Fatah a Hamas

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Mer 20 Meh 2007 11:26 pm

Dan Dean a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Mae'r cyfranad hwn yn ddoniol blaw fod o mor un-llygeidiog. Hamas heb ladd tan yr wyrhnos yma!

Nath o ddim cweit dweud hynnu, naddo? A cymhara trais Hamas cyn yr etholiad efo ar ol - wedi gostwng lawer, yn enwedig yn erbyn Israel ei hun.

Ia wir Cwlcymro - be nesa i ti? Job yn y BBC?

:rolio:
Callia. Neu dangos i mi chydig o dystiolaeth sydd yn dangos y BBC yn un-llygeidiog ffafriol tuag at Hamas.


Ddaru mi ddweud fod y BBC yn ffafriol tuag at Hamas? Na, dwi ddi yn credu - jyst datgan fod diffyg cywirdeb FFEITHIOL Cwlcymro yn ymdebygu i waith gohebwyr y BBC.

Falle hefyd fod trais Hamas wedi syrthio tan yr wythnos diwethaf ond ddim dyna ddwedodd Cwlcymro naci Dan - yr hyn ddywedodd Cwl oedd fod Hamas wedi gochel rhag lladd tan yr wythnos hon. Tydi hyn, fel mae dy gyfraniad yn gydnabod, ddim yn wir.

Tydi gweddill dy gyfraniad, sy'n ddim mwy na ymddiheuriad dros safbwynt Hamas o wrthwynebu bodolaeth Israel, yn haeddu dim ond dirmyg.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cwlcymro » Sad 23 Meh 2007 4:34 pm

Waw, y Gath yn chwilio am ffeit eto, nachdi sioc.

Ma echylldra'r wythnos ddiwetha yn gam anferthol o'r mudlosgi oedd yno ers yr etholiad. Ti'n gwbo yn iawn fod neb yn trio deud fod na ddim lladd wedi bod yna ers misoedd, ond am rhyw reswm ma genti ysfa i chwylio am ddadl lle does dim un.

Dwi'n shwr fedrith yr un-llygeidiog gath gytuno ei bod hin hypocritical iawn mynnu fod Palestinia yn troi at ddemocratiaeth ond, pan mae nhw yn gwneud hunna, gwrthod derbyn y canlyniad a gwthio i greu llywodraeth heb y blaid fwyafrifol heb fandate y Senedd?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sad 23 Meh 2007 4:47 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Allaim credu pa mor hypocritical ma arweinyddion y Gorllewin yn gallu bod efo'r Dwyrain Canol. Sawl gwaith da ni'n clywed y fantra "spreading democracy in the middle east" - yn enwedig gan yr Unol Daleithiau.


Cytunaf fod y syniad yma'n gwbl hurt- theocratiaeth a deddf sharia mae islam eisiau, nid democratiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dili Minllyn » Sad 23 Meh 2007 7:53 pm

Dan Dean a ddywedodd:Mae gen i wastad broblem fach efo'r pwynt yna ynglyn a'r cyfansoddiad gwreiddiol. Yndi, mae o yn 100% wrth-Israel, ond be da chi'n ddisgwyl os cafodd Hamas ei ffurfio yn Gaza dan oresgyniad byddin Israel? Pan mae grwp arfog yn cael ei greu mewn tir sydd o dan oresgyniad, go brin bydd y cyfansoddiad yn niwtral tuag at wlad y goresgynwyr. Mae hefyd yn gwrth iddew, ond fysa fo felna sa'r milwyr digwydd bod yn Hindi?

Gan bwyll, 'ychan. Does rhaid ceisio cyfiawnhau cyfansoddiad ffiaidd Hamas, dim ond achos 'fod ti'n cydymdeimlo efo dioddefaint y Palesteiniaid. Mae'n gwbl bosibl pleidio rhyddidd i Balisteina heb amddiffyn pob hurtrwydd sy'n cael ei fynegi gan rai o'r Palesteiniaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dan Dean » Sul 24 Meh 2007 12:38 pm

Dili Minllyn a ddywedodd:
Dan Dean a ddywedodd:Mae gen i wastad broblem fach efo'r pwynt yna ynglyn a'r cyfansoddiad gwreiddiol. Yndi, mae o yn 100% wrth-Israel, ond be da chi'n ddisgwyl os cafodd Hamas ei ffurfio yn Gaza dan oresgyniad byddin Israel? Pan mae grwp arfog yn cael ei greu mewn tir sydd o dan oresgyniad, go brin bydd y cyfansoddiad yn niwtral tuag at wlad y goresgynwyr. Mae hefyd yn gwrth iddew, ond fysa fo felna sa'r milwyr digwydd bod yn Hindi?

Gan bwyll, 'ychan. Does rhaid ceisio cyfiawnhau cyfansoddiad ffiaidd Hamas, dim ond achos 'fod ti'n cydymdeimlo efo dioddefaint y Palesteiniaid. Mae'n gwbl bosibl pleidio rhyddidd i Balisteina heb amddiffyn pob hurtrwydd sy'n cael ei fynegi gan rai o'r Palesteiniaid.


Wyyw, arglwydd mawr, gan di bwyll Dili!

Dwi mond yn cyfeirio at un bwynt y cyfansoddiad (sef ateb i dylan efo'r pwynt "gwthio Israel i mewn i'r môr") a ti'n dweud fy mod i'n trio cyfiawnhau Y cyfansoddiad. Wnai byth mo hynnu, gan fod dipyn ohono yn bolycs crefyddol eithafol sydd yn cega yn erbyn y syniad o Palesteina seciwlar - sef y math o beth fysa rooney yn sgwennu tysa fo yn fwslim o dan oresgyn Israel.

Nid wyf chwaith yn "cyfiawnhau" neu'n "ymddiheuro" eu agwedd. Cwbwl dwi'n feddwl yw bod nifer yn cymeryd y pwynt yna gormod o ddifri achos a) ni fuaswn yn disgwyl agwedd llawer gwell oherwydd y rhesymau dwi di nodi yn barod a b) dydi Hamas heb wneud llawer am y peth ers iddynt gael eu ethol ac wedi dangos agwedd chydig llai eithafol a mae'n siwr yn sylwi erbyn rwan pa mor anrealistig yw'r syniad ei hun.

Dili a ddywedodd:Mae'n gwbl bosibl pleidio rhyddidd i Balisteina heb amddiffyn pob hurtrwydd sy'n cael ei fynegi gan rai o'r Palesteiniaid


Wrth gwrs, cytuno'n llwyr.

rooney a ddywedodd:Cytunaf fod y syniad yma'n gwbl hurt- theocratiaeth a deddf sharia mae islam eisiau, nid democratiaeth.

Methu'r pwynt. Y pwynt ydi cafodd Hamas eu ethol yn ddemocrataidd drwy pleidlais teg.

Cath Ddu a ddywedodd:Ddaru mi ddweud fod y BBC yn ffafriol tuag at Hamas? Na, dwi ddi yn credu - jyst datgan fod diffyg cywirdeb FFEITHIOL Cwlcymro yn ymdebygu i waith gohebwyr y BBC.


O diar :rolio: :lol:

Diffyg cywirdeb ffeithiol - wel cywira ei ffeithia ta yn lle cymharu ei gyfraniad efo'r peth cynta ti ddim yn lecio sydd yn dod i dy feddwl. O be dwin weld mae'r ffeithia mae Cwl yn gyflwyno yn gywir.

Cath Ddu a ddywedodd:Tydi gweddill dy gyfraniad, sy'n ddim mwy na ymddiheuriad dros safbwynt Hamas o wrthwynebu bodolaeth Israel, yn haeddu dim ond dirmyg.

Cath ddu unwaith eto yn dod allan efo dadansoddiad rybish ac anadeiladol o fy marn. Mae hyn yn dechra troi yn habit.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan Dylan » Sul 24 Meh 2007 1:11 pm

theocratiaeth a deddfau'r Beibl mae rooney isio hefyd felly dw i'n cymryd ei fod o'n cydymdeimlo â hwy i raddau
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 24 Meh 2007 1:33 pm

Dylan a ddywedodd:theocratiaeth a deddfau'r Beibl mae rooney isio hefyd felly dw i'n cymryd ei fod o'n cydymdeimlo â hwy i raddau


fel arfer mae'n gwrtais gofyn barn rhywun cyn gwneud honiadau am beth mae nhw'n gredu
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai