mae McCain yn anhygoel. Mae'r clip yma'n frawychus, yn erchyll
mms://a1620.v78078.c7807.e.vm.akamaistr ... es_LAU.asfc&p y ddolen mewn i Windows Media Player neu rhywbeth. 6m45e. Myth llwyr ydi'r ffaith ei fod yn arbenigo ym maes polisi tramor: mae'n debyg fod McCain wedi cymysgu'n lân rhwng Zapatero, prif weinidog Sbaen, a'r mudiad Zapatista ym Mecsico. Cwestiwn syml: "a fyddai McCain yn fodlon gwahodd Zapatero i'r Ty Gwyn?" Ddim yn heriol o gwbl does bosib, ond mae'r boi jyst yn mwydro. Mae'r gyflwynwraig yn ymddangos yn syn efo'i ateb ac yn ail-ofyn y cwestiwn sawl gwaith a dydi'r boi dal ddim yn clicio. Anhygoel.