cael rhywun tebyg i Le Pen o'r diwedd, rhywbeth manw wedi bod yn anelu amdano ers rai blynyddoedd. Blydi Ffrensh.

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2007 6:32 pm
gan Dylan
anodd dweud faint sydd wedi newid mewn gwirionedd. Roedd union yr un ffraeo, a'r union un addewidion am ddiwygio'r economi ayyb, yn digwydd pan ddaeth Chirac i rym yn 1995.

er mae'n wir bod Chirac a Sarkozy'n casáu'u hunain bellach

ond ta waeth am hynny. Os ydi'r etholiadau seneddol yn mynd yn erbyn Sarkozy yna fydd o methu gwneud hanner yr hyn mae o isio'i wneud be bynnag

PostioPostiwyd: Maw 08 Mai 2007 11:06 pm
gan Selador
Dylan a ddywedodd:er mae'n wir bod Chirac a Sarkozy'n casáu'u hunain bellach


Dydi hunan-gasauwyr ddim yn cael trio elecsiwn. Dychmyga Tony Blair;
"Oh nononono!! I'm such a bad man!! Really, I should be shot. In the bum! I have killed so many people, women, men, bishops, men with exellent moustaches. Oh! Wha am I here? Where am I? Is that a pidgeon on my fountain? F*CK OFF!!*&%*£&%*£&%"

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 8:50 am
gan Hogyn o Rachub
:lol:


Mwynhau

PostioPostiwyd: Mer 09 Mai 2007 6:44 pm
gan Dylan
wps :D

ia ia "casáu'i gilydd" :wps: