Tudalen 5 o 6

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 11:28 am
gan osian
Ray Diota a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:
Prysor a ddywedodd:Be di'r ods ar Obama i gael ei saethu os gurith o Hilary?

Y Tonya Harding Option. :ofn:

Dw i'n meddwl erbyn hyn mai nod Hillary yw i McCain ennill flwyddyn yma fel bod hi'n medru rhedeg eto mewn pedair mlynedd.


:?: :?:

nonsens do's bosib??

1) dyw'r republicans erio'd wedi bod mor amhoblogaidd, ma'r democrats yn ffefrynne mawr...
2) obama yw'r un all fwyaf fforddio aros oherwydd ei oed a'i allu i gynhyrchu arian...

dwi yn ffindo'r etholiad 'ma'n ddiddorol ofnadw, ond yn ddiweddar ma'r tit for tat wedi dechre mynd yn ddiflas...

Alla inna'm meddwl bysa Hillary yn g'neud hynny. Ma'r frwydr yn dechra mynd yn ddiflas braidd, dwi'n edrych ymlaen am y frwydr iawn, gan obeithio mai Obama fydd yn ymladd.

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 11:52 am
gan dawncyfarwydd
Swn i'm yn rhoi dim byd heibio'r gelwyddgast wenwynllyd controlfreakaidd fy hun. Sa gas gen i'i gweld hi yn y Ty Gwyn.

Oedd y celwydd 'na am gael pobol yn saethu ati'n Bosnia yn afiach. Gas gen i hi.

Sgen i ddim diddordeb go iawn mewn gwleidyddiaeth, dim ond gwleidyddiaeth personoliaeth a thacteg - ac achos hynna swn i'n cymryd John McCain dros Hilary unrhyw ddydd; dwi'n teimlo'i fod o yn jeniwin be bynnag mae o'n feddwl am Irac. A deud y gwir, ar ol i Clinton ddragio Obama lawr i'w chachu'i hun tro'ma, mi fasa'n llesol iddi hi gael colli'r etholiad arlywyddol a phydru yn obsgiwriti, ac i Obama gael bod yn rhyw fath o arweinydd gwrthblaid yn y cyfryngau am bedair blynedd. A dwi ddim yn gweld McCain yn para mwy nag un tymor.

[Gyda llaw, be sy'n digwydd os di arlywydd yn marw? Y dirprwy'n cymryd drosodd? Hynny'n newid sut mae McCain yn meddwl am ddewis ei ddirprwy, bownd o fod?]

Delwedd

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 12:20 pm
gan Macsen
Ray Diota a ddywedodd:1) dyw'r republicans erio'd wedi bod mor amhoblogaidd, ma'r democrats yn ffefrynne mawr...

Mae McCain ar y blaen yn y polau piniwn. Dyw Obama heb gael cyfle i ganolbwyntio arno eto oherwydd bod corff gelain ymgyrch Hillary'n dal i hongian o'i goes. Nid yw'n bosib yn fathamategol iddi ennill ond mae i'n byw mewn gobaith y bydd y 'superdelegates' (pobol sy'n rhoi lot o arian i'r blaid) yn mynd yn groes i ewyllus y bobol.

Ray Diota a ddywedodd:2) obama yw'r un all fwyaf fforddio aros oherwydd ei oed a'i allu i gynhyrchu arian...

Fe fydd Obama'n rhedeg eto yn sicr, ond dw i ddim yn meddwl dy fod ti wedi deall sut mae meddwl Hillary'n gweithio. Mae hi wedi penderfynu ei bod hi am fod yn arlywydd, a bydd hi'n gwneud popeth o fewn ei gallu i, gan gynnwys difrodi Democratiaid eraill a dweud celwyddu anferth ac hawdd eu dadbrofi am osgoi bwledi yn Bosnia a dod a heddwch i Gogledd Iwerddon, er mwyn cyraedd y nod hwnnw.

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Gwe 28 Maw 2008 12:26 pm
gan Ray Diota
Macsen a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:1) dyw'r republicans erio'd wedi bod mor amhoblogaidd, ma'r democrats yn ffefrynne mawr...

Mae McCain ar y blaen yn y polau piniwn. Dyw Obama heb gael cyfle i ganolbwyntio arno eto oherwydd bod corff gelain ymgyrch Hillary'n dal i hongian o'i goes. Nid yw'n bosib yn fathamategol iddi ennill ond mae i'n byw mewn gobaith y bydd y 'superdelegates' (pobol sy'n rhoi lot o arian i'r blaid) yn mynd yn groes i ewyllus y bobol.

Ray Diota a ddywedodd:2) obama yw'r un all fwyaf fforddio aros oherwydd ei oed a'i allu i gynhyrchu arian...

Fe fydd Obama'n rhedeg eto yn sicr, ond dw i ddim yn meddwl dy fod ti wedi deall sut mae meddwl Hillary'n gweithio. Mae hi wedi penderfynu ei bod hi am fod yn arlywydd, a bydd hi'n gwneud popeth o fewn ei gallu i, gan gynnwys difrodi Democratiaid eraill a dweud celwyddu anferth ac hawdd eu dadbrofi am osgoi bwledi yn Bosnia a dod a heddwch i Gogledd Iwerddon, er mwyn cyraedd y nod hwnnw.


1) wrth gwrs bod McCain ar y blaen - fe yw'r unig ymgeisydd!
2) Tra bo Hilary wedi gorddweud yr achos yn Bosnia, dwi'm yn meddwl 'i fod e'n 'dwyll' gymaint ag y mae rhai yn dweud... "I misspoke" ddwedodd hi, ag mae hynny'n wir i raddau gan iddi, yn ol y son, gael ei briffio am beth i wneud pe bai sniper fire... gath hi ei dal allan, ond dwi'n meddwl bo gormod yn ca'l ei wneud o'r stori yna...

yn y bon, mae ei ohwynt yn un dilys - mae ganddi fwy o brofiad na obama, on'd oes? mae'r 1st Lady yn swydd ffurfiol, felly mae 8 mlynedd yn ei chyflawni'n rhywbeth i'w ystyried...

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Iau 28 Awst 2008 7:12 pm
gan Macsen
Pethau'n dechrau edrych yn ddu ar Obama (ahem). Mae'r democratiaid yn ymddangos yn amharod i fynd ar ol gwendidau McCain ac eisiau rhedeg ymgyrch 'bositif' tra bod strategaeth 'taflu mwd i weld beth wneith glynu' y gweriniaethwyr yn llawer mwy effeithiol.

Hefyd dw i'n dechrau poeni bod Obama wedi mynd i gredu ei heip ei hun. Dyma ragflas o'i araith heno...

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 8:35 am
gan Hogyn o Rachub
Macsen a ddywedodd:Pethau'n dechrau edrych yn ddu ar Obama (ahem). Mae'r democratiaid yn ymddangos yn amharod i fynd ar ol gwendidau McCain ac eisiau rhedeg ymgyrch 'bositif' tra bod strategaeth 'taflu mwd i weld beth wneith glynu' y gweriniaethwyr yn llawer mwy effeithiol.

Hefyd dw i'n dechrau poeni bod Obama wedi mynd i gredu ei heip ei hun. Dyma ragflas o'i araith heno...



(Hihihi!)

Ond ia, dwi'n meddwl bod araith neithiwr efo'r holl lol yn mynd i droi pobl yn ei erbyn rhywfaint. Mae'n anhygoel gweld y gwahaniaeth rhwng gwleidyddiaeth America a'r wlad hon. Welsoch chi Obama'n defnyddio ei blant ar y llwyfan ychydig nosweithiau'n ôl? Sôn am wleidyddiaeth sinicaidd - ond dyna ni, rhai dwl ydi'r 'Mericans 'ma yn licio pethau felly. Ond gen i deimlad efallai bod y rhod yn troi yn erbyn Obama a'i fod yn gwenud gormod o sioe ar y funud - dybiwn i fod cefnogwyr McCain yn teimlo'n fwy hyderus nag erioed ar y funud.

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Gwe 29 Awst 2008 4:25 pm
gan Macsen
McCain wedi dewis merch fel ei Vice President. O'n i'n meddwl bydda fo'n gwneud hynna. Ond merch mor ifanc?

Sgen i'm syniad lle eith yr etholiad 'ma rwan a bod yn onest. All dewis rywun mor ifanc wneus smonach o neges McCain bod Obama yn rhy amhrofiadol, ac gwneud i McCain edrych yn hen. Fe allai hefyd ddwyn pledleisiau lot o ddemocratiaid sy'n ferched.

Beth bynnag, diolch i Obama dyn ni am gael etholiad hanesyddol naill ffordd neu'r llall...

Hillary v Palin yn 2012?

Fydd hi'n canu 'I'm a lumberjack and I'm OK!'?

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Sad 30 Awst 2008 1:04 am
gan dawncyfarwydd
Blydi hel. Ma'r boi yn chwerthinllyd. Prawf i America ydi'r etholiad yma rwan. Os ydi McCain i mewn ma nhw'n idiots, ac yn gonars ym mholitics y byd. Hwre i China dduda i sna cheith Obama mewn.

Ac myn uffar i, hon fydd yr arlywydd pan fydd McCain farw? O na.

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Sad 30 Awst 2008 1:31 pm
gan Macsen
Mae'n ddoniol sut mae'r ddadl wedi ei droi ar ei ben dros nos. Adeg yma ddoe roedd y gweriniaethwyr yn cwyno am ba mor amhrofiadol oedd Obama, nawr mae nhw'n amddiffyn Palin yn erbyn yr un ymosodiad.

Dw i dal heb benderfynu os ydi hwn yn gam athrylith ar ran McCain ta'n un uffernol o dwp. Dw i'n dechrau symud tuag at y diwethaf. Os dim arall mae'n dangos bod cael ei ethol yn y lle cyntaf yn fwy pwysig iddo na dyfodol y wlad. Petai fo, sy'n ddyn 72 oed gyda cansr, yn marw fe fyddai person sydd wedi bod yn rhedeg talaith gyda poblogaeth hanner maint Morgannwg am ddwy flynedd yn arlywydd, a hynny ynghanol rhyfel yn Irac, rhyfel oer posib gyda Rwsia a dirwasgiad economaidd.

Os dewis merch i fynd ar ol pledleiswyr Hillary pam ddim dewis un sydd gyda lot mwy o brofiad, a sydd o leia yn rhannu'r un farn a nhw ar ambell i fater? Tydi nhw'm yn brin yn y blaid weriniaethol. Ychydig iawn sy'n pledleisio ar sail y dewis VP ond mae cymryd y fath gambl yn codi cwestiynnau mawr am McCain.

Ro'n i'n reit ambivalent tuag at yr etholiad yma cynt, ond rwan dw i'n dechrau poeni!

Re: Etholiad America 2008

PostioPostiwyd: Iau 04 Medi 2008 9:22 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Delwedd