Chris Benoit yn llofruddio'i deulu

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Chris Benoit yn llofruddio'i deulu

Postiogan Positif80 » Sad 30 Meh 2007 10:17 pm

Digwyddiad erchyll, ond wrth edrych ar sianeli Americanaidd fel Fox News, mi fasech yn meddwl fod manylion yr achos i gyd wedi dod allan yn barod.

Os welodd rywun yr O'Reilly Factor, fyddwch yn gwybod beth dwy son amdano.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Macsen » Sad 30 Meh 2007 10:59 pm

Lot o hoff wrestlars fy mhlentyndod wedi marw nawr. Owen Hart, Bam Bam Bigelow, Earthquake, Chris Candido (Skip), Eddy Guerrero, Big Boss Man, Yokozuna, Davey Boy Smith, un o'r Legion of Doom... :(

Yn eironig The Undertaker yn dal i fynd!
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Positif80 » Sad 30 Meh 2007 11:23 pm

Macsen a ddywedodd:Lot o hoff wrestlars fy mhlentyndod wedi marw nawr. Owen Hart, Bam Bam Bigelow, Earthquake, Chris Candido (Skip), Eddy Guerrero, Big Boss Man, Yokozuna, Davey Boy Smith, un o'r Legion of Doom... :(

Yn eironig The Undertaker yn dal i fynd!


Ie, mae problem hefo'r diwydiant reslo, ond dwi'm yn meddwl fod yr hen Vinny Mac ar fai gymaint a mae pawb yn ceisio dweud yn y cyfryngau.

Ond y peth yw mae Fox News ac eraill ar ol y WWE heb gwybod unrhywbeth am y busnes na cyflwr meddyliol Benoit. Mae'n nhw'n ceisio esbonio'r trwy "roid rage", pan nad yw'r ffeithiau i gyd wedi'u casglu.

Yn sicr, dwi wedi colli bob tamaid o barch oedd gen i tuag at Benoit, ond dwi ddim yn mynd i awgrymy fel mae twats fel Bill O'Reilly wedi dweud, fod reslars i gyd ar roids. 'Swn i'n awgrymu fod Mick Foley yn lan, am un.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Macsen » Sad 30 Meh 2007 11:35 pm

Ym, wel ia. Sgyna fo ddim rili y physique sy'n awgrymu defnydd steroids nagoes? A mae o'n dipyn o ddyn teulu.

Beth bynnag, dw i heb wylio wrestlo ers oes pys felly allai'm siarad am y bois modern 'ma. Roeddwn i'n ei wylio mewn oes mwy diniwed, pan oedd yr holl gymeryd cyffuriau i gyd yn cael ei frwshio dan y carped yn hytrach na'i adrodd yn y cyfryngau.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Positif80 » Sad 30 Meh 2007 11:46 pm

Macsen a ddywedodd:Ym, wel ia. Sgyna fo ddim rili y physique sy'n awgrymu defnydd steroids nagoes? A mae o'n dipyn o ddyn teulu.

Beth bynnag, dw i heb wylio wrestlo ers oes pys felly allai'm siarad am y bois modern 'ma. Roeddwn i'n ei wylio mewn oes mwy diniwed, pan oedd yr holl gymeryd cyffuriau i gyd yn cael ei frwshio dan y carped yn hytrach na'i adrodd yn y cyfryngau.


Sori am y rant, ond dwi ddim wedi cael cyfle i ddefnyddio'r rhyngrwyd yr wythnos yma, felly mae'r atgasedd sy gen i tuag at y ffordd mae rhai sianeli newyddion yn gweithio wedi berwi drosodd braidd. :? :wps:

Mae'n bosib fod Benoit wedi cymeryd steroids, ddo, achos roedd ei cyhyrau'n lot rhy fawr i ffram rywun 5ft 9 - a'r ffaith fod yr heddlu wedi ffeindio bag ohonynt yn ei dy. Ond roid rage? Dwi'm mor siwr.

