Etholiad America 2008

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Pwy Wneith Ennill?

Michael Bloomberg (I)
1
2%
Hillary Clinton (D)
16
33%
John McCain (R)
2
4%
Barack Obama (D)
24
49%
Rudy Giuliani (R)
1
2%
John Edwards (D)
2
4%
Mitt Romney (R)
0
Dim pleidleisiau
Mike Huckabee (R)
1
2%
Rhywun Arall?
2
4%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 49

Postiogan Cwlcymro » Gwe 04 Ion 2008 11:50 pm

Ma Macsen yn iawn, dydio'm yn ddiwadd y byd i Guiliani na McCain. Dwi'm yn gweld Guiliani yn dal arni rhy hir ddo, rhwng McCain a Romney dwi'n gweld petha'n mynd. Os ydi McCain yn colli yn NH mi fydd o mewn bach o drwbwl, mi ellith Guiliani fyw ta Florida heb enill.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Sad 05 Ion 2008 12:27 am

Erthygl ddiddorol ar Obama fan hyn. Be sy'n fy nharo i yw mai fo yw'r unig un ar y funud sy'n edrych yn 'presidential'.

Dwi'n credu taw Obama v Giuliani fyddai'r ras mwya' diddorol am y ty gwyn. Fyddai Giuliani yn meiddio defnyddio trics budur 'enw mwslim wedi i addysgu mewn ysgol mwslemaidd' yn erbyn Obama pam fod ganddo fo hen ddigon o sgerbydau yn ei orffennol i'r Democratiaid daflu nol ato (tri ysgariad, licio gwisgo fyny fel merch, ayyb)? Ac nesa i Giuliani a fuodd dim mwy na Maer, dyw 'diffyg profiad' Obama ddim yn edrych mor wael a hynny. Fe fyddai ymgyrch y ddau mor simsan a'i gilydd, Obama yn pwysleisio ei bersenoliaeth a'n gobeithio bod pobol eisiau 'newid' a 'gobaith' (heb sylwi bod dim llawer o obaith iddo newid llawer o ddim mewn gwirionedd), a Giuliani yn parablu ymlaen am 9/11 a gadael i hun yn agored i ymosodiad 'swift boat vet style' gan ddynion tan.

Wnes i ddweud uchod na fyddwn i'n synnu pe bai John Edwards yn mynd a hi. Dw i'n diwygio hynny ar ol gweld cyn lleied o sylw gath o gan y cyfryngau bore 'ma ar ol dod yn ail. Roedd ei ymgyrch yn seiliedig ar ennill Iowa, mae'n debyg. Fe wneith o fel dirprwy i bwy bynnag sy'n ennill, fel tro dwytha.

Ond McCain i'r republicans, o hyd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan dewi_o » Sad 05 Ion 2008 3:18 pm

Macsen a ddywedodd:Dim o gwbwl. Wnaeth Giuliani a McCain anwybyddu Iowa, lle mae nhw'n reit amhoblogaidd, a canolbwyntio ar ennill cefnogaeth mewn talaethiau lle mae gyda nhw fwy o gefnogaeth (Florida i Giuliani, New Hampshire in McCain).

Y gweriniaethwr sydd wedi ei frifo mwya gan Iowa ydi Mitt Romney, oedd wedi palu tua £10 miliwn mewn i'r dalaith.


Pwyntiau da ond mae'n rhaid i McCain wneud yn well yn New Hampshire a dwi dal i gredu bod i drosodd nawr i Giuliani, dydy ei ymgyrch ef yn edrych yn ddi-fflach, anodd ei weld yn cael unrhyw momentwm i'w ymgyrch.
Gwyn fyd cefnogwyr pel droed Wrecsam a Chymru:
Gwyn eu byd y rhai sy'n disgwyl dim, ni chant eu siomi.
Rhithffurf defnyddiwr
dewi_o
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 213
Ymunwyd: Sul 13 Mai 2007 9:52 am
Lleoliad: Caerffili

Re: Etholiad America 2008

Postiogan rooney » Sad 05 Ion 2008 4:41 pm

Macsen a ddywedodd: A fydden nhw'n meiddio ethol Mike Huckabee, dyn sy'n gwneud i Bush edrych fel anffyddiwr ac arbenigwr ar bolisi dramor?


Fe all Huckabee ddisgwyl parhad o'r anoddefgarwch a'r casineb gan y ffwndamentalwyr anffyddiol a'r cyfryngau seciwlar ac mae Bush wedi ei gael. Beth yw'r ots? Da yw gweld nad yw pobl Iowa ac America yn ddigon ffol i gymryd sylw o'r pobl yma, ac yn cymryd i ystyried pwysigrwydd sail moesoldeb eu arweinwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Nanog » Sad 05 Ion 2008 8:48 pm

Fe hoffwn i weld Ron Paul yn gwneud yn dda.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Mali » Sul 06 Ion 2008 12:26 am

Ah..Hillary Clinton . :D
Mae'n hen bryd i ni gael merch yn Arlywydd America! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Nanog » Sul 06 Ion 2008 8:16 pm

Mali a ddywedodd:Ah..Hillary Clinton . :D
Mae'n hen bryd i ni gael merch yn Arlywydd America! :winc:


Hey, ti'n meddwl gwneith hi cystal job a Maggie? :)
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Llun 07 Ion 2008 2:15 am

Mali a ddywedodd:Ah..Hillary Clinton . :D
Mae'n hen bryd i ni gael merch yn Arlywydd America! :winc:


Ond onid ydy'n hen bryd cael arlywydd du megis Obama, neu arlywydd o leiafrif crefyddol megis Mitt Romney (y Mormon) hefyd?

Y gwir yw bod Clinton, Obama a Romney yn perthyn i ddosbarth gwleidyddol yr UDA a pharhad o'r hen gyfundrefn mae'r tri yn eu cynnig.

Yn rhyfedd iawn, er ei fod yn cael ei ddarlunio fel un o'r Southern Baptist Religious Right yr ymgeisydd mwyaf unigryw yw Mike Huckabee. Dyn sydd yn rhedeg ei ymgyrch ar gyllid isel iawn (yn ôl safonau'r UDA). Dyn o'r dosbarth gweithiol sydd yn apelio i'r dosbarth gweithiol efo polisïau i wella bywyd y dosbarth gweithiol. Boi bydda, oni bai am ei agwedd adweithiol ar faterion moesol rhywiol Cristionogol, yn cael ei ystyried ar y chwith eithafol Americanaidd.

Oni bai am ei grefydd Huckabee ydy'r ymgeisydd sydd yn cynnig cynrychiolaeth o'r newydd i'r sawl sydd ddim yn cael eu cynrychioli yn deg ar hyn o bryd, heb amheuaeth.

Wedi dweud hynny, byddwn i ddim yn dymuno gweld ei ethol. Mae o'n ymddangos mor anwadal ei farn ar gymaint o bynciau mi fyddai'n cael ei fanipiwleiddio yn fwy didrugaredd gan y gyfundrefn yn Washington na chafodd y twpsyn Bush jr erioed.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Re: Etholiad America 2008

Postiogan Dylan » Llun 07 Ion 2008 3:49 pm

rooney a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd: A fydden nhw'n meiddio ethol Mike Huckabee, dyn sy'n gwneud i Bush edrych fel anffyddiwr ac arbenigwr ar bolisi dramor?


Fe all Huckabee ddisgwyl parhad o'r anoddefgarwch a'r casineb gan y ffwndamentalwyr anffyddiol a'r cyfryngau seciwlar ac mae Bush wedi ei gael. Beth yw'r ots? Da yw gweld nad yw pobl Iowa ac America yn ddigon ffol i gymryd sylw o'r pobl yma, ac yn cymryd i ystyried pwysigrwydd sail moesoldeb eu arweinwyr.


oes gen ti unrhyw syniad o gwbl be 'di polisiau economaidd yr Huckster?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Re: Etholiad America 2008

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 07 Ion 2008 5:22 pm

Dylan a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd: A fydden nhw'n meiddio ethol Mike Huckabee, dyn sy'n gwneud i Bush edrych fel anffyddiwr ac arbenigwr ar bolisi dramor?


Fe all Huckabee ddisgwyl parhad o'r anoddefgarwch a'r casineb gan y ffwndamentalwyr anffyddiol a'r cyfryngau seciwlar ac mae Bush wedi ei gael. Beth yw'r ots? Da yw gweld nad yw pobl Iowa ac America yn ddigon ffol i gymryd sylw o'r pobl yma, ac yn cymryd i ystyried pwysigrwydd sail moesoldeb eu arweinwyr.


oes gen ti unrhyw syniad o gwbl be 'di polisiau economaidd yr Huckster?


Oes gen ti unrhyw syniad o gwbl be 'di barn economaidd Rooney? :winc:
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai