Falch i weld fod Awstralia'n dal i fod yn wlad hiliol.

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 06 Hyd 2007 8:29 am

Dwi'n meddwl mai triniaeth poblogaeth brodorol Awstralia gan y dyn gwyn yw'r peth fwyaf trist a di-son-amdano ar y ddaear. Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am eu diwylliant, ond yn gwybod am ffaith yr oeddent yn cael eu hystyried fel "anifeiliaid a phlanhigion" tan 1967, ac yr oedd hi'n gyfreithlon i'w hela. Yr unig ymddiheuriad swyddogol sydd wedi bod yn sgil yr holl bethau afiach a wnaethpwyd iddynt yw'r brawddegau byrion gan John Howard jest cyn gemau Olympaidd Sydney yn 2000, pan oedd camerau'r byd ar y wlad. Cyfleus ynde...

Dwi heb fod i Awstralia, ond dwi wedi teithio drwy Seland Newydd. Mae triniaeth llawer fwy ffafriol i'r Maori yno. Mae ganddynt hawliau cydradd a'r "Pakeha" (eu gair nhw am bobl gwyn - roedd hi'n brofiad hynod cael bod yn "Paki" pan es i yno :winc: ) ac mae rhwydd hynt a pherffaith hawl ganddynt i fyw eu bywydau yn ol eu harferion, ac mae nifer yn dewis gwneud. Wrth gwrs, y Maori sydd fwyaf tebygol o droseddu a pheidio a pharhau gyda'u haddysg. Y gwahaniaeth rhwng y Maori a'r Aboriginies yw'r ffaith mai prin oedd yr achlysuron yr ymladdodd yr Aboriginies yn ol yn erbyn y dyn gwyn, lle'r oedd ymladd yn rhan annatod o ddiwylliant y Maori. Serch hyn, mae 'na rywbeth eithaf depressing mewn gweld teulu Maori yn stwffo'u hwynebau mewn bwyty KFC.

Ond mae'r berthynas rhwng y Maori a'r dyn gwyn yn un hynod. Y peth wnaeth grisialu diwylliant Seland Newydd i fi oedd gweld band Maori yn perfformio yn sgwar Christchurch yn ynys y de. Roeddent wedi'u gwisgo mewn llu o grysau lliwgar a thatws ac yn chwarae y fersiwn fwyaf anhygoel o gan "Keep on Movin'" gan Five ar offerynnau amrywiol. Yn wir, roedd hyn yn ddarlun fwy cywir o ffordd modern y Maori o fyw na thraddodiadau gweledol yn y Maraes yr es i iddyn nhw.

Ond yn Canberra, Awstralia, ymhlith yr holl adeiladau crand y llysgenhadau o bedwar ban byd, mae 'na un sied sinc fach rhydlyd, a hwnnw'n cynrychioli'r boblogaeth brodol - pobl oedd wedi byw ar y cyfandir am dros 40,000 o flynyddoedd - a nhwythau heb yr un hawl cyfreithiol gwerth ei halen yng ngwlad eu hunain. Yn ddiweddar, pasiwyd deddf gan y CU i sicrhau hawliau poblogaethau brodorol, ond oni bai am ambell i boced yn yr anialwch, mae pethau bron iawn wedi canu ar eu ffordd nhw o fywyd am byth.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan osian » Sad 06 Hyd 2007 10:36 am

Fel rhan o gwrs Saesnag di ni'n sbio ar iaith mewn papura newydd etc, ac oddan ni'n sbio ar erthygl yn y Sun yn dilyn 200 mlwyddiant pobl wyn yn glanio yn Awstraila (pryd odd hyn?), beth bynnag, neges i'r rhai oedd yn deud fod na'm lle i ddathlu oedd yr erthygl, yn deud fod yr Aboriginies, neu'r "Abos" yn "trecherous and brutal", they would have wiped themselves out anyway", ac ymlaen felna. :drwg:

O'n i jysd angan cael hynna allan o'n system, nath o'n ngwylltio i. Anodd gwbod pwy dwisho i golli fwya pnawn ma, boed i'r enillydd gael cweir iawn yn y semi finals!
Rhithffurf defnyddiwr
osian
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 627
Ymunwyd: Mer 20 Meh 2007 2:40 pm
Lleoliad: o flaen sgrin

Postiogan Jon Bon Jela » Sad 06 Hyd 2007 3:24 pm

osian a ddywedodd:Fel rhan o gwrs Saesnag di ni'n sbio ar iaith mewn papura newydd etc, ac oddan ni'n sbio ar erthygl yn y Sun yn dilyn 200 mlwyddiant pobl wyn yn glanio yn Awstraila (pryd odd hyn?), beth bynnag, neges i'r rhai oedd yn deud fod na'm lle i ddathlu oedd yr erthygl, yn deud fod yr Aboriginies, neu'r "Abos" yn "trecherous and brutal", they would have wiped themselves out anyway", ac ymlaen felna. :drwg:

O'n i jysd angan cael hynna allan o'n system, nath o'n ngwylltio i. Anodd gwbod pwy dwisho i golli fwya pnawn ma, boed i'r enillydd gael cweir iawn yn y semi finals!

Minnau 'run peth a ti. Ond cofia mai Murdock sy' piau'r "papur" yma. Ond 'na fe.

Ond cofia roedd gan Cymru rol yr un mor sick and wrong i'w chwarae yn yr Ymerodraeth Brydeinig... Dydyn ni ddim yn ddiniwed o bell ffordd.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Pogo » Sad 06 Hyd 2007 7:41 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd: Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am eu diwylliant, ond yn gwybod am ffaith yr oeddent yn cael eu hystyried fel "anifeiliaid a phlanhigion" tan 1967, ac yr oedd hi'n gyfreithlon i'w hela.

Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn wir.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Postiogan Jon Bon Jela » Sul 07 Hyd 2007 1:59 am

Pogo a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd: Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am eu diwylliant, ond yn gwybod am ffaith yr oeddent yn cael eu hystyried fel "anifeiliaid a phlanhigion" tan 1967, ac yr oedd hi'n gyfreithlon i'w hela.

Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn wir.

Doeddwn i ddim yn meddwl 'ny chwaith, ond dyna ddywedodd bychan o Awstralia wrtho' i.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Mr Gasyth » Sul 07 Hyd 2007 8:36 pm

Jon Bon Jela a ddywedodd:
Pogo a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd: Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am eu diwylliant, ond yn gwybod am ffaith yr oeddent yn cael eu hystyried fel "anifeiliaid a phlanhigion" tan 1967, ac yr oedd hi'n gyfreithlon i'w hela.

Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn wir.

Doeddwn i ddim yn meddwl 'ny chwaith, ond dyna ddywedodd bychan o Awstralia wrtho' i.

Mae'n bendant yn wir fod aborijinis yn ymddangos mewn gwerslyfrau bywydeg ysgolion awstralia o dan 'apes and other primates' tan 1967.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Nanog » Llun 08 Hyd 2007 6:27 pm

Mae hwn gan yr Awstraliad John Pilger yn ddiddorol.

http://www.eniar.org/news/pilger2.html
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Pogo » Maw 09 Hyd 2007 8:53 am

Jon Bon Jela a ddywedodd:
Pogo a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd: Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am eu diwylliant, ond yn gwybod am ffaith yr oeddent yn cael eu hystyried fel "anifeiliaid a phlanhigion" tan 1967, ac yr oedd hi'n gyfreithlon i'w hela.

Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn wir.

Doeddwn i ddim yn meddwl 'ny chwaith, ond dyna ddywedodd bychan o Awstralia wrtho' i.

Mae hyn yn debyg i sylfaenu dy ddealltwriaeth o'r byd ar gyngor y colofnydd Viz, the man in the pub.

Syniad gwell yw gwneud ymchwil go iawn. Wikipedia yw'r fan gorau cychwyn.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

Postiogan Jon Bon Jela » Maw 09 Hyd 2007 8:58 am

:lol: :lol: *CLANG!* Yep. Mae Wikipedia yn soooo dibynadwy.

Roedd y bychan dan sylw yn gweithio i gwmni 'tickie-touring' (h.y. mynd a stiwdants gap year dosbarth canol vile o gwmpas y wlad ar fysiau). O beth dwi'n cofio 'wedodd e roedd y gyfraith yn amrywio o dalaith i dalaith am sbel cyn hynny.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan Pogo » Maw 09 Hyd 2007 9:11 am

Mr Gasyth a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd:
Pogo a ddywedodd:
Jon Bon Jela a ddywedodd: Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am eu diwylliant, ond yn gwybod am ffaith yr oeddent yn cael eu hystyried fel "anifeiliaid a phlanhigion" tan 1967, ac yr oedd hi'n gyfreithlon i'w hela.

Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn wir.

Doeddwn i ddim yn meddwl 'ny chwaith, ond dyna ddywedodd bychan o Awstralia wrtho' i.

Mae'n bendant yn wir fod aborijinis yn ymddangos mewn gwerslyfrau bywydeg ysgolion awstralia o dan 'apes and other primates' tan 1967.

Efallai mae'n wir dy fod un gallu dod o hyd i enghraifftiau o hyn, ond baswn i ddim yn credu bod pawb yn Awstralia yn meddwl yn yr un ffordd.

Dwi'n gwybod bod hanes modern yr aborijinis yn drychinebus i ryw raddau, ond dylen ni ddim fynd dros ben llestri am y peth.
Golygwyd diwethaf gan Pogo ar Maw 09 Hyd 2007 9:22 am, golygwyd 1 waith i gyd.
Pogo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 74
Ymunwyd: Sad 10 Maw 2007 5:42 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron