Dili Minllyn a ddywedodd:Dan Dean a ddywedodd:Mae gen i wastad broblem fach efo'r pwynt yna ynglyn a'r cyfansoddiad gwreiddiol. Yndi, mae o yn 100% wrth-Israel, ond be da chi'n ddisgwyl os cafodd Hamas ei ffurfio yn Gaza dan oresgyniad byddin Israel? Pan mae grwp arfog yn cael ei greu mewn tir sydd o dan oresgyniad, go brin bydd y cyfansoddiad yn niwtral tuag at wlad y goresgynwyr. Mae hefyd yn gwrth iddew, ond fysa fo felna sa'r milwyr digwydd bod yn Hindi?
Gan bwyll, 'ychan. Does rhaid ceisio cyfiawnhau cyfansoddiad ffiaidd Hamas, dim ond achos 'fod ti'n cydymdeimlo efo dioddefaint y Palesteiniaid. Mae'n gwbl bosibl pleidio rhyddidd i Balisteina heb amddiffyn pob hurtrwydd sy'n cael ei fynegi gan rai o'r Palesteiniaid.
Wyyw, arglwydd mawr, gan
di bwyll Dili!
Dwi mond yn cyfeirio at un bwynt y cyfansoddiad (sef ateb i dylan efo'r pwynt "gwthio Israel i mewn i'r môr") a ti'n dweud fy mod i'n trio cyfiawnhau
Y cyfansoddiad. Wnai byth mo hynnu, gan fod dipyn ohono yn
bolycs crefyddol eithafol sydd yn cega yn erbyn y syniad o Palesteina seciwlar - sef y math o beth fysa rooney yn sgwennu tysa fo yn fwslim o dan oresgyn Israel.
Nid wyf chwaith yn "cyfiawnhau" neu'n "ymddiheuro" eu agwedd. Cwbwl dwi'n feddwl yw bod nifer yn cymeryd y pwynt yna gormod o ddifri achos a) ni fuaswn yn disgwyl agwedd llawer gwell oherwydd y rhesymau dwi di nodi yn barod a b) dydi Hamas heb wneud llawer am y peth ers iddynt gael eu ethol ac wedi dangos agwedd chydig llai eithafol a mae'n siwr yn sylwi erbyn rwan pa mor anrealistig yw'r syniad ei hun.
Dili a ddywedodd:Mae'n gwbl bosibl pleidio rhyddidd i Balisteina heb amddiffyn pob hurtrwydd sy'n cael ei fynegi gan rai o'r Palesteiniaid
Wrth gwrs, cytuno'n llwyr.
rooney a ddywedodd:Cytunaf fod y syniad yma'n gwbl hurt- theocratiaeth a deddf sharia mae islam eisiau, nid democratiaeth.
Methu'r pwynt. Y pwynt ydi cafodd Hamas eu ethol yn ddemocrataidd drwy pleidlais teg.
Cath Ddu a ddywedodd:Ddaru mi ddweud fod y BBC yn ffafriol tuag at Hamas? Na, dwi ddi yn credu - jyst datgan fod diffyg cywirdeb FFEITHIOL Cwlcymro yn ymdebygu i waith gohebwyr y BBC.
O diar
Diffyg cywirdeb ffeithiol - wel cywira ei ffeithia ta yn lle cymharu ei gyfraniad efo'r peth cynta ti ddim yn lecio sydd yn dod i dy feddwl. O be dwin weld mae'r ffeithia mae Cwl yn gyflwyno yn gywir.
Cath Ddu a ddywedodd:Tydi gweddill dy gyfraniad, sy'n ddim mwy na ymddiheuriad dros safbwynt Hamas o wrthwynebu bodolaeth Israel, yn haeddu dim ond dirmyg.
Cath ddu unwaith eto yn dod allan efo dadansoddiad rybish ac anadeiladol o fy marn. Mae hyn yn dechra troi yn habit.