Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Nanog » Mer 20 Chw 2008 7:14 pm

Roeddwn i'n meddwl fel 'na a dweud y gwir......ond yn ol y BBC a'r UE.....annibyniaeth i Kosovo yw'r peth cywir i ddigwydd. :?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan bartiddu » Mer 20 Chw 2008 7:18 pm

Cytuno 100 y 100 gyda dy farn Prysor, roedd y pethau hyn 'wyt wedi son amdano yn mynd trw'r hen feddwl pan glywes i'r hanes ar y newyddion, dwi'n cyfaddef mae 'na gymlethdodau am yr holl sefyllfa dwi ddim yn ymwybodol ohonynt, ond ma' gwlad eu hunain gyda'r Albaniaid yn barod ac ar hyn o bryd fel dwi'n gweld hi, ma'n cydymdeimladau i gyda'r Serbiaid sy' wedi colli rhan o'u mamwlad. :?
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Nanog » Mer 20 Chw 2008 7:31 pm

Efalle fod hwn rhywbeth i wneud gyda'r sefyllfa?

http://www.newkosovareport.com/20080110 ... bania.html
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Prysor » Mer 20 Chw 2008 10:16 pm

Nanog a ddywedodd:Efalle fod hwn rhywbeth i wneud gyda'r sefyllfa?

http://www.newkosovareport.com/20080110 ... bania.html


Bingo!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Y Crochenydd » Iau 21 Chw 2008 11:27 am

Prysor a ddywedodd:Dwi'n meddwl ei fod o'n warthus fod pobl yn gallu symud i mewn i ran o wlad arall, cynyddu i fwyafrif, yna datgan annibyniaeth.


Ond mae'r Kosovars wedi bod yn yr ardal yma ers canoedd o flynyddoedd a'i cyndeidiaid, yr Illyriaid, ers miloedd. Roedd yr ardal yma o Ewrop yn rhan o'r Ymerodraith Ottoman tan ddechrau'r 20fed ganrif; fe gipiwyd eu tir gan Serbia ym 1913 ac fe ddaeth yn ranbarth o Iwgoslafia ar ddiwedd yr ail ryfel byd.

Mae ceisio cymharu Kosova/Serbia gyda Cymru/Lloegr/Prydain/Iwerddon yn hawdd ac yn gyfleus (dwi wedi gwneud fy hun sawl gwaith) ond yn anghywir. Mae hanes y Balkans a hanes mwy diweddar difa yr hen Iwgoslafia (gwlad a greuwyd er cyfleuster politicaidd) yn llawer rhy gymhleth a gwaedlyd i dynnu unhryw debygrwydd call. Mae ceisio cymharu mewnfudwyr Seisnig Pen Llyn gyda brodorion 'Mwslem Albaniaidd' Kosova, a phob parch Prysor, yn hurt. Ers pryd rydym ni'r Cymry wedi bod yn erlid ein mewnfudwyr gyda mwrdwr, treisio a hawliau sifil israddol? Pryd oedd y tro diwethaf i ni'r Cymry ceisio dileu yr iaith Saesneg o unhryw fywyd sifil? A wnaethom ni erioed tawelu eu gorsafoedd radio a theledu? Gwahardd eu papurau newydd? Cau eu hysgolion a'u phrifysgolion? Hmmm, os rywbeth, mae'r Kosovars yn debycach i ni'r Cymry Cymraeg. Ond af i ddim i lawr y lon yna.

Ers degawdau mae Kosova wedi cael bargen ofnadwy gan Iwgoslafia a Serbia. Dyma un o ardaloedd tlotaf Ewrop, wedi'i esgeuluso am genedlaethau; ond mae'r bobol yn rhyfeddol o bositif a phendant ynglyn a'u dyfodol. Yn wir, dyma un o'r boblogaethau mwyaf clen a chroesawgar i mi ymweld a nhw erioed. mae ganddynt wreiddiau dwfn yn yr ardal, oes, ond maent yn edrych i'r dyfodol gyda gobaith a hyder.
Y Crochenydd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 195
Ymunwyd: Sad 12 Tach 2005 6:44 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan S.W. » Iau 21 Chw 2008 12:18 pm

Dwi'n credu na cam yn y broses o uno a Albania ydy hyn. O weld yr holl baneri oedd yn cael eu chwifio o amgylch y dalaith/wlad ddydd Sul yn y dathliadau dyna ble maent yn gweld eu dyfodol. Yn hynny o beth efallai gellir ei gymharu a Gogledd Iwerddon.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Prysor » Iau 21 Chw 2008 12:40 pm

Ia, ffer inyff, Crochenydd. Ond dwi wedi cydnabod y pwynt fod yr erledigaeth mae nhw wedi ei ddioddef yn achos i ddadlau fod ganddynt fandad moesol i dorri'n rhydd. Mae fy nghymhariaeth efo Saeson Pen Llŷn yn gadael hynny allan o'r equation, wrth wneud pwynt uniongyrchol gwahanol - sef mai rhan o famwlad y Serbiaid ers canrifoedd, ydi Kosovo, a mai mewnfudwyr Albanaidd yno yw'r Kosofiaid... a bod agenda wahanol a hypocritiaeth tu ôl i sêl bendith y llywodraethau hynny sy'n rhoi sêl bendith i'r datblygiad yma.

Os oedd yr Albaniaid yng Nghosofo gyntaf o gwbl, mae hynny'n gorfod bod dros fil o flynyddoedd yn ôl. Sydd yn gyfystyr a Chymru annibynol yn gwladychu Swydd Henffordd, Caerloyw, Caer a Shropshire ac yn datgan annibyniaeth i'r ardal ar y sail mai Cymraeg oedd yr ardal yn y mileniwm cyntaf ôl Crist. Fyddai hynny ddim yn cael ei dderbyn gan unrhyw lywodraeth, heb son am Loegr.

Tydi faint mor hawddgar yw'r bobl ddim yn gymhwyster i anwybyddu cyfraith rhyngwladol. Dwinna wedi bod i Serbia (dim ond i Belgrad, rhaid cydnabod), ac wedi cael y Serbiaid yn bobl hawddgar, dygn, sydd wedi cael bum deal gan ormeswyr ers canrifoedd (mae craters y cruise missiles yn dal yn yr adeiladau, a mae'r ddinas wedi ei chwalu i'r llawr ugeiniau o weithiau, ac wedi ei hail-godi). Y Serbiaid oedd y last line of defence yn erbyn yr Ymerodraeth Ottoman a'r Natsiaid. Mae nhw wedi aberthu a dioddef cymaint dros y canrifoedd, dim ond i gael eu sathru gan y Gorllewin.

Oes, mae na feddylfryd caled a macho yn y gwledydd Slafaidd, a mae'r Serbiaid - fel y gweddill - yn credu mewn llygad-am-lygad. Pwy all eu beio, wedi canrifoedd o gwffio dros eu goroesiad? Lleiafrif bach iawn sy'n cefnogi ethnic cleansing, ond o ran y ffieidd-dra oedd yn digwydd yn rhyfel y Balkans (dan law bwystfilod Milosevic, nid ar ran y genedl Serbaidd, mewn gwirionedd), eu safbwynt yw mai'r Croatiaid (ffrindiau'r gorllewin, a'r Natsiaid gynt, gyda llaw) ddechreuodd eu lladd nhw.

Athroniaeth dywyll, a dychrynllyd o symlistic. Ond tria di resymu am foeseg hynny, eu hateb yw, "tro'r foch arall yn y Balkans, a gei di dy ladd, geith dy deulu eu lladd, a geith dy bentref ei losgi". Mae'n anodd i ni Orllewinwyr amgyffred y peth, ond mae'n anoddach fyth i ddadlau yn erbyn eu pwynt yn wyneb y fath realiti.

Ond yn ôl at Kosofo. Efallai fod lle i ddadlau, fel dwedais, fod y gormes yn gymhwyster dros y Kosofiaid i dorri'n rhydd. Ond tydio ddim yn gyfreithlon, a dio'n newid dim ar y ffaith fod hyn yn cael ei ganiatau gan y Gorllewin oherwydd agenda amgen, gwrth-Serbaidd. A dio'n newid dim ar y ffaith - a'r pwynt dwi'n danlinellu - mai rhan o Serbia yw Kosofo. A rhan canolog yn eu hunaniaeth hefyd (fel Eryri i'r Cymry, a'r Black Hills i'r Sioux).

Mae Milosevic wedi mynd. Mae Serbia - tra'n dal yn driw i'w threftadaeth - wedi gollwng gafael ar wladwriaeth Tito, ac wedi gollwng gafael ar diroedd y cenhedloedd Balkanaidd eraill oedd yn rhan o'r wladwriaeth honno. Mae gadael i Kosofo fynd yn gam rhy bell - yn rhwbio trwynau'r Serbiaid yn y baw.

Mae o hefyd yn gam peryglus o ran sefydlogrwydd Ewrop. Sbiwch be ddigwyddodd yn yr Almaen rhwng y ddau Ryfel Byd. Cadwa wlad yn y baw yn rhy hir, ac un dydd fe godith rhywbeth budr ei ben a dechrau brathu pawb a phopeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Gwenci Ddrwg » Mer 27 Chw 2008 1:18 am

Wel am y newyddion yn gyffredinol, ym marn rhai Canadiaid problem enfawr ydy hwn a dwi'n cytuno am eu bwynt nhw, mae gynnon ni benderfyniaeth bellach rhwng cefnogi Serbia (risg ofnadwy i ein cysylltau 'da phoblogaethau Serbaidd yn ninasoedd fawr yn ogystal â ein perthynas 'da Ewrop a'r UDA) a chefnogi Kosovo (sy'n risgio creu problemau erchyll os ydy pobl Québec eisiau gwneud yr un beth yn y dyfodol). Yn bersonol does gen i ddim ond un casgliad, mae angen i ni osgoi cydnabod Kosovo. Ar y funud mae'r rhan fwyaf o Gebec (myw 'na erioed ers 1980/1990) yn erbyn annibyniaeth. Sut bynnag gan cydnabod Kosovo mae'r gwlad yn risgio rhoi tân i'r Séparatistes, sy'n dal y farn bod Québéc wedi cael ei gormesu'n mor drwg 'na unrhyw "gwlad" arall yn y byd ( :rolio: :lol: ) a sydd ddim yn gallu credu nad oes gynnon nhw cefnogaeth y dalaith hollol (fel yn achos Kosovo lle mae'r rhan fwyaf yn cefnogi'r newid, o leiaf dwi'n credu ar ôl be darllenes i heddiw). Sefyllfa enbydus iawn, ond fel dywedes i, mae'r ddewis yn hollol amlwg. :|
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Prysor » Mer 27 Chw 2008 10:20 am

Be ffwc sydd gan Quebec i neud efo fo? Mae gan bobl Quebec hawl moesol a hanesyddol i annibyniaeth oddiwrth Canada, dio'm bwys faint o :rolio: 's nawddoglyd mae Unoliaethwyr Canadaidd yn roi yn eu negeseuon propagandllyd ar fforymau gwê y byd Angloffôn.

A cyn bellad ac y byddai Quebec sofran yn rhoi awtonomi cyfansoddiadol i'r Inuit a'r First Nations eraill, byddai'n cael fy nghefnogaeth llawn i a rhan fwyaf o bobl Cymru a chenhedloedd bychain eraill.

Fedra i ddim deall pobl sy'n dysgu Cymraeg, ond yn methu dysgu a deall unrhywbeth am feddylfryd a hunaniaeth lleiafrifoedd di-wladwriaeth. Rydan ni'n dal ein gafael yn ein ieithoedd oherwydd ein bod eisiau cadw'n hunaniaeth, er mwyn cael ein cydnabod fel rhan o deulu dyn. Ond mae 'na bobl yn dysgu ein iaith, ac yn ei defnyddio hi i sarhau cenhedloedd bychain eraill sy'n ceisio hynny...!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan S.W. » Mer 27 Chw 2008 12:03 pm

I fod yn onest byddwn i'n fwy debygol o gefnogi annibyniaeth i Kosovo nag i'r Quebecois. I fi, gwlad ffug ydy Canada, a talaith ffug ydy Quebec. Mewnfudwyr yn sgil dyheadau imperialaeth Prydain a Ffrainc ydy'r ddwy. Os am gefnogi Quebecois yn eu hymgyrch am annibyniaeth byddai'n well gen i rhoi fy nghefnogaeth i Albanwyr Nova Scotia yn gynta sydd dim gwahanol i'r Quebecois ond aeth yno ar y cyfan yn sgil polisiau Prydain gyda'r Highland Clearances. Cytuno a thi ynglyn a'r angen i awtonomi neu o leiaf statws arbennig a lot mwy o amddiffyniad iw diwyllianau a ieithoedd arbennig.

Dwi erioed di bod i Serbia, ond wedi bod i Bosnia a Chroatia. Fel ti'n dweud, pobl neis ydynt er i pob ochr yn y rhyfeloedd diweddar gyflawni erchyllderau yn erbyn eu gilydd. Mae'r un yn wir mwn gwirionedd os ei di i Ogledd Iwerddon, llawer nes at adre. Dwi'n credu bod angen i Serbia gael mwy o chwarae teg o fewn y gymuned ryngwladol ac ers diwedd Milosovic mae camau mawr wedi eu cymryd. Mae'r Serbiaid wedi ei gwneud hi'n glir eu bod am fod yn wlad ddemocrataidd ac am symud ymlaen o'u gorffenol. Serch hynny, fel yn Rwsia mae problem yno gyda pobl yn dyheu am y gorffenol - Serbia bwerus yn domiwneiddio'r gwleidyddiaeth y Balcannau ac ati, hefyd grwpiau o'r dde eithafol.

Tra bod Kosovo yn ran o Serbia (yn groes i ddyheadau mwyafrif y dalaith) dwi ddim yn meddwl bod modd i Serbia na'r Serbiaid fynd ati i ddatblygu fel gwladwriaeth newydd yn 2008. Dyna di'r gwahaniaeth rhwng Kosovo ac Albania a Chymru a rhannau o Loegr megis Sir Amwythig a Henffordd. Petai mwyafrif yr ardaloedd hyn am fynd yn nol i'w gwreiddiau Cymreig yna pwy byddwn ni i gwyno? Yn eitha tebyg ydy'r newyddion bu'n ddiweddar bod mwyafrif Berwick am ddychwelyd i fod yn ran o'r Alban.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron