Fatah a Hamas

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Waldo » Gwe 15 Meh 2007 1:36 pm

Dyna bechod. O'n i'n meddwl mai un da am gorddi'r dyfroedd oedd rabscaliwn. Mae'n edrych yn debyg mai jyst person llawn casineb ydi o.
Pa eisiau dim hapusach na byd yr aderyn bach?
Rhithffurf defnyddiwr
Waldo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 49
Ymunwyd: Gwe 19 Mai 2006 2:43 pm
Lleoliad: Preseli

Postiogan splosh » Sad 16 Meh 2007 8:11 pm

hamas dylai fael ein cymorth gan fod fatah yr un mor wael a nhw a ma hamas yn amlwg yn ceisio gwella'r ardal a gwella ei cysylltiadau a ni.
"Killing one person is murder. Killing a thousand is foreign policy."
splosh
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 14 Meh 2007 6:51 pm

Postiogan Cwlcymro » Sul 17 Meh 2007 12:11 pm

Allaim credu pa mor hypocritical ma arweinyddion y Gorllewin yn gallu bod efo'r Dwyrain Canol. Sawl gwaith da ni'n clywed y fantra "spreading democracy in the middle east" - yn enwedig gan yr Unol Daleithiau. Ac eto ar ol i Balestinia gynnal etholiada hollol deg (yn ol yr UN, Henry Kisinger, yr Undeb Ewropeaidd a pawb arall oedd yno) mae'r gorllewin yn gwrthod derbyn y canlyniad.

Am ddegawda mi oedd y gorllewin yn trio gwthio Hamas o lwybr terfysgaeth i lwybr democratiaeth. Ond pan ddigwyddodd hynny, be natha ni? Gwneud popeth yn ein gallu i wrthod dewis democratiadd Palestinia a cefnogi y rheini a gollodd yr etholiad.

Oes na unrhyw syndod yn y byd fod Hamas yr wythnos yma wedi rhoi fyny ar y byd democrataidd a mynd nol at y lladd? Os nad ydi'r byd yn barod i dderbyn pleidlais y Palestinwyr, yna wrth gwrs ei bod nhw am droi nol at arfau. A rwan ma Abbas ag America yn penodi Prif Weinidog newydd, dyn a gafodd 2.4% o'r bleidlais yn yr etholiad diwethaf. Sut uffar mae hynna yn "spreading democracy in the midle east"?

Er mor afiach ydi gweithredoedd Hamas drwy'r oesoedd, alla ni ddim mynnu fod Palestinia yn troi at ddemocratiaeth, wedyn, pan ma nhw yn gwneud hynny, gwrthod derbyn ei dewis am fod o ddim y canlyniad odda ni isho. Da ni wleyddd mawr y Gorllewin gymaint, os nad mwy, ar fai am ryfel yr wythnos diwethaf na unrhyw grwp yn Gaza.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan 7ennyn » Sul 17 Meh 2007 6:46 pm

Ond, roedd y Palestiniaid yn ymwybodol o oblygiadau posib ethol llywodraeth Hamas cyn i'r etholiadau hynny ddigwydd. Eu dewis democrataidd nhw oedd wynebu canlyniadau hynny.

Petasai un o wledydd y gorllewin yn ethol llywodraeth o ffanatics crefyddol, hiliol a threisgar, yna fyswn i ddim yn disgwyl dim llai nag iddynt gael eu hesgymuno gan y gymuned rhyngwladol.

A! Hold on...
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Dili Minllyn » Maw 19 Meh 2007 8:33 am

Mae yna lot o dywallt gwaed di-bwrpas rhwng gwahanol garfannau yn mynd ymlaen ar hyn o bryd, ond ddylai hynny ddim bod yn achos llawenydd i neb.

Oni bai bod rhywun yn ddigon dwl i gredu mai pobl naturiol o loerig yw Arabiaid Palesteina, rhaid gofyn beth sydd wedi eu lloerigo. Dwi’n meddwl bod yr ateb yn weddol glir. Wedi’u disodli o lawer o’u tiroedd yn 1948, cawson nhw eu cadw mewn gweryslloedd afiach gan eu cyd-Arabiaid am ddegawdau. Buon nhw’n byw dan lyworaethau gormesol Iorddonen a’r Aifft tan 1967 pan ddaeth ergyd arall yn y Rhyfel Chwe Niwrnod, ac mae pethau wedi mynd o ddrwg i waeth oddi ar hynny.

Hyd yn oed o fewn Glan y Gorllewin, nid Arabiaid sy’n dal llawer o’r tiroedd gorau, ac mae gwladychwyr o Israel wedi meddiannu’r rhan fwyaf o’r tir ar bwys Afon Iorddenon – ac, wrth gwrs, heb ddŵr, does modd yn y fath ardal sych.

Fel un o bleidwyr gwladwriaeth Iddewig yn y Dwyrain Canol, mynnaf fod rhaid i Israel ildio’r tiroedd a gipiwyd yn 1967 (gan gynnwys Dwyrain Jerwsalem) a gadael i wladychwyr Glan y Gorllewin ddewis rhwng byw dan lywodraeth Balesteinaidd neu ddod yn ôl i fyw o fewn ffiniau cyfreithlon Israel.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dylan » Maw 19 Meh 2007 11:02 am

Cytuno 100% â Dili.

Ond yn anffodus mae Hamas yn broblem anferth yn hynny o beth. Hyd y gwn i, mae'u cyfansoddiad yn dal i fynnu mai nod y mudiad yn y pendraw ydi "gwthio Israel i mewn i'r môr". Sut yn union mae dal pen rheswm â hwy felly? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Maw 19 Meh 2007 11:47 am

Wel alle'n nhw'm gwthio Israel i mewn i'r mor o'r Gaza strip, heblaw eu bod nhw'n croesi Iraq, Iran, Pakistan a China. Allen nhw drio tynnu.

Dwi'n ei chael hi'n anodd cyd-deimlo gyda'r naill ochor oherwydd bod eu rhesymau nhw mor agored grefyddol. Mae'r Iddewon yn mynnu bod yno oherwydd bod eu llyfr sanctaidd yn dweud wrthon nhw fod yno - mi wnaethon nhw gwffio rhyfel cyfan yn Jeriwsalem gyda'r nod o gipio un wal sy'n cael ei grybwyll ynddo. Mae Hamas yn mynnu bwrw allan Israel yn enw Islam, ac drwy wneud hynny dinistrio ei siawns eu hunain o gael ei gwlad sefydlog.

Swn i'n nhw jesd yn symud eu gwledydd i gornel gwag o Awstralia neu Rwsia. Sna ddim heddwch wedi bod yn y gornel yna o'r byd ers 4,000 o flynyddoedd a does dim rheswm i feddwl y bydd o'n dechra fory. Rydw i'n credu'n gryf iawn mewn diogelu hanes archeolegol ond dwi'n hanner meddwl y byddai'n well tynnu Jeriwsalem yn ddarnau a cuddio'r olion (neu eu symud i San Ffagan) fel nad oes gan Iddewon, Cristnogion a Mwslemiaid ddim byd i golli'u bywydau drosto.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dili Minllyn » Maw 19 Meh 2007 6:50 pm

Dylan a ddywedodd:Ond yn anffodus mae Hamas yn broblem anferth yn hynny o beth. Hyd y gwn i, mae'u cyfansoddiad yn dal i fynnu mai nod y mudiad yn y pendraw ydi "gwthio Israel i mewn i'r môr". Sut yn union mae dal pen rheswm â hwy felly? :?

Digon gwir, ond mae llawer o lywodraethau trwy'r byd wedi gorfod cymodi efo mudiadau terfysgol, fel y mae mudiadau terfysgol wedi eistedd wrth y bwrdd efo llywodraethau gormesol.

Ffrwyth trais gan fudiadau terfysgol Iddewig yn erbyn Ymerodraeth Prydain oedd creu Gwladwriaeth Israel. Rhagrith, felly, yw i'r Israeliaid wrthod trafod gyda therfysgwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Cath Ddu » Maw 19 Meh 2007 7:14 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Allaim credu pa mor hypocritical ma arweinyddion y Gorllewin yn gallu bod efo'r Dwyrain Canol. Sawl gwaith da ni'n clywed y fantra "spreading democracy in the middle east" - yn enwedig gan yr Unol Daleithiau. Ac eto ar ol i Balestinia gynnal etholiada hollol deg (yn ol yr UN, Henry Kisinger, yr Undeb Ewropeaidd a pawb arall oedd yno) mae'r gorllewin yn gwrthod derbyn y canlyniad.

Am ddegawda mi oedd y gorllewin yn trio gwthio Hamas o lwybr terfysgaeth i lwybr democratiaeth. Ond pan ddigwyddodd hynny, be natha ni? Gwneud popeth yn ein gallu i wrthod dewis democratiadd Palestinia a cefnogi y rheini a gollodd yr etholiad.

Oes na unrhyw syndod yn y byd fod Hamas yr wythnos yma wedi rhoi fyny ar y byd democrataidd a mynd nol at y lladd? Os nad ydi'r byd yn barod i dderbyn pleidlais y Palestinwyr, yna wrth gwrs ei bod nhw am droi nol at arfau. A rwan ma Abbas ag America yn penodi Prif Weinidog newydd, dyn a gafodd 2.4% o'r bleidlais yn yr etholiad diwethaf. Sut uffar mae hynna yn "spreading democracy in the midle east"?

Er mor afiach ydi gweithredoedd Hamas drwy'r oesoedd, alla ni ddim mynnu fod Palestinia yn troi at ddemocratiaeth, wedyn, pan ma nhw yn gwneud hynny, gwrthod derbyn ei dewis am fod o ddim y canlyniad odda ni isho. Da ni wleyddd mawr y Gorllewin gymaint, os nad mwy, ar fai am ryfel yr wythnos diwethaf na unrhyw grwp yn Gaza.


Mae'r cyfranad hwn yn ddoniol blaw fod o mor un-llygeidiog. Hamas heb ladd tan yr wyrhnos yma! Ia wir Cwlcymro - be nesa i ti? Job yn y BBC?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dan Dean » Mer 20 Meh 2007 8:12 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Mae'r cyfranad hwn yn ddoniol blaw fod o mor un-llygeidiog. Hamas heb ladd tan yr wyrhnos yma!

Nath o ddim cweit dweud hynnu, naddo? A cymhara trais Hamas cyn yr etholiad efo ar ol - wedi gostwng lawer, yn enwedig yn erbyn Israel ei hun.

Ia wir Cwlcymro - be nesa i ti? Job yn y BBC?

:rolio:
Callia. Neu dangos i mi chydig o dystiolaeth sydd yn dangos y BBC yn un-llygeidiog ffafriol tuag at Hamas.

Dylan a ddywedodd:Ond yn anffodus mae Hamas yn broblem anferth yn hynny o beth. Hyd y gwn i, mae'u cyfansoddiad yn dal i fynnu mai nod y mudiad yn y pendraw ydi "gwthio Israel i mewn i'r môr". Sut yn union mae dal pen rheswm â hwy felly?

Mi wnaethon nhw ddropio'r galw am ddinistr Israel yn eu maniffesto cyn yr etholiad Ionawr 2006.

Mae gen i wastad broblem fach efo'r pwynt yna ynglyn a'r cyfansoddiad gwreiddiol. Yndi, mae o yn 100% wrth-Israel, ond be da chi'n ddisgwyl os cafodd Hamas ei ffurfio yn Gaza dan oresgyniad byddin Israel? Pan mae grwp arfog yn cael ei greu mewn tir sydd o dan oresgyniad, go brin bydd y cyfansoddiad yn niwtral tuag at wlad y goresgynwyr. Mae hefyd yn gwrth iddew, ond fysa fo felna sa'r milwyr digwydd bod yn Hindi?
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron