Diwrnod Masnach Deg Fyd Eang heddiw!

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Diwrnod Masnach Deg Fyd Eang heddiw!

Postiogan serentywi » Sad 12 Mai 2007 6:41 pm

Fuoch chi'n siopa heddiw? A brynoch chi unrhyw nwyddau Masnach Deg?

Mwy o wybodaeth am Fasnach Deg yng Nghymru yma:
http://www.gwe.nu/fairtrade/iaith/cymra ... x_cym.html
serentywi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 13
Ymunwyd: Gwe 16 Chw 2007 10:03 am
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan briallen » Maw 15 Mai 2007 5:41 pm

Fe brynais i goffi masnach deg heddiw, dwi wedi penderfynu prynu o leiaf un neu ddau beth masnach deg pob wythnos. Ma bobol yn meddwl bod nhw'n ddrud - gostiodd e ddim tamaid mwy na'r brand dwi'n prynu fel arfer ac roedd ei flas e ddim gwahanol. Mae'r bariau siocled masnach deg yr un mor resymol 'fyd.

Llawer gwell rhoi arian ychwanegol ym mhoced y cynhyrchwyr na'r brands mawr na! Pan y'ch chi'n prynu nwyddau masnach deg mae'r cynhyrchwyr yn derbyn cyflog teg, ar ben hynny mae na bremiwm cymdeithasol ar gael i wella'r cymunedau hynny ac mae'r plant yn cael mynd i'r ysgol yn lle gorfod gweithio am cwpwl o geinioge yr wythnos.
briallen
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 26
Ymunwyd: Llun 18 Medi 2006 12:18 pm

Postiogan gronw » Maw 15 Mai 2007 9:54 pm

cytuno am siocled masnach deg.

ben. di. gedig.

mae bariau mawr y co-op o siocledi masnach deg yn hyfryd, bob un ohonynt.

Delwedd

(a'u siocled du nhw, ail o'r chwith, ydy'r siocled du gore ER IOED).

hefyd, dwi'n gwbod bod tesco yn evil, ond mae'n anodd peidio maddau ychydig bach iddyn nhw am y nefoedd isod...

Delwedd
(sori am ansawdd y llun. hazelnut chocolate spread. mm hm)
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai