Pump am y penwythnos - 5/10/07

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 08 Hyd 2007 2:09 am

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?
Mae gan bawb hawl i eiddo personol, mae hyn yn naturiol. Ond ni ddylid defnyddio eiddo preifat er mwyn creu elw.

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?
Nac ydi. Unigolion sy’n creu cymuned a thrwy gydweithio a rhannu y gellir creu cymdeithas degach.

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?
Er mwyn creu cymdeithas dêg mae’n rhaid i’r offer i gynhyrchu nwyddau, hynny yw y ffactrioedd a’r peiriannau fod yn nwylo y bobl nid y cyfalafwyr. Semantics ydi os y dylsent fod yn nwylo’r gweithwyr neu y gymuned.

4) Be mae datganoli yn golygu i ti?
Datganoli go-iawn fydd pan fydd y pwer yn ein dwylo ni i wneud y penderfyniadau yn y gweithle, yn y gymuned ac mewn bywyd o ddydd i ddydd.

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?
Pan na fydd arweinwyr neu pleidiau gwleidyddol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Re: Pump am y penwythnos - 5/10/07

Postiogan tafod_bach » Llun 08 Hyd 2007 9:07 am

1) Ydi perchen ar eiddo yn hawl naturiol?
nagydi ond mae teimlo perthnasedd at wrthrych yn reddf 'naturiol' hen iawn iawn iaaaaawn. o hynny ma chwyn 'eiddo' yn tyfu

2) Ydi’r unigolyn yn bwysicach na’r gymuned?[/b]
cymuned sy'n creu unigolion - cael dy gynnwys (neu'th eithrio) o gymuned wyt ti o herwydd dy ddaliadau/perthnasau/eiddo. ffwc o otsh os ti'n diffinio dy hun fel 'six cocked gerontophile' os nad os neb o gwmpas i weud 'get away from me you pervert'...

3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?
offer cynhyrchu nwyddau? be, fel dwylo? ma gyda ni gyd 'offer cynhyrchu nwyddau' achos so nhw angen glo i weithio nhw ragor!

4) Be mae datganoli yn golygu i ti?
bod crwst hoffus, cymraeg ei iaith, ifanc di cal jobs braf yn y bae. does gan wleidyddion ddim llawer o reolaeth ar y things sy'n fy niddori fi. dwi, fel y BNP, yn bwriadu dianc i bentre-ynni-solar ym mryniau'r caucasus pan ma pethe'n mynd yn ormod.

5) Pryd fyddwn ni yn wirioneddol rhydd?
pan ti heb gymuned! hy amser cei dy eni a marw. ti ar ben dy hun a ti'n ddim byd! wiiiiiiii!
Rhithffurf defnyddiwr
tafod_bach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 936
Ymunwyd: Llun 08 Medi 2003 11:49 am

Postiogan krustysnaks » Llun 08 Hyd 2007 9:59 am

Mihangel Macintosh a ddywedodd:3) A ddylai’r offer i gynhyrchu nwyddau fod yn eiddo i’r gweithwyr yntai’r gymuned?
Er mwyn creu cymdeithas dêg mae’n rhaid i’r offer i gynhyrchu nwyddau, hynny yw y ffactrioedd a’r peiriannau fod yn nwylo y bobl nid y cyfalafwyr. Semantics ydi os y dylsent fod yn nwylo’r gweithwyr neu y gymuned.

Dwi'n meddwl ei bod hi braidd yn od i ofyn cwestiwn ar Pump am y Penwythnos, yna pwpw-io'r darn pwysicaf ohonno fel "semantics" yn unig.
Rhithffurf defnyddiwr
krustysnaks
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2967
Ymunwyd: Mer 14 Ebr 2004 8:05 pm
Lleoliad: yng nghôl J M Keynes

Nôl

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai

cron