Mae'n drueni fod yr agweddau sordid o reslo wedi ymddangos, ond mae hynna wedi arwain at "Wellness Policy" y WWE ac wedi agor llygaid nifer o bobl mae'n siwr.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Boibrychan » Sul 01 Gor 2007 12:32 am

:ofn:

Sioc Llwyr!

O'n i'n eithaf ffan o Benoit a'i crippler crossface a'r brwydron yn erbyn Jerrico a Angle!

Dwi'm yn medru nac eisiau gwylio reslo dyddiau ma ond petawn i fel ti'n dweud Macsen dwi'm yn credu fydden i'n nabod y reslwyr dyddie ma!

Gymaint o dragedy ac ati yn y byd wreslo faint o gyn chwaraewyr pel droed neu yn fwy addas fel cymharaeth pel droed americanaidd sy'n gwneud y fath beth, neu'n marw mor ifanc!

Mae rhywbeth yn bod falle roid rage, ond er roedd na amser pan o'n i'n mwynhau reslo da'm mrawd yn yr ardd gefn ac eisiau bod yn reslars mae'n edrych fel byd digon tywyll a thryblus yn ddiweddar!
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan Positif80 » Sul 01 Gor 2007 1:07 am

Byd tywyll ar adegau, ia, ond am bob Chris Benoit, mae na rywun fel Chris Jericho.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Postiogan Dai dom da » Sul 01 Gor 2007 1:21 am

Ffacinel. Sioc mawr, enwedig rhannau am ei fab a'i wraig. Bizarre iawn. Dwi'n cofio Benoit ers ddyddie'r WCW 'fyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan Selador » Mer 04 Gor 2007 4:42 pm

Positif80 a ddywedodd:Mae'n drueni fod yr agweddau sordid o reslo wedi ymddangos, ond mae hynna wedi arwain at "Wellness Policy" y WWE ac wedi agor llygaid nifer o bobl mae'n siwr.


:lol: "Wellness policy"?!
Mae'n sdori od iawn ar y cyfan. Mi nathna rhywun newid profile Benoit ar Wikipedia i ddweud fodo wedi methu bod mewn gornest oherwydd marwolaeth ei wraig 14 awr cyn i'r heddlu ddarganfod y cyrff. Mae'r person yna yn honni mai cyd-ddigwyddiad llwyr oedd yr holl beth.
Mae'r doctor oedd wedi cyflenwi Benoit efo steroids bellach wedi cael ei arestio;

On July 2, 2007 Chris Benoit's doctor, Phil Astin III, was arrested for prescribing him 10-month supplies of anabolic steroids every 3-4 weeks. There has been speculation that the excessive levels of steroids in Benoit's system may have contributed to the murder-suicide of himself and his family. According to the LA Times, the doctor had also prescribed more than 3,000 prescription drugs to just two clients over an 18-month period, and was writing prescriptions without expiration dates
Just one more sucker on the vine
Rhithffurf defnyddiwr
Selador
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1721
Ymunwyd: Sul 18 Ebr 2004 9:32 pm
Lleoliad: Pen Llyn/Bryste

Postiogan Positif80 » Mer 04 Gor 2007 7:06 pm

Selador a ddywedodd:
:lol: "Wellness policy"?!


Ia, dyna be' mae nhw'n galw'r profion am gyffuriau a'r stwff yn ymwneud hefo afiechyd y galon ac ati (taste the irony). Mae nifer wedi cwestiynu effeithlonrwydd y peth ers marwolaeth Benoit. Yr un diwethaf i wneud hyn oedd yr Ultimate Warrior, ar Hannity & Colmes ar Pox News neithiwr.

O be' dwi 'di darllen, mae'r polisi yn dweud fod yn rhaid i unrhyw un sydd yn cael ei dal am y tro cyntaf fynd i rehab, ac os ydynt yn methu eto mae nhw allan. Cafodd Test a Sabu y sac, ond eto ni cafodd RVD a Randy Orton yr un cosb. Dyna pam mae'r beirniadaeth yn digwydd, mae'n siwr.

Mae cwmni annibynol yn rhedeg y peth i Vince McMahon.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron