Tudalen 1 o 2

Y DU a Sawdi Arabia i "rannu gwerthoedd"

PostioPostiwyd: Llun 29 Hyd 2007 7:17 pm
gan Pryderi
Mae Kim Howells yn dweud ei bod hi'n bryd i'r DU a Sawdi Arabia glosio at ei gilydd ar sail "rhannu gwerthoedd".

Pa werthoedd allwn ni eu rhannu a gwlad sydd yn loches i derfysgwyr, yn trin menywod fel pobl eilradd ac yn gweithredu'r gosb eithaf am rywbeth mor syml a chael perthynas rhywiol y tu allan i briodas?

PostioPostiwyd: Llun 29 Hyd 2007 9:19 pm
gan Geraint Edwards
Mae Kim Howells yn yr un ystad a'r pyllau glo y mae'n addoli: yn hesb o unrhyw ffynhonell defnyddiol newydd. Bw hw.

PostioPostiwyd: Llun 29 Hyd 2007 10:49 pm
gan 7ennyn
Rhwng y cyflenwad dibynadwy o olew; y miloedd ar filoedd o swyddi yn y DU sydd yn cael eu cynnal gan £3.5bn o allforion (arfau gan fwyaf) i'r wlad; yr 20,000 o Brydeinwyr sydd yn byw ac yn gweithio yno; a chydweithrediad anghymesur gan eu gwasanaethau cudd yn y 'rhyfel yn erbyn terfysgaeth'. Yn gryno, mae Saudi Arabia yn cydio yn y DU gerfydd eu... be ydi'r Arabeg am cohones? A dyna pam mae'r llwfrgwn yn Llundain mor neis hefo nhw.

PostioPostiwyd: Maw 30 Hyd 2007 8:57 am
gan Blewyn
"chasiyr" (yng Nhymraeg)

PostioPostiwyd: Maw 30 Hyd 2007 9:09 am
gan Blewyn
7ennyn a ddywedodd:Yn gryno, mae Saudi Arabia yn cydio yn y DU gerfydd eu... be ydi'r Arabeg am cohones? A dyna pam mae'r llwfrgwn yn Llundain mor neis hefo nhw.


Ddim cweit mor unochrog a hyn 7ennyn. Sylwer fod gan y DU fyddin, llu awyr a llynges reit alluog, fod gan y Saudis ddim ond gelynion ar bob ochr (a tylwythau gelynol tu fewn Saudi ei hun) a fod rhan fwya'r wlad yn fflat ag yn sych (h.y. amhosib ei amddiffyn yn erbyn gelyn cryfach). Yn gryno, mi allent werthu eu olew i wledydd eraill am bris gwahanol.....ond mi fasa hi'n sobor iawn arnynt heb gefnogaeth filwrol y DU a'r UD.

Re: Y DU a Sawdi Arabia i "rannu gwerthoedd"

PostioPostiwyd: Sul 04 Tach 2007 2:35 pm
gan rooney
Pryderi a ddywedodd:Pa werthoedd allwn ni eu rhannu a gwlad sydd yn loches i derfysgwyr, yn trin menywod fel pobl eilradd ac yn gweithredu'r gosb eithaf am rywbeth mor syml a chael perthynas rhywiol y tu allan i briodas?


anodd gwybod o ystyried y cyfeiriad seciwlar gwrth-feiblaidd mae'r wlad yma'n mynd iddo fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd, gyda bron pob plaid ar y chwith wleidyddol yn cynnwys PLAID CYMRU yn cytuno'n llwyr gyda'r cyfeiriad pro-Ewrop pro-seciwlar pro-wleidyddol gywir yma

beth yw ein priodasau bellach? yr oedd ni'n arfer defnyddio'r diffiniad Beiblaidd, ddim bellach (priodasau hoyw, cydfyw, plant yn cael eu geni tu allan i briodas, ysgaru rhy hawdd)

beth yw ein cyfraith a threfn bellach? yr oedd ni'n arfer dysgu o'r Beibl (llygad am lygad, dant am ddant), ddim bellach (gwnaed i ffwrdd a'r gosb eithaf, carcharorion yn gadael carchar hanner ffordd trwy eu cosb)

beth am ein safonau moesol? yr oedd ni'n arfer dysgu da o ddrwg o'r Beibl, ddim bellach (rwan mae'r unigolyn yn penderfynu da o ddrwg, a pobl yn cael eu cyhuddo o fod yn "anoddefgar" os yw nhw'n defnyddio'r Beibl i ddod at farn)

beth am ein agwedd tuag at fywyd? roedd ni'n arfer dysgu gwerth a sancteiddrwydd bywyd o'r Beibl, ddim bellach (e.e. erthylu, ewthanasia, hybrid dyn/anifail, meddylfryd esblygu cell-i-ddyn)

yn wir, mae gwerthoedd y gwleidyddol gywir seciwlar mor bell o werthoedd y moslemiaid ac y mae o werthoedd y Beibl

felly, er mwyn ystyried pa werthoedd gall ni rannu gyda Sawdi Arabia, rhaid i ni ystyreid beth yn union yw ein gwerthoedd ni. Yn sicr, nid gwerthoedd Beiblaidd sydd ganddom fel yr oedd- y mae'r "Cristnogion" rhyddfrydol wedi helpu'r anffyddwyr i erthylu dylanwad y Beibl o'n cymdeithas gam wrth gam ers y 1950au. Credaf byddem ni'n dod ymlaen yn well gyda Saudi Arabia, a'n gilydd a phawb arall, petae ni'n dychwelyd o'r anialwch sef y "gwerthoedd" gwleidyddol gywir seciwlar at y gwerthoedd Beibl sydd wedi ein cynnal a'n cadw ers canrifoedd.

PostioPostiwyd: Sul 04 Tach 2007 6:18 pm
gan Pryderi
Gyda pharch, mae hynny'n lol llwyr.

Mae rhai yn honni mai'r 1950au oedd 'oes aur' moesoldeb . Efallai roedd rhai agweddau o fywyd yn fwy cyffyrddus a moesol yn y 1950au, ond dim ond os oeddech chi'n ddigon ffodus i ffitio i'r ddelwedd o deulu dedwydd.

Roedd hiliaeth agored yn erbyn pobl croenddu a Gwyddelod, roedd disgwyl i wragedd aros gyda'u gwyr waeth bynnag pa mor dreisgar y briodas, roedd erthylu 'stryd gefn' yn rhemp, roedd dynion yn cael eu carcharu am gael perthnasau rhywiol a dynion eraill, roedd llofruddwyr (a weithiau pobl dieuog) yn cael eu crogi.

Yn ystod y hanner canrif diwethaf, mae pobl wedi cwestiynu doethineb cenhedloedd a fu ar faterion fel priodas, rhyw a chyfiawnder troseddol. Dydy ni ddim yn byw mewn byd perffaith yn sicr, ond ddylem ni ddim edrych yn ol gyda gormod o nostalgia ar oes oedd yn anghyfiawn mewn sawl ystyr.[/i]

PostioPostiwyd: Sul 04 Tach 2007 6:21 pm
gan rooney
Pryderi a ddywedodd:Gyda pharch, mae hynny'n lol llwyr.


Na mae'n wir, mae'r Beibl gam wrth gam wedi cael ei erthylu o'n cymdeithas. Wrth rhoi modfedd i'r byd, mae'r byd wedi cymryd milltir.

PostioPostiwyd: Sul 04 Tach 2007 8:37 pm
gan Pryderi
Yn bersonol, dwi'n hapus fod rhai o'r gwerthoedd Beiblaidd wedi cael eu herthylu. Nid yw'r gorchmynion yn Lefiticus i beidio a chyffwrdd croen mochyn neu blannu dau gnwd yn berthnasol i unrhyw ddiffiniad ystyrlon o foesoldeb.

Ar y llaw arall, mae adnodau eraill yn y Beibl yn ystyrlon iawn, ond wedi cael eu hanwybyddu o'r cychwyn. "Na ladd", er enghraifft.

PostioPostiwyd: Sul 04 Tach 2007 11:27 pm
gan rooney
Nid yw deddfau moesol Lefiticus yn amherthnasol i Gristnogion, maent yn cael eu cadarnhau yn y Testament Newydd.

Tybed pa werthoedd mae Kim Howells am ei rannu gyda Saudi Arabia- beth am ganiatau cwplau hoyw i briodi a mabwysiadu plant? Neu y 200,000 o blant ni'n erthylu bob blwyddyn? Neu falle ein "gang culture" lle mae yobs bach yn mynd rownd y lle yn saethu eu gilydd a plant diniwed yn y canol a wedyn ddim yn cael eu dal? gadael pobl allan o'r carchar hanner ffordd trwy eu cosb? yfed binge a cyffuriau? gwahardd rhieni rhag rhoi clipen i'w plant? fe fydde Saudi Arabia'n chwerthin ar y fath nonsens