Druan o Britney

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Druan o Britney

Postiogan Meiji Tomimoto » Gwe 01 Chw 2008 7:21 am

Dim joc gachu 'di hyn chwaith. S'gwn i faint o bobol sy'n cael eu "sectionio" dan y ddeddf iechyd meddwl yng Nghymru bob dydd - ia, bob dydd - dwi'n siwr bod o'n eitha lot.
Y peth trist am Britney ydi bod ni 'di cael footage dyddiol o'i salwch hi'n datblygu.
Ella bod hyn yn naive ohona i, ond dwi'n siwr a hithau o'r wlad lle ti'n gallu prynu bob dim na fasa hi 'di gallu cael help yn gynt.
Faswn i'm yn synnu na fasa'r pres gafodd ei neud o'r holl lyniau a dynnwyd o'i salwch hi yn datblygu yn rwbath tebyg i budget misol os nad chwarterol un o unedau iechyd meddwl ni yn Nghymru.
Rhyfedd o fyd.
(o'n i'n meddwl bod Hit me baby one more time yn glasur 'fyd)
Mae'n salwch od.
Fydda neb isio gweld llynia dyddiol os mai osteoparosis neu diabetes 'sa ganddi.

Os 'da chi byth isho neud wbath da rwbryd, un syniad da fasa hel unrhyw nofelau 'da chi 'di darfod efo, neu unrhyw "board games" sy'n hel llwch yn ty, a mynd a nhw i derbynfa eich ysbytu gyffredinol lleol, neu doswch nhw'n syth i'r uned iechyd meddwl os 'da chi'n gwbod lle mae o.
Os 'da chi fyth yn nabod rhywyn sy' 'di gorfod mynd fewn am help, peidiwch bod ofn mynd yno. Gewch chi banad, a croeso gan staff rili da.

Mae 'na ogla stigma drwg yn codi o'r negas yma.
O.K, nai list - technegwyr,athrawon,darlithwyr,peilotiaid awyren,llenyddion, aelodau seneddol, gweithwyr cymdeithasol, seiolegwyr, mwyngloddwyr, peldroedwyr, arwyr cerddorol, barddonwyr, sgaffaldwyr.
'na'r rhai dwi'n gwbod am sy' 'di angen help.
Tawn i'n smecs Alec! Y Meicroffilm!
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Re: Druan o Britney

Postiogan Positif80 » Gwe 01 Chw 2008 2:57 pm

Dw i'n cydymdeimlo hefo hi i ryw raddau, ond eto mae Britney a'r pobl sydd yn gweithio iddi wedi achosi lot o'i thrafferthion yn y lle cyntaf. Fedrwch chi ddim cwyno am y sylw mae'r paparazzi yn rhoi i chi, a'r munud nesaf adael iddyn nhw wybod lle fyddywch chi er mwyn iddyn nhw cael snaps i'r cylchgronnau.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico


Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai