Cynhesu byd eang- Adroddiad IPCC

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydych chi yn cytuno bod rhaid gweithredu nawr?

Daeth y pôl i ben ar Llun 17 Rhag 2007 4:39 pm

Ydw, dwi'n cytuno
7
70%
Nadw, mae'r holl beth yn hype gan yr hippies a'r cyfryngau
3
30%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 10

Cynhesu byd eang- Adroddiad IPCC

Postiogan Griff-Waunfach » Sad 17 Tach 2007 4:39 pm

Wel mae'r IPCC wedi datgan (mewn iaith eithaf plaen) bod angen i llywodraethau neud rhywbeth nawr a bod gennym bwlch o ddeutu degawd i withredu cyn bod hi'n rhy hwyr! Gweler adroddiad cryno'r IPCC FAN HYN

Mae'n ymweld fel bod y CU yn seriws am y peth, a'r neges yw fe ddylai'r cymuned rhyngwladol fod hefyd! Tybed pa mor effeithiol bydd olynydd i Kyoto?

Beth ydych chi'n meddwl?

Trafodwch......
Rhithffurf defnyddiwr
Griff-Waunfach
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 940
Ymunwyd: Mer 03 Maw 2004 11:28 am
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Ari Brenin Cymru » Sad 17 Tach 2007 8:16 pm

Mae'r holl beth yma'n cael ei heipio fyny yn hollol ddiangen, mae o fel fod hi'n cwl i ddweud fod angen gwneud rywbeth am newid hinsawdd, yn amlwg mae'n beth da i newid ein harferion er mwyn gwella lefelau CO2 yn yr atmosffer ond does dim angen fod mor fyrbwyll.

Mae llywodraethau i gyd yn trafod hyn fel mai hwn ydy'r unig broblem sy'n bodoli, wel beth am y broblem o boblogaeth?? Mae poblogaeth y byd wedi ffrwydro yn y 50 mlynedd dwythaf, siwr fod hyn yn fwy o broblem. Os bydd poblogaeth yn cario mlaen i gynyddu ar y lefel yma bydd dim digon o adnoddau ar y ddaear i gynnal y bobl yma.

Yn sicr mae angen edrych ar newid hinsawdd a gwneud rhywbeth amdano ond mae angen edrych ar bethau pwysig eraill hefyd.
Ari Brenin Cymru
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1037
Ymunwyd: Mer 20 Gor 2005 8:32 pm
Lleoliad: Porthmadog/Aberystwyth

Postiogan Nanog » Iau 29 Tach 2007 9:40 am

Nid 'Cynhesu byd eang' yw'r slogan nawr. Gan fod yr hinsawdd mewn llawer of lefydd yn gwrth-ddweud hyn yn ddiweddar. Mae e (beth bynnag yw e) wedi cael ei ail labelu i fod yn 'Newid hinsawdd y byd'.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Nanog » Iau 29 Tach 2007 9:45 am

Ari Brenin Cymru a ddywedodd:Os bydd poblogaeth yn cario mlaen i gynyddu ar y lefel yma bydd dim digon o adnoddau ar y ddaear i gynnal y bobl yma.



Pan mae gyda ti pobl yn y byd 'ma sydd yn byw mewn tai gyda tua 20 ystafell wely ee Al Gore ni fydd hi o unrhyw sioc i unrhyw un fod na ddim digon o adnoddau ar y ddaear i gynnal yr holl bobl.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron