Dwi'n meddwl mai triniaeth poblogaeth brodorol Awstralia gan y dyn gwyn yw'r peth fwyaf trist a di-son-amdano ar y ddaear. Dydw i ddim yn gwybod rhyw lawer am eu diwylliant, ond yn gwybod am ffaith yr oeddent yn cael eu hystyried fel "anifeiliaid a phlanhigion" tan 1967, ac yr oedd hi'n gyfreithlon i'w hela. Yr unig ymddiheuriad swyddogol sydd wedi bod yn sgil yr holl bethau afiach a wnaethpwyd iddynt yw'r brawddegau byrion gan John Howard jest cyn gemau Olympaidd Sydney yn 2000, pan oedd camerau'r byd ar y wlad. Cyfleus ynde...
Dwi heb fod i Awstralia, ond dwi wedi teithio drwy Seland Newydd. Mae triniaeth llawer fwy ffafriol i'r Maori yno. Mae ganddynt hawliau cydradd a'r "Pakeha" (eu gair nhw am bobl gwyn - roedd hi'n brofiad hynod cael bod yn "Paki" pan es i yno ) ac mae rhwydd hynt a pherffaith hawl ganddynt i fyw eu bywydau yn ol eu harferion, ac mae nifer yn dewis gwneud. Wrth gwrs, y Maori sydd fwyaf tebygol o droseddu a pheidio a pharhau gyda'u haddysg. Y gwahaniaeth rhwng y Maori a'r Aboriginies yw'r ffaith mai prin oedd yr achlysuron yr ymladdodd yr Aboriginies yn ol yn erbyn y dyn gwyn, lle'r oedd ymladd yn rhan annatod o ddiwylliant y Maori. Serch hyn, mae 'na rywbeth eithaf depressing mewn gweld teulu Maori yn stwffo'u hwynebau mewn bwyty KFC.
Ond mae'r berthynas rhwng y Maori a'r dyn gwyn yn un hynod. Y peth wnaeth grisialu diwylliant Seland Newydd i fi oedd gweld band Maori yn perfformio yn sgwar Christchurch yn ynys y de. Roeddent wedi'u gwisgo mewn llu o grysau lliwgar a thatws ac yn chwarae y fersiwn fwyaf anhygoel o gan "Keep on Movin'" gan Five ar offerynnau amrywiol. Yn wir, roedd hyn yn ddarlun fwy cywir o ffordd modern y Maori o fyw na thraddodiadau gweledol yn y Maraes yr es i iddyn nhw.
Ond yn Canberra, Awstralia, ymhlith yr holl adeiladau crand y llysgenhadau o bedwar ban byd, mae 'na un sied sinc fach rhydlyd, a hwnnw'n cynrychioli'r boblogaeth brodol - pobl oedd wedi byw ar y cyfandir am dros 40,000 o flynyddoedd - a nhwythau heb yr un hawl cyfreithiol gwerth ei halen yng ngwlad eu hunain. Yn ddiweddar, pasiwyd deddf gan y CU i sicrhau hawliau poblogaethau brodorol, ond oni bai am ambell i boced yn yr anialwch, mae pethau bron iawn wedi canu ar eu ffordd nhw o fywyd am byth.