http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/south_asia/7161590.stm
blydi hel
dw i 'di synnu fy hun braidd efo pa mor wirioneddol gandryll a siomedig dw i efo hyn. Pa ddiawl fath o obaith sydd yna i Bacistan rwan mewn gwirionedd?
Mae'n rhy gynnar i ddeall pwy yn union sy'n gyfrifol ond aargh mae'n anhygoel o rwystredig. Roedd Bhutto, er gwaethaf unrhyw ffaeleddau, yn gwbl hanfodol ar gyfer unrhyw fath o ddemocratiaeth yn y twll lle 'na. Does dim ffigwr amlwg i gymryd ei lle hyd y gwn i, ac mae rhywun yn pryderu mai mwy o dollti gwaed fydd unig ganlyniad hyn.
yr unig obaith ydi bod hyn rhywsut yn cynnau tân ym moliau'r Pacistaniaid hynny sy'n cydymdeimlo â democratiaeth. Aargh dw i mor flin.