gan Cwlcymro » Iau 03 Ion 2008 3:52 pm
Adag yma yn 2004 mi odd pawb yn cymeryd ma Howard Dean fysa dewis y Democratiaid. Mi enillodd o DC yn hawdd yn y primary cynta, ond fod bron neb arall wedi sefyll yno. Yn y caucus cynta yn Iowa mi oedd pawb yn disgwyl i Dean enill, ond mi ddoth on drydydd, 20% tu ol i John Kerry.
Cyn iowa mi oedd Dean 20% ar y blaen yn New Hampshire, dim ond 8 diwrnod wedi Iowa mi gollodd o NH o dros 15 pwynt.
Felly does na wir ddim byd yn sicir a dydi'r ffaith fod Obama, Clinton, Romney a Huckabee mor bell ar y blaen yn y polls yn golygu dim.
Os enillith Clinton neu Obama Iowa A NH yn weddol gyfforddus allai ddim gweld heibio'r un yna i gael ei dewis. Mi fysa colli iowa a NH yn ergyd drom iawn iawn i Obama, a allai weld ei ymgyrch yn diflannu fel ean 4 mlynedd yn ol. Mi fysa Clinton yn gallu byw efo colli;r ddau, ond mi fysai angen buddugoliaeth fawr yn o-fuan i ail-ddechra ei ymgyrch.
Os ydi Edwards yn cael ail agos yn y ddau, neu ella hyd yn oed cipio un, mi geith o lot o gefnogaeth ar y ffordd i Super Tuesday.
Mae'r gwerineithwyr yn anoddach fyth i ddyfalu. Dydi mcCain na Guiliani ddim yn digswyl gwneud yn dda yn Iowa, ond does dim rhaid iddy nhw. Mae pawb yn disgwyl iddy nhw wneud mor wael yno mi fydd trydydd cryf yn edrych fel canlyniad da i un o'r ddau. mae'n rhaid i Huckabee enill yn gyfforddus os ydio eisiau cael unrhyw wir effaith erbyn Super Tuesday, tra bysa ail gwan yn ergyd drom iawn i Romney.
I neidio oddi ar y ffens, dwi'n dyfalu:
Iowa
Obama yn agos o Clinton
Huckabee yn weddol gyfforddus.
New Hampshire
Clinton yn agos o Obama
Romney yn agos o McCain
America
Obama yn erbyn Romney - Mr O i enill
(Clinton ddudish i jusd 5 munud yn ol, wedi newid yn meddwl wan a shwr o neud ganwaith eto!0
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?