rooney a ddywedodd:mae ein deallusrwydd o ffiseg ddigon da i fedru dweud fod cerdded ar ddwr yn wyrth
Ydi. Ond nid oes prawf fod hyn wedi digwydd- gan nad yw'r beibl yn ffynhonell hanesyddol ddibynadwy. Rwyt dal heb grybwyll gwyrth o'r math yma sydd wedi digwydd ers oes y beibl.
Wyti'n derbyn felly fod yno ddim 'gwyrth' honedig wedi oes y beibl sydd heb esboniad gwyddonol digon rhesymol iddo? Wyt ti'n derbyn fod ein dealltwriaeth bresennol o ffiseg yn ein caniatau i esbonio 'gwyrthiau' heb orfod droi at yr uwchnaturiol am ateb?
Ailadrodd ydwi hefo'r cwestiynau yma- ond dwi dal eisiau atebion.
Os rwyt yn derbyn y pwyntiau uchod, a gan dy fod ti dy hun di dweud bod "angen archwilio'r dystiolaeth cyn gweiddi gwyrth". Wyt ti hefyd yn derbyn ei fod yn bosib fod dim 'gwyrth' ers oes y beibl hefo llaw Duw arno?
Mae bron i 2000 o flynyddoedd di pasio ers oes y beibl, ac yn ol y creationists mae hyn yn 1/3 o oed y byd.
1/3 o oed y byd di pasio heb unrhyw son gyn Duw? 'Bach yn od?