Cymedrolwr: Chwadan
huwwaters a ddywedodd:Ma'r peth 'Roid Rage' ma'n wirion.
Ym myd chwaraeon, mae cael gafael ar steroidiau anabolig yn digwydd yn slei. Un o'r rhai haws i'w gael yw'r hormon testosterone sydd yn y corff yn naturiol, mwy mewn cynion na gwragedd, sy'n deud wrth y corff i dyfu. Mae testosterone hefyd yn tyfnhau'r llais ac yn cynyddu 'aggression' neu ymosodedd mewn person. Mae'r ffaith fod rhywun yn gallu mynd yn fwy ymosodol ddim yn golygu fod nhw am ladd rhywun. Mae alcohol yn gwneud yr un peth. Yn amlwg mae problemau meddyliol y tu ôl i hyn, ond y codiad mewn ymosodedd wedi ei dynnu allan.
Gan fod steroidau anabolig dim ond ar gael ar brescriptsiwn, i bobol ar y cyfan sydd wedi dioddef o gancr neu afiechyd arall sy'n peri i'r corff golli pwysau, mae'n anodd cael gafael arnynt. Yn amal mae pobl yn troi at milfeddygon ac yn cael steroidiau sydd ar gyfer anifeiliaid.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai