safle ffydd - does dim bywyd wedi ei ddarganfod yn unman heblaw fan hyn + dim prawf fod bywyd yn gallu cychwyn ei hun o'r di-fywyd. Erioed wedi cael ei weld. Cyfrifon tebygolrwydd yn dangos fod hyn yn gwbl hurt oherwydd cymlethdodau bywyd. Does gen i ddim digon o ffydd i gredu mewn pethau felna- falle fod gen ti. Does gen i ddim digon o ffydd i gredu mae ffliwc yw'r "fine-tuning" yn y bydysawd.
Hyd yn hyn tydi gwyddonwyr heb edrych am fywyd yn nunlle ond ein solar system ni- a heb wneud hynny'n llawn eto. Mae hyn yn lot llai na un rhan o biliwn o'r bydysawd.- Mae o ddigon posib fod bywyd wedi llwyddo i ddatblygu yn rhywle arall.
Oherwydd y rheolau ffiseg ac yr amodau ar gyfer bywyd a gafodd eu creu, ar hap, pan gychwynodd y bydysawd, mae bywyd wedi digwydd llwyddo i ddatblygu yn fan hyn.
Ond, tase'r amodau a cafodd eu gosod yn wahanol, - mi fysa fo ddim yn meddwl fod dim bywyd o gwbl- jyst bod bywyd yn datblygu mewn ffordd wahanol, ac mewn lleoliad hefo nodweddion gwahanol i'n byd ni. - Ddim yn ddigwyddiad mor anhebygol a hyna.