Etholiad America 2008

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy Wneith Ennill?

Michael Bloomberg (I)
1
2%
Hillary Clinton (D)
16
33%
John McCain (R)
2
4%
Barack Obama (D)
24
49%
Rudy Giuliani (R)
1
2%
John Edwards (D)
2
4%
Mitt Romney (R)
0
Dim pleidleisiau
Mike Huckabee (R)
1
2%
Rhywun Arall?
2
4%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 49

Etholiad America 2008

Postiogan Macsen » Iau 03 Ion 2008 1:02 pm

Dyma ni eto. Mae'r caucus yn Iowa yn dechrau heno, gyda'r dewis arferol o ddemocratiaid fflip-fflopiog a gweriniaethwyr efengylaidd.

A yw America'n barod am arlywydd sy'n ddynes, neu'n groenddu? A fydden nhw'n meiddio ethol Mike Huckabee, dyn sy'n gwneud i Bush edrych fel anffyddiwr ac arbenigwr ar bolisi dramor? A fydd Michael Bloomberg yn rhedeg yn annibynol ac yn cipio'r Ty Gwyn gyda'i £1 biliwn o bres gwario?
Golygwyd diwethaf gan Macsen ar Iau 03 Ion 2008 6:19 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan dewi_o » Iau 03 Ion 2008 1:56 pm

Dwi ddim yn siwr pwy fydd yn enil heno ond mae'n edrych yn agos iawn. Erbyn y diwedd dwi'n gweld y Gweriniaethwyr yn dewis Rudy Guliani a'r Democratiaid yn dewis Hillary Clinton. Er i Guliani gwneud job da fel Maer Efrog Newydd mae gen i deimlad bydd Hillary Clinton yn enill ras agos iawn mis Tachwedd nesaf.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Macsen » Iau 03 Ion 2008 2:11 pm

Y broblem i Rudy Guliani ydi'r ffaith bod gormod o'i apel yn seiliedig ar ei waith yn ystod trychineb 9/11. Petai dynion tan yn trefnu ymgyrch yn ei erbyn debyg i hynny wnaeth y Swift Boat Vets yn erbyn Kerry fe allai fod ar ben arno. Yli ar hwn er engraifft.

Dwi'n credu taw McCain fydd yn rhedeg dros y Gweriniaethwyr yn y pen draw. Ar ochor y Democratiaid swn i'm yn synnu pe bai John Edwards yn mynd a hi.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan dewi_o » Iau 03 Ion 2008 2:32 pm

Macsen a ddywedodd:Y broblem i Rudy Guliani ydi'r ffaith bod gormod o'i apel yn seiliedig ar ei waith yn ystod trychineb 9/11. Petai dynion tan yn trefnu ymgyrch yn ei erbyn debyg i hynny wnaeth y Swift Boat Vets yn erbyn Kerry fe allai fod ar ben arno. Yli ar hwn er engraifft.

Dwi'n credu taw McCain fydd yn rhedeg dros y Gweriniaethwyr yn y pen draw. Ar ochor y Democratiaid swn i'm yn synnu pe bai John Edwards yn mynd a hi.


Os mae Edwards a Huckerbee yn gwneud yn dda heno fuaswn i'n synnu dim. Mae nifer sylweddol o Democratiaid yn anfodlon gyda Barma a Clinton felly os all Edwards cael canlyniadau cynnar da, creu momentwm iddo'i hun mae'n bosib iddo enill y ras.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Cwlcymro » Iau 03 Ion 2008 3:52 pm

Adag yma yn 2004 mi odd pawb yn cymeryd ma Howard Dean fysa dewis y Democratiaid. Mi enillodd o DC yn hawdd yn y primary cynta, ond fod bron neb arall wedi sefyll yno. Yn y caucus cynta yn Iowa mi oedd pawb yn disgwyl i Dean enill, ond mi ddoth on drydydd, 20% tu ol i John Kerry.
Cyn iowa mi oedd Dean 20% ar y blaen yn New Hampshire, dim ond 8 diwrnod wedi Iowa mi gollodd o NH o dros 15 pwynt.

Felly does na wir ddim byd yn sicir a dydi'r ffaith fod Obama, Clinton, Romney a Huckabee mor bell ar y blaen yn y polls yn golygu dim.

Os enillith Clinton neu Obama Iowa A NH yn weddol gyfforddus allai ddim gweld heibio'r un yna i gael ei dewis. Mi fysa colli iowa a NH yn ergyd drom iawn iawn i Obama, a allai weld ei ymgyrch yn diflannu fel ean 4 mlynedd yn ol. Mi fysa Clinton yn gallu byw efo colli;r ddau, ond mi fysai angen buddugoliaeth fawr yn o-fuan i ail-ddechra ei ymgyrch.
Os ydi Edwards yn cael ail agos yn y ddau, neu ella hyd yn oed cipio un, mi geith o lot o gefnogaeth ar y ffordd i Super Tuesday.

Mae'r gwerineithwyr yn anoddach fyth i ddyfalu. Dydi mcCain na Guiliani ddim yn digswyl gwneud yn dda yn Iowa, ond does dim rhaid iddy nhw. Mae pawb yn disgwyl iddy nhw wneud mor wael yno mi fydd trydydd cryf yn edrych fel canlyniad da i un o'r ddau. mae'n rhaid i Huckabee enill yn gyfforddus os ydio eisiau cael unrhyw wir effaith erbyn Super Tuesday, tra bysa ail gwan yn ergyd drom iawn i Romney.

I neidio oddi ar y ffens, dwi'n dyfalu:

Iowa
Obama yn agos o Clinton
Huckabee yn weddol gyfforddus.

New Hampshire
Clinton yn agos o Obama
Romney yn agos o McCain

America
Obama yn erbyn Romney - Mr O i enill
(Clinton ddudish i jusd 5 munud yn ol, wedi newid yn meddwl wan a shwr o neud ganwaith eto!0
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Gwe 04 Ion 2008 9:22 am

Obama a Huckabee yn gyfforddus iawn yn Iowa. Clinton yn drydydd jusd tu ol i Edwards. Guiliani yn 6ed efo llai na 4%. Ma na ddau wedi tynnu allan o ras y Democratiaid, Dodd a Biden.

DEMOCRATS (canlyniad)
Barack Obama - 37.6%
John Edwards - 29.7%
Hillary Clinton - 29.5%
Bill Richardson - 2.1%


REPUBLICANS (96% wedi cyfri)
Mike Huckabee - 34.3%
Mitt Romney - 25.3%
Fred Thomson - 13.4%
John McCain - 13.1%
Ron Paul - 10.0%
Rudy Giuliani - 3.5%
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Gwe 04 Ion 2008 1:38 pm

Be sy'n arwyddocaol yw mai dau wyneb newydd sy' wedi gwneud yn dda yn Iowa. Mae'r holl wynebau mae pobol yn ei hystyried yn rhan o'r dwy arlywiaeth dwytha' yn dioddef. Gall Obama wneud yn dda iawn alla'n o'i neges o roi gobaith newydd a mynd yn ol i'r hen freuddwyd Americanaidd. Mae yna rywbeth yn Huckabee hefyd sy'n awgrymu ceidwadaeth trugarog yr oes aur mytholegol a fu. Ond dwi'm yn meddwl bod ei apel mor eang ac Obama.

Dwi'm yn hollol sicr fydd Hillary yn mynd ar y blaen yn y polau eto ar ol hwn. Roedd pobol yn arfer ateb 'Hillary' i gwestiynau am eu dewis nesa' am mai hi oedd y Democrat mwya' amlwg, ond unwaith mae dewis arall ar gael iddyn nhw mae nhw wedi troi cefn arni. Yn eirnoig er bod Hillary yn ddynes mae ganddi hi ddelwedd mwy caled nag Obama mewn ffordd, tra fod o'n un o'r brid newydd 'ma o ddynion mwy sensitif. Mae'r ffaith bod mwy o ferched 'di pledleisio idda fo na hi yn cadarnhau hynny.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cwlcymro » Gwe 04 Ion 2008 4:08 pm

Er nad ydi Iowa yn agos i fod yn groesdoriad o America, yn enwedig o gofio ei system bledleisia caucus, mae o yn fyddigoliaeth bwysig iawn i Obama. Tan heddiw, er cymaint ei gefnogaeth a'i allu i godi pres mi oddgan Clinton fantais enfawr yn y ffaith fod pawb yn disgwyl iddi hi enill hwn ac i enill yn mis Tachwedd.

Mi fedrith Obama ai gefnogwyr bwyntio allan rwan fod Obama yn gallu enill yr enwebiad hefyd, ac mi fysa buddugoliaeth arall yn NH yn ddigon i ddod a fo ben-ben a Clinton mewn polau ledled America. Ma canlyniad Iowa hefyd yn dangos fod Obama yn gallu curo yn Nhachwedd. Mi oedd ganddo gefnogaeth uchel gan bobl oedd yn gweld ei hyn fel Annibynnwyr neu Weriniaethwyr ond naeth droi fyny i caucusus y Democratiaid. Dyna'r negas swni i Obama yn ei bwysleisho dros y 5 dwrnod nesa, fod Iowa wedi dangos fod Democratitiad, merched, pobl ifanc, annibynnwyr a gweriniaethwyr yn cefnogi Obama.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan dewi_o » Gwe 04 Ion 2008 6:59 pm

Canlyniadau diddorol iawn. Er fod Clinton wedi dod yn drydydd dydy hi ddim allan o'r rhas o bell ffordd. Canlyniad da iawn i Obama ond os all Hillary Clinton neu Edwards enill yn New Hampshire mae ras y Democratiaid yn parhau i fod yn diddorol. Yn sicr dim ond tri sydd yn y ras yna.

O safbwynt y Gweriniaethwyr canlyniad wael iawn i Gulliani mae pethau ar ben iddo. Ras y gweriniaethwyr i weld rhwng dau Huckerby a Romilly. Mae'n rhaid i'r gweddill neud yn well yn New Hampshire neu pethau ar ben iddynt hefyd. New Hampshire a Super Tuesday yn mynd i fod yn brwydrau diddorol iawn.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Macsen » Gwe 04 Ion 2008 8:45 pm

dewi_o a ddywedodd:O safbwynt y Gweriniaethwyr canlyniad wael iawn i Gulliani mae pethau ar ben iddo.

Dim o gwbwl. Wnaeth Giuliani a McCain anwybyddu Iowa, lle mae nhw'n reit amhoblogaidd, a canolbwyntio ar ennill cefnogaeth mewn talaethiau lle mae gyda nhw fwy o gefnogaeth (Florida i Giuliani, New Hampshire in McCain).

Y gweriniaethwr sydd wedi ei frifo mwya gan Iowa ydi Mitt Romney, oedd wedi palu tua £10 miliwn mewn i'r dalaith.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron