Dim joc gachu 'di hyn chwaith. S'gwn i faint o bobol sy'n cael eu "sectionio" dan y ddeddf iechyd meddwl yng Nghymru bob dydd - ia, bob dydd - dwi'n siwr bod o'n eitha lot.
Y peth trist am Britney ydi bod ni 'di cael footage dyddiol o'i salwch hi'n datblygu.
Ella bod hyn yn naive ohona i, ond dwi'n siwr a hithau o'r wlad lle ti'n gallu prynu bob dim na fasa hi 'di gallu cael help yn gynt.
Faswn i'm yn synnu na fasa'r pres gafodd ei neud o'r holl lyniau a dynnwyd o'i salwch hi yn datblygu yn rwbath tebyg i budget misol os nad chwarterol un o unedau iechyd meddwl ni yn Nghymru.
Rhyfedd o fyd.
(o'n i'n meddwl bod Hit me baby one more time yn glasur 'fyd)
Mae'n salwch od.
Fydda neb isio gweld llynia dyddiol os mai osteoparosis neu diabetes 'sa ganddi.
Os 'da chi byth isho neud wbath da rwbryd, un syniad da fasa hel unrhyw nofelau 'da chi 'di darfod efo, neu unrhyw "board games" sy'n hel llwch yn ty, a mynd a nhw i derbynfa eich ysbytu gyffredinol lleol, neu doswch nhw'n syth i'r uned iechyd meddwl os 'da chi'n gwbod lle mae o.
Os 'da chi fyth yn nabod rhywyn sy' 'di gorfod mynd fewn am help, peidiwch bod ofn mynd yno. Gewch chi banad, a croeso gan staff rili da.
Mae 'na ogla stigma drwg yn codi o'r negas yma.
O.K, nai list - technegwyr,athrawon,darlithwyr,peilotiaid awyren,llenyddion, aelodau seneddol, gweithwyr cymdeithasol, seiolegwyr, mwyngloddwyr, peldroedwyr, arwyr cerddorol, barddonwyr, sgaffaldwyr.
'na'r rhai dwi'n gwbod am sy' 'di angen help.