Trychineb y Ffindir

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Raoul » Sul 30 Rhag 2007 1:01 am

rooney a ddywedodd:mae ein deallusrwydd o ffiseg ddigon da i fedru dweud fod cerdded ar ddwr yn wyrth


Ydi. Ond nid oes prawf fod hyn wedi digwydd- gan nad yw'r beibl yn ffynhonell hanesyddol ddibynadwy. Rwyt dal heb grybwyll gwyrth o'r math yma sydd wedi digwydd ers oes y beibl.

Wyti'n derbyn felly fod yno ddim 'gwyrth' honedig wedi oes y beibl sydd heb esboniad gwyddonol digon rhesymol iddo? Wyt ti'n derbyn fod ein dealltwriaeth bresennol o ffiseg yn ein caniatau i esbonio 'gwyrthiau' heb orfod droi at yr uwchnaturiol am ateb?

Ailadrodd ydwi hefo'r cwestiynau yma- ond dwi dal eisiau atebion.

Os rwyt yn derbyn y pwyntiau uchod, a gan dy fod ti dy hun di dweud bod "angen archwilio'r dystiolaeth cyn gweiddi gwyrth". Wyt ti hefyd yn derbyn ei fod yn bosib fod dim 'gwyrth' ers oes y beibl hefo llaw Duw arno?

Mae bron i 2000 o flynyddoedd di pasio ers oes y beibl, ac yn ol y creationists mae hyn yn 1/3 o oed y byd.

1/3 o oed y byd di pasio heb unrhyw son gyn Duw? 'Bach yn od?
"Order some golf shoes," I whispered. "Otherwise, we'll never get out of this place alive..."
Rhithffurf defnyddiwr
Raoul
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 12 Rhag 2007 11:34 pm

Postiogan rooney » Sul 30 Rhag 2007 1:34 am

Raoul a ddywedodd:Ydi. Ond nid oes prawf fod hyn wedi digwydd- gan nad yw'r beibl yn ffynhonell hanesyddol ddibynadwy.


!!!! cyfleus iawn, gwneud sweeping statement heb owns o dystiolaeth am pa mor ddibynadwy yw hanes y Beibl, er mwyn anwybyddu'r Beibl fel tystiolaeth. Mae'r Beibl wedi profi ei hun drosodd a drosodd fel ffynhonell arbennig o dda o hanes.
(Petawn i'n gwneud sweeping statement tebyg na allwn ni byth eto ymddiried mewn gwyddonwyr esblygu oherwydd con y dyn piltdown am dros 40 mlynedd, ac felly methu cymryd unrhywbeth mae nhw'n ddweud fel tystiolaeth, fe fydde ti'n gandryll...)

Wyti'n derbyn felly fod yno ddim 'gwyrth' honedig wedi oes y beibl sydd heb esboniad gwyddonol digon rhesymol iddo? Wyt ti'n derbyn fod ein dealltwriaeth bresennol o ffiseg yn ein caniatau i esbonio 'gwyrthiau' heb orfod droi at yr uwchnaturiol am ateb?


cwetiwn rhyfedd- wyt ti'n meddwl fod gen i gofnod o bob gwyrth honedig neu real ers dyddiau'r Beibl? mae ein deallusrwydd o'r deddfau ffiseg yn cadarnhau fod cerdded ar y dwr yn wyrth, nid oedd nhw wedi camgymryd y weithred am phenomenon naturiol

Os rwyt yn derbyn y pwyntiau uchod, a gan dy fod ti dy hun di dweud bod "angen archwilio'r dystiolaeth cyn gweiddi gwyrth". Wyt ti hefyd yn derbyn ei fod yn bosib fod dim 'gwyrth' ers oes y beibl hefo llaw Duw arno?


Mae gwyrthiau wedi bod, ond nid wyf yn expert ar y pwnc yma felly ddim yn deall pam ti'n cario mlaen i gwestiynu fi mewn manylder. Rwyf wedi cynnig y rhyfel 6 dydd fel un honiad o wyrth, mae'r hanes yn un diddorol iawn. Pam na wnei di ffeindio enghreifftiau tebyg o lwyddianau militaraidd diweddar sydd yn cymharu gyda'r rhyfel 6 dydd.

Yn wir mae llwyddianau'r Iddewon yn y byd yn rywbeth nad all ni ei roi lawr i hap a damwain, gweler: http://www.jewishachievement.com/
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Chip » Sul 30 Rhag 2007 1:54 am

rooney a ddywedodd:
Chip a ddywedodd:Dwedais i ddim bod gan Israel fwy o arfau.


felly beth oedd pwrpas y neges?


Oeddwn yn dweud bod Isreal wedi cal cymorth enfawr gan gwledydd gorllewinol er mwyn ymladd, a dim fod duw jest wedi chwifio ei llaw a'r elynion i gyd yn marw.


wel ydw, cyd digwyddiad oedd e, mae rhai pethau sy'n digwydd sy'n anhygol yn hollol naturiol does dim angen gweiddi gwyrth. Tystiolaeth, diffiniad gwyrth yw bod dim tystiolaeth, naturiol tu ol i'r peth i'w cadarnhau.


ymddengys fod gen ti presupposition (di-brawf) fod popeth yn naturiol & dim gwyrthiau yn bosib. Mae hyn yn llywio dy farn o'r tystiolaeth cyn i ti edrych ar unrhyw dystiolaeth.


na mae'n dangos bod gen i barn sy'n wahannol i dy un di. Am fy mod dim yn credu bod duw, dwi ddim yn gweld bod gwyrth yn opsiwn fel dadansoddiad o beth digwyddodd

Tybed fedri di enwi i mi esiamplau eraill o lwyddianau militaraidd modern tebyg gan genedl heblaw Israel? http://www.jewishachievement.com/domains/avmil.html

"All but 15 percent of Egypt's military hardware was destroyed or captured, including 700 of its 900 tanks, 286 of its 420 combat aircraft, and all of its bombers. Jordan lost 179 tanks, 1062 guns, 3,166 vehicles, and nearly 20,000 assorted arms. Syria lost 118 tanks, 470 guns, and 1,200 vehicles, not counting the 40 tanks abandoned to the Israelis. Two-thirds of Syria's air force was destroyed. By contrast, Israel lost a total of 36 planes and 18 pilots, roughly 20 percent of its air power."


Os wyt yn dweud bod duw wedi chwarae rhan mewn rhyfel a lladd elynion Isreal wedyn dwi ddim yn gweld dy duw i fod mor gwyn a mae'n cael ei lliwio gan llawer.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan Raoul » Sul 30 Rhag 2007 1:56 am

rooney a ddywedodd:Yn wir mae llwyddianau'r Iddewon yn y byd yn rywbeth nad all ni ei roi lawr i hap a damwain, gweler: http://www.jewishachievement.com/


Beth ffwc?!- Ma'r ffaith fod yno nifer o iddewon wedi bod yn enwog/ llwyddiannus yn fod yn wyrth?! Sut?

Ma'r iddewon di gorfod mynd trwy mwy o shit na unrhyw grwp arall o bobl yn y byd. Sut mae hyn yn ffitio fewn i'r uchod?

Y pwynt oni'n trio gwneud yn gynharach oedd fod Duw wedi bod yn ddistaw iawn yn ddiweddar do? Mae'r ffaith dy fod ti, cristion brwd, yn methu son am UN gwyrth hefo tystiolaeth gadarnhaol amdano yn dangos hynny.

Ffynhonell hanesyddol ddibynadwy yw acownt llygad-dyst onest o ddigwyddiadau. Hefyd, nid yw un ffynhonell yn ddigonol, mae angen cymharu safbwyntiau ffynhonelli erill i gael syniad eithaf aciwret o'r gwir.
Rhesymau pam nid ffynhonell hanesyddol ddibynadwy yw'r Beibl:

-Nid yw'r beibl yn acownt llygad dyst. Mae tystiolaeth yn awgrymu na chafodd gwaith arno ei gychwyn am flynydoedd maith ar ol crist.
-Mae'r tystiolaeth hefyd yn awgrymu fod y Beibl wedi bod trwy nifer fawr o addasiadau dros gyfnod o gannoedd o flynyddoedd hefyd.
-Mae lot or iaith yn aneglur- Nid yw'n hawdd dweud pa rannau sy'n metaffor a pa rannau sydd ddim. Hyn yn arwain at llwythi o ddehongliadau gwahanol o ddigwyddiadau.
-Pur anaml byddair Beibl yn cael ei gymharu hefo ffynonellau hanesyddol eraill o'r cyfnod. Anodd gwneud casgliadau.

Ydio'n synhwyrol seilio cred ar lyfr o'r math yma?
"Order some golf shoes," I whispered. "Otherwise, we'll never get out of this place alive..."
Rhithffurf defnyddiwr
Raoul
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 34
Ymunwyd: Mer 12 Rhag 2007 11:34 pm

Postiogan rooney » Sul 30 Rhag 2007 3:04 am

Raoul a ddywedodd:Ma'r iddewon di gorfod mynd trwy mwy o shit na unrhyw grwp arall o bobl yn y byd. Sut mae hyn yn ffitio fewn i'r uchod?


atebion yn y Beibl... ond yn anffodus ti ddim hyd yn oed cysidro y Beibl fel tystiolaeth

Y pwynt oni'n trio gwneud yn gynharach oedd fod Duw wedi bod yn ddistaw iawn yn ddiweddar do? Mae'r ffaith dy fod ti, cristion brwd, yn methu son am UN gwyrth hefo tystiolaeth gadarnhaol amdano yn dangos hynny.


wel rwyf wedi cynnig y rhyfel 6 dydd fel un gwyrth honedig
ac wedi gwahodd chi i restru buddugoliaethau militaraidd tebyg diweddar gan wledydd eraill oedd o dan anfantais tebyg

Ydio'n synhwyrol seilio cred ar lyfr o'r math yma?


