Marwolaeth drwy ddefnydd o'r taser ym maes awyr Vancouver.

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Marwolaeth drwy ddefnydd o'r taser ym maes awyr Vancouver.

Postiogan Mali » Sad 17 Tach 2007 3:48 am

Dyma'r stori sydd yn hawlio'r newyddion lleol, yn ogystal a'r un cenedlaethol yr wythnos yma.
Mae'r fideo yn un dorcalonus iawn , ac er bod 'na ddau ochr i bob stori, fedrai ddim peidio meddwl fod yr RCMP wedi bod yn lawdrwm ofnadwy yn y sefyllfa yma. :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Marwolaeth drwy ddefnydd o'r taser ym maes awyr Vancouve

Postiogan huwwaters » Sad 17 Tach 2007 11:01 am

Mali a ddywedodd:Dyma'r stori sydd yn hawlio'r newyddion lleol, yn ogystal a'r un cenedlaethol yr wythnos yma.
Mae'r fideo yn un dorcalonus iawn , ac er bod 'na ddau ochr i bob stori, fedrai ddim peidio meddwl fod yr RCMP wedi bod yn lawdrwm ofnadwy yn y sefyllfa yma. :crio:


Ma'n codi'r pwynt for 'tasers' ddim mor saff a ma nhw'n honni. Dyle Brunstorm meddwl dwy-waith cyn arfogi'r heddlu efo nhw.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Y Celt Cymraeg » Sad 17 Tach 2007 11:59 am

Dwi meddwl fod y taser yn risg werth i gymryd wrth ddelio efo iobos a scumbags sydd ar y stryd. Ddylsa nhw neud tasers cryfach yn fy marn i.
O swyddfa' r cyfarwyddwr
Y Celt Cymraeg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 117
Ymunwyd: Sul 12 Hyd 2003 7:51 pm
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Re: Marwolaeth drwy ddefnydd o'r taser ym maes awyr Vancouve

Postiogan Mali » Sad 17 Tach 2007 5:07 pm

huwwaters a ddywedodd:
Ma'n codi'r pwynt for 'tasers' ddim mor saff a ma nhw'n honni. Dyle Brunstorm meddwl dwy-waith cyn arfogi'r heddlu efo nhw.


Cytuno.
Ers i'r taser ddechrau cael ei ddefnyddio yng Nghanada, mae 'na 18 o fobol wedi marw mewn 'taser related deaths' , fel y gwelir ar y map yma.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Chip » Sad 17 Tach 2007 5:17 pm

Y Celt Cymraeg a ddywedodd: Ddylsa nhw neud tasers cryfach yn fy marn i.


yn siwr does dim angen iddynt bod yn fwy pwerys, ma'r boi newydd marw, a boi odd ddim yn dennau o bell ffordd. dwi'n gallu weld pam mae angen amdanynt, yn llawer well na cael heddlu arfog, ond beth dwi'n ofni yw or defnydd ohonynt,

But within seconds he was zapped with a Taser, an electric stun gun. He flails in pain, is pinned by the officers, appears to have been Tasered again, and passes out. He later died.


ond wedi dweud hyny nid yw fy cyfrifiadur yn digon gryf i lwytho'r fideo i mi weld, felly dwi mond yn dweud hyn wedi i mi ddarllen yr adroddiad a weld cwpwl o'r llunie.
-Superman don't need no seat belt.
-Superman don't need no airplane, either.
Muhammad Ali and Flight attendant
Rhithffurf defnyddiwr
Chip
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 276
Ymunwyd: Sul 13 Awst 2006 5:36 pm
Lleoliad: PLwmp

Postiogan Mali » Sad 17 Tach 2007 5:18 pm

Y Celt Cymraeg a ddywedodd:Dwi meddwl fod y taser yn risg werth i gymryd wrth ddelio efo iobos a scumbags sydd ar y stryd. Ddylsa nhw neud tasers cryfach yn fy marn i.


Ond doedd y dyn yma ddim yn iobo na scumbag ! Yr unig beth oedd y creadur bach 'di wneud oedd fflio i wlad estron i fod efo'i fam , a chael ei hun mewn sefyllfa ddiarth a chymysglyd .
Wyt ti'n wirioneddol gredu nad ydi 50,000 volts yn ddigon ?
:ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan GT » Sad 17 Tach 2007 5:19 pm

Mae David Davies eisiau i bawb gael un
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan huwwaters » Sad 17 Tach 2007 5:28 pm

GT a ddywedodd:Mae David Davies eisiau i bawb gael un


Am idiocy. Be fyse fo di neud petai ganddo un, nath o ddim cwrdd a nhw. Unwaith fydd lladratwyr yn gwbad fod gan pawb taser, naw nhw'r ymdrech i gael dryll. "Aggression breeds aggression."

Mae nhw'n methu'r pwynt yn llwyr, sef, pam fod na lladratwyr yn y lle cyntaf? Ffaeleddau'r llywodraeth - llawn pobol o gefndiroedd addysg annibynol sydd heb cliw am wir brobleme cymdeithasol y wlad.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Mali » Sad 17 Tach 2007 5:41 pm

GT a ddywedodd:Mae David Davies eisiau i bawb gael un


Anyone hit suffers extreme pain and temporary paralysis but no permanent injury.
:ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron