Benazir Bhutto wedi'i lladd

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Benazir Bhutto wedi'i lladd

Postiogan Dylan » Iau 27 Rhag 2007 2:33 pm

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/south_asia/7161590.stm

blydi hel

dw i 'di synnu fy hun braidd efo pa mor wirioneddol gandryll a siomedig dw i efo hyn. Pa ddiawl fath o obaith sydd yna i Bacistan rwan mewn gwirionedd?

Mae'n rhy gynnar i ddeall pwy yn union sy'n gyfrifol ond aargh mae'n anhygoel o rwystredig. Roedd Bhutto, er gwaethaf unrhyw ffaeleddau, yn gwbl hanfodol ar gyfer unrhyw fath o ddemocratiaeth yn y twll lle 'na. Does dim ffigwr amlwg i gymryd ei lle hyd y gwn i, ac mae rhywun yn pryderu mai mwy o dollti gwaed fydd unig ganlyniad hyn.

yr unig obaith ydi bod hyn rhywsut yn cynnau tân ym moliau'r Pacistaniaid hynny sy'n cydymdeimlo â democratiaeth. Aargh dw i mor flin.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Iau 27 Rhag 2007 6:02 pm

dw i'n cydymdeimlo ag unrhyw un sydd wedi darllen ond methu meddwl am unrhyw beth i'w ychwanegu. Cwbl all unrhyw un wneud dw i'n credu ydi gweiddi "AAAAAAAAAAARGH" a brathu dwrn

dw i'n anobeithio wir
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mali » Gwe 28 Rhag 2007 10:00 am

Siomedigaeth a thristwch mawr i'r bobl oedd yn gefnogol iddi , a thristwch hefyd ar ran pawb sydd yn gweithio yn enw heddwch a chwarae teg.
Heddwch i'w llwch .... :crio:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan rooney » Gwe 28 Rhag 2007 5:57 pm

al-Qaeda yn cael y bai
http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/south_asia/7163307.stm

fydd y mwslemiaid heddychlon, canol-y-ffordd, yn condemnio hyn ar draws y byd, tybed?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Nanog » Gwe 28 Rhag 2007 9:11 pm

Mali a ddywedodd:Siomedigaeth a thristwch mawr i'r bobl oedd yn gefnogol iddi , a thristwch hefyd ar ran pawb sydd yn gweithio yn enw heddwch a chwarae teg.Heddwch i'w llwch .... :crio:


Roedd hi'n gefnogol i anturiaethau Bush/Blair......felly dwi ddim mor siwr fod y digwyddiad 'ma yn dristwch arbenning i'r rhai sydd yn gweithio yn enw heddwch a chwarae teg.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Dylan » Sad 29 Rhag 2007 3:05 am

rooney a ddywedodd:al-Qaeda yn cael y bai
http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/south_asia/7163307.stm

fydd y mwslemiaid heddychlon, canol-y-ffordd, yn condemnio hyn ar draws y byd, tybed?


wel hold on, yr IB (Intelligence Bureau, sydd â chysylltiadau clós â'r fyddin ac sy'n gefnogol iawn i Musharraf) sy'n honni hynny. Does dim dwywaith bod Mush am elwa o hyn gan ei fod yn rhoi cyfle euraidd iddo gipio mwy o rym iddo'i hun

wrth reswm, mae'n hen ddigon posib mai al-Qaeda neu rhywun tebyg oedd wrthi, a dw i'n dal i gredu mai dyna sydd fwya tebygol. Er mor wrthun ydi cefnogwyr Musharraf, dw i ddim yn credu y byddent wedi mynd ati i wneud hyn.

ond ta waeth am hynny, dan ni ddim yn gwybod yn iawn pwy oedd yn gyfrifol. Mae'r peth yn amherthnasol be bynnag: yr unig beth o bwys ydi bod yr unig obaith o unrhyw sens a sefydlogrwydd yn y tipyn lle 'na wedi diflannu am flynyddoedd i ddod. Os ydi pethau'n mynd yn fler go iawn yna mae'n amser cachu brics. Mae rhyfel cartref yn un peth, ond mae Pacistan yn wlad niwclear sy'n gwneud y peth gant a mil o weithiau'n waeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sad 29 Rhag 2007 3:09 am

Nanog a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:Siomedigaeth a thristwch mawr i'r bobl oedd yn gefnogol iddi , a thristwch hefyd ar ran pawb sydd yn gweithio yn enw heddwch a chwarae teg.Heddwch i'w llwch .... :crio:


Roedd hi'n gefnogol i anturiaethau Bush/Blair......felly dwi ddim mor siwr fod y digwyddiad 'ma yn dristwch arbenning i'r rhai sydd yn gweithio yn enw heddwch a chwarae teg.


mae hwn yn sylw eithriadol o hurt

doedd Bhutto ddim yn berffaith o ddigon, ond hi oedd yr unig obaith o sicrhau heddwch a chwarae teg. Dim Bhutto, dim democratiaeth. Mae wirioneddol mor syml â hynny fel mae pethau ar y funud. Does gan y garfan ddemocrataidd neb arall all gymryd ei lle. Mae hyn wedi creu gwagle grym andwyol.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sad 29 Rhag 2007 3:39 am

Nanog a ddywedodd:Roedd hi'n gefnogol i anturiaethau Bush/Blair......felly dwi ddim mor siwr fod y digwyddiad 'ma yn dristwch arbenning i'r rhai sydd yn gweithio yn enw heddwch a chwarae teg.


dim ond mater o amser oedd hi tan i rywun o maes-e feio Bush/Blair/Israel/Toriaid am rywbeth fel hyn
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sad 29 Rhag 2007 3:43 am

o tyrd yn dy flaen, hyd yn oed pan mae rhywun yn dweud rhywbeth dwl ac mae gen ti reswm digon teilwng dros anghytuno, ti dal yn gorfod camddeall a gwyrdroi'r hyn a ddywedwyd. Ddaru Nanog ddim gwneud hynny o gwbl a tasa ti'n gallu darllen fe fyset ti di'n gallu gweld hynny.

roedd sylw Nanog yn ddigon o cheap shot ond roedd hwnna gen ti'n waeth byth
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan dewi_o » Sad 29 Rhag 2007 11:55 am

Yr unig pobol i'w beio am hyn yw'r terfysgwyr gyda'r ffrwydrad. Mae'r digwyddiad yn un drist iawn i Bacistan ac i'r byd cyfan.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai

cron