Pump am y penwythnos - 5/10/07

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pump am y penwythnos - 5/10/07

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau 04 Hyd 2007 11:29 pm

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?

4) Be mae datganoli yn golygu i ti?

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Pump am y penwythnos - 5/10/07

Postiogan Jon Bon Jela » Gwe 05 Hyd 2007 12:19 am

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?
"Imagine no possessions..."

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?
Gwendid yr unigolyn yw'r gymuned/cymdeithas.

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?
Mae'n dibynnu pa nwyddau y'i cynhyrchir, siwr iawn...

4) Be mae datganoli yn golygu i ti?
Rhaglenni unochrog, lletchwith ac amhroffesiynol gan ryw ynfytyn o academydd sy'n ceisio cyfiawnhau traethawd PhD israddol fel sail i gyfres teledu. :winc:

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?
Pan allwn ddiffinio ein hunain fel unigolion a pheidio dibynnu ar wleidyddiaeth i gyfiawnhau ein Cymreictod. (Os mai Cymreictod yw'r mater dan sylw)
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Re: Pump am y penwythnos - 5/10/07

Postiogan krustysnaks » Gwe 05 Hyd 2007 9:10 am

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?
Ydi, cyn belled dy fod di'n barod i'w rannu.

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?
Dibynnu pwy yw'r unigolyn.

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?
Fe ddylai'r offer fod yn eiddo i'r rhai sydd wedi buddsoddi'r cyfalaf i'w prynu, h.y 'run o'r ddau.

4) Be mae datganoli yn golygu i ti?
Bus pass a nofio am ddim pan fyddai'n ymddeol! Mewn gwirionedd, lefel gyhoeddus o falchder ychwanegol a rhywle sy'n cynnig swydd bosib mewn blynyddoedd i ddod.

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?
Pan fydd gen ti ddigon o gyfalaf i fanteisio ar ryddid y farchnad.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Re: Pump am y penwythnos - 5/10/07

Postiogan Jeni Wine » Gwe 05 Hyd 2007 9:25 am

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?
Na

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?
Na.

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?
Y gymuned

4) Be mae datganoli yn golygu i ti?
Mwy o gyhoeddusrwydd i'r cysyniad o Gymru fel endid ar wahan i Loegar ac fel cam yn nes tuag at hunanlywodraeth.

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?
Pan fyddwn ni'n rhoi'r gorau i ddiffinio'n hunain yng nghyd-destun gwlad arall.
Aimable petite conne
Rhithffurf defnyddiwr
Jeni Wine
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1173
Ymunwyd: Sad 30 Awst 2003 3:51 pm
Lleoliad: llanbidinodyn lle mae'r cwn yn cachu menyn

Re: Pump am y penwythnos - 5/10/07

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 05 Hyd 2007 10:28 am

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?
Eiddo, bosib, ond nid tir yn benodol, yn fy marn i.

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?
Nac ydi, dw i ddim yn credu.

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?
Y gymuned, fe hoffwn i feddwl, ond ddigwyddith hynny fyth ac mae o briadd yn anymarferol.

4) Be mae datganoli yn golygu i ti?
Cam ar y ffordd i'r Gymru Rydd, a'r cyfle i mi gael bod yn rhan o ddemocratiaeth y gallaf i hawlio fel fy nemocratiaeth fy hun

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?
Dibynnu ar y cyd-destun, tydi? Does neb yn rhydd yn ystyr 'penrhyddid', ond diolch i Dduw am hynny.
O ran Cymru fe fydd pan nad oes gan senedd Llundain unrhyw fath o rym drosom o gwbl.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Jon Bon Jela » Gwe 05 Hyd 2007 8:47 pm

Chi'n meddwl allwn ni gadw gwleidyddiaeth mas o Bump am y Penwythnos? Rhywbeth hwylus a diniwed yw hi i fod, nid ryw drafodaeth ddofn.
Blas-for-me, Blas-for-you, blas-for-everybody-in-the-room!
Rhithffurf defnyddiwr
Jon Bon Jela
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 884
Ymunwyd: Iau 29 Medi 2005 8:51 pm
Lleoliad: Fyny fama

Postiogan ceribethlem » Sad 06 Hyd 2007 11:52 am

Jon Bon Jela a ddywedodd:Chi'n meddwl allwn ni gadw gwleidyddiaeth mas o Bump am y Penwythnos? Rhywbeth hwylus a diniwed yw hi i fod, nid ryw drafodaeth ddofn.
Pam atebais ti felly?
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Re: Pump am y penwythnos - 5/10/07

Postiogan Jaff-Bach » Sul 07 Hyd 2007 1:48 pm

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?
yndi, hollol naturiol

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?
hyn i gyd yn dibynu ar y cyd-destun

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?
hmmm ar ol meddwl am y peth dwi am ddeud y gymuned, cwestiyna annodd wsos yma!

4) Be mae datganoli yn golygu i ti?
symud i ffwrdd o fod o dan reolaeth tuag at ryddid

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?
oesna ffasiwn beth a bod yn wirioneddol rhydd? oh yeh, ateb gyda cwestiwn :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Jaff-Bach
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Maw 31 Gor 2007 6:09 pm
Lleoliad: Llan Ffestiniog/Leeds

Re: Pump am y penwythnos - 5/10/07

Postiogan Madrwyddygryf » Sul 07 Hyd 2007 3:52 pm

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?
Ydi

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?
Ydi

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned? na

4) Be mae datganoli yn golygu i ti? Bod mwy o penderfyniadau yn cael eu penderfynu yn lleol ac torri lawr a'r 'centralism'.

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?

Wel beth yw natur o fod yn rhydd ?
Clwb Rhedeg Caerdydd. Clwb Rhedeg ar gyfer siaradwyr Cymraeg.
Bob nos Lun 6:00pm tu allan i Athronfa Chwareon, Gerddi Sofia.|
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Chip » Sul 07 Hyd 2007 6:27 pm

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?
na, mae perchen ar eiddo dim ond yn bodoli yn ein meddwl.

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?
na

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?
dwi ddim yn deall bwysigrwydd neu reality y cwestiwn. ydy hyn yn siarad am ffatri? os felly mae'r gymuned, (leol oleuaf) yn tueddu fod yn weithwyr yno. sori os dwi di gweld y cwestiwn yn ffordd rong.

4) Be mae datganoli yn golygu i ti?
dim llawer

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?
pan bo ni di marw.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai

cron