Rwy'n cynnig ti'n ymchwilio'n fwy trwyadl i pam y gelli ymddiried yn y Beibl, mae hynny'n golygu peidio dim ond mynd at atheist.com neu wehatethebible.com i chwilio am dystiolaeth

gwylia fideos ar fy llofnod ynglyn a'r dystiolaeth hanesyddol dros atgyfodiad Iesu
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dan Dean » Iau 03 Ion 2008 12:13 pm

rooney a ddywedodd:yn anffodus ti ddim hyd yn oed cysidro y Beibl fel tystiolaeth

:o Raoul, be haru ti? :o

rwyf wedi cynnig y rhyfel 6 dydd fel un gwyrth honedig

:rolio:
Nid oedd yn wyrth o gwbl. Mae'r holl beth yn gwneud synnwyr. Roedd gallu'r Arabiaid i amddiffyn eu maesydd awyr yn wael iawn, dyna pam oedd yr ymosodiadau cyntaf mor llwyddianus. Ymosodiadau, gyda llaw, oedd wedi cael ei gynllunio yn ofalus a manwl iawn. Ac oherwydd yr ymosodiadau cyntaf cafwyd "air superiority" a oedd yn galluogi i Israel enill y frwydr ar y tir, lle roedd y lluoedd awyr prysur yn chwalu nifer o'r gelyn gyda chydig iawn o wrthwynebiad. "Air superiority" yw'r peth pwysicaf mewn rhyfel modern.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan ceribethlem » Iau 03 Ion 2008 2:06 pm

Dan Dean a ddywedodd:"Air superiority" yw'r peth pwysicaf mewn rhyfel modern.
Gwed 'na wrth y Viet Cong :winc:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Dan Dean » Iau 03 Ion 2008 2:41 pm

Ceri, Ceri, Ceri. Os fysa ti'n darllen unrhywbeth am Fietnam a chadw meddwl agored mi ffendi di mai llaw Duw wnaeth gario'r Viet Cong i Saigon achos toedd o ddim yn ffan o Nixon.

Wrth gwrs, mae'n bosib enill rhyfel hebddo. :) Ond ar y llaw arall meddylia'r gwahaniaeth os fysa'r Viet Cong efo "rhagoriaeth awyr" - dipyn llai o farwolaethau ar ochr nhw. A sa fo bosib wedi gwahardd Kissinger rhag cyflawni'r gamp ffiaidd o fomio'r cachu allan o Laos a Chambodia hefyd.

rooney a ddywedodd:ac wedi gwahodd chi i restru buddugoliaethau militaraidd tebyg diweddar gan wledydd eraill oedd o dan anfantais tebyg

Y Viet Cong? Ddim yn "debyg" ond yr un mor "wyrthiol". (Diolch, Ceri!)
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan rooney » Sad 05 Ion 2008 4:57 pm

"Nid oedd yn wyrth o gwbl. Mae'r holl beth yn gwneud synnwyr."

Petae Dan Dean yn gweld plentyn 10 oed yn taro 18 twll-mewn-un fydde fe'n dweud ...

"Nid oedd yn wyrth o gwbl. Mae'r holl beth yn gwneud synnwyr. Fe darodd e'r bel yn galed, fe laniodd y peli ar y green ac fe rowliodd y peli fewn i'r twll. Ti'n gweld, mewn gem golff modern, y gyfrinach yw taro'r bel yn galed."

neu pan yn gweld plentyn 10 oed yn rhoi cweir i Joe Calzaghe:

"Nid oedd yn wyrth o gwbl. Mae'r holl beth yn gwnued synnwyr. Fe darodd eu Calzaghe yn galed yn ei ben. Disgynodd Calzage lawr. Ti'n gweld, mewn bocsio modern, y gyfrinach yw taro Calzage yn galed!"

Mae'r analysis yma yr un mor chwerthinllyd a'r un gan Dan Dean am y rhyfel 6-dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dan Dean » Sad 05 Ion 2008 6:29 pm

:lol: :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

Ni fuasai hyd yn oed Blewyn yn rhoi cymhariaethau mor ddwl a syml na'r uchod.

Oeddwn yn gobeithio i ti ateb i fy rhesymau yn unigol yn lle. :rolio:
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron