Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Newyddion o'r byd mawr drwg

Cymedrolwr: Chwadan

Rheolau’r seiat
Newyddion o'r byd mawr drwg. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Prysor » Mer 27 Chw 2008 2:03 pm

I fod yn hollol sweeping a chyffredinol am funud, os ydi Kosoviaid isio gwared eu dinasyddiaeth Serbaidd, yna mynd yn ôl i Albania ddylan nhw neud, nid gwladychu rhan o wlad rhywun arall a'i alw fo'n wlad iddyn nhw. Cofiwch, dwi'n dal i siarad am egwyddor y peth, nid o ran yr harsh reality o hanes Serbia ac erledigaeth y Kosofiaid dan Milosevic. Gellir dweud fod Serbia wedi fforfeitio'i hawl i reoli Kosofo drwy gamndrin a chamreoli yno (a mae honno'n ddadl gref), ond dio'n newid dim ar y pwynt mai rhan o Serbia ydi'r tir, a dio'n newid dim ar y pwynt am hypocritiaeth a Serb-bashing y gorllewin.

O ran y Quebecois, os oedd y Ffrancwyr yno cyn y Brits, yna mae ganddynt hawl i annibyniaeth o'r Ganada Brydeinig a ddatblygodd wedi cwymp grym Ffrainc yno. Ond, mae'r pwynt yma yn codi'r cwestiwn eto - faint o bell yn ol rhaid mynd wrth gyfiawnhau - neu ddim - hawl pobl sy'n perthyn i ardal ddaearyddol ddiwylliannol i hunanlywodraeth. Wrth gefnogi'r achos hwn, peidio cefnogi'r achos hacw, rydan ni i gyd yn croes-ddweud ein hunain, rhywle ar y ffordd.

Wrth edrych ar Ganada yn y cyd-destun imperialaidd, wel, ffwcio'r Canadians a'r Quebecois a rhowch bopeth yn ôl i'r brodorion. Ond wrth edrych arno yn y cyd-destun gwladwriaethau ol-ymerodraethol mae fy nghydymdeimlad yn sicr efo'r Quebecois.

Mae fel sefyllfa'r Orange Free State a'r Trasvaal pan oeddynt dan ymosodiad gan yr Ymerodraeth Brydeinig. Gwn lle mae fy nghydymdeimladau i o ran hynny. Ond o ran bodolaeth y gweriniaethau yma yn y wlad yn y lle cyntaf, mae fy nheyrngarwch efo'r brodorion croenddu.

Mi oeddwn yn gyfarwydd a'r conyndrym rhyddfrydol hwn o'r blaen. Cofio cael fy nghornelu mewn dadl efo darlithydd rhyddfrydol gwleidyddiaeth yng Ngholeg Harlech esdalwm. Trafod traethawd sgwennis i, oeddan ni, a chwe sir gogledd Iwerddon oedd y pwnc llosg oedd yn milwrio yn erbyn fy naliadau (yr oeddwn tan hynny, yn credu eu bod yn ryddfrydol i'r eithaf). Roeddwn wedi mynd ymlaen ac ymlaen yn erbyn imperialaeth, a thros ddemocratiaeth a chenedlaetholdeb rhyddfrydol, ond mi bwyntiodd Dave Sullivan (y darlithydd) allan (fel 'devil's advocate'), os felly, onid oedd gan brotestaniaid y dalaith (Ulster) hawl moesol a democrataidd i'w safiad, gan eu bod yn y mwyafrif, yn grwp diwylliannol a chrefyddol arwahan ac - a dyma'r pwynt pwysig - yn byw yno ers cannoedd o flynyddoedd. Dim bwys faint o ddadleuon o safbwynt rhyddfrydol oeddwn yn dyrchu i fyny, doedd dim dianc rhag y pwynt yma o gwbl, heb gydnabod nad oedd fy nadl yn un gwbl rhyddfrydol, felly, ond yn hytrach yn un genedlaetholgar (er rhyddfrydol-ish).

Mae Kosofo - a Quebec - yn feysydd cymleth sydd yn llawn o drapiau eidiolegol tebyg! Felly gwell imi wneud tactical retreat o'r ddadl 'ma! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan S.W. » Mer 27 Chw 2008 2:50 pm

Cytuno a thi ei fod y faes hynod hynod cymhleth sy'n llawn 'loop holes' anodd dros ben.

O ran dy sylw (a dwi'n dallt dy fod yn cydnabod dy fod cyffredinoli) y dylsai Kosovo fynd yn nol i Albania os nad ydynt am fod yn ran o Serbia ond onli ellir troi hynny at ddadl Canada a'r Quebecois hefyd? Mae gan Ffrainc dal i fod trefedigaeth oddi ar arfordir Nova Scotia sef St Pierre et Miquelon. Oni ddylsant nhw fynd i fano i fyw felly nad oes angen byw yn Canada fel y mae hi rwan?

Gan bod Canada (fel yr UDA, Awstralia a gweddill trefedigaethau 'gwyn' yr Ymerodraeth Brydeinig) wedi ei ffurfio o fewnfudo o bobl o wahanol rannau o'r byd - Albanwyr, Sbaenwyr, Groegwyr, Gwyddelod, Saeson, Eidalwyr ayyb) dwi methu lan a gweld pam bod y Quebecois yn fwy sbesial na'r gweddill. Yr unig wahaniaeth yw bod Ffrainc fel Prydain wedi arwain yn nhermau coloneddio'r byd (gan chwalu diwyllianau cyntefig). Dwi yn credu ar adegau bod pobl yn cefnogi'r Quebecois gan eu bod yn gweld y cysylltiadau rhwng Canada a nerth a gormes Prydeinllyd gan olygu bod Canada yn 'defaco' ddrwg tra bod y Quebecois yn 'defacto' dda. Tra mewn gwirionedd does yr un yn fwy na nag drwg a'u gilydd.

O ran Kosovo, dwi'n amau os oedd Albania, erioed wedi dyheu am chael ei threfediaethau ei hun. Mae Albaniaid Kosovo yno oherwydd eu bod wedi byw yno am o leiaf canrifoedd fel rwyt yn cydnabod. Kosovo yw eu cartref. Mae son mae cam ar y trywydd o fod yn ran o Albania yw hyn. Rhywbeth y byddaf yn llai debygol o'i dderbyn rhai cyfaddef. Gall goblygiadau hyn fod yn anodd i ardaloedd o Macdeonia hefyd sydd a phoblogaeth sylweddol o Albaniaid yn byw yno.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Gwenci Ddrwg » Gwe 07 Maw 2008 10:35 pm

Mae gan bobl Quebec hawl moesol a hanesyddol i annibyniaeth oddiwrth Canada, dio'm bwys faint o :rolio: 's nawddoglyd mae Unoliaethwyr Canadaidd yn roi yn eu negeseuon propagandllyd ar fforymau gwê y byd Angloffôn.

A be ti'n gwybod amdani? Hawl moesol? Mae nhw wedi cael triniaeth ardderchog a chefnogaeth at eu iaith nhw a maen nhw'n rheoli'r gwlad hollol (mwy o prif weinidogion nag unrhyw talaith arall, pob etholiad = Québec Québec Québec ayyb). Mae Saesneg yn cael ei gwahardd ar arwyddion bwyty. Mae pawb yng Nghanada angen ddysgu Ffrangeg yn ysgol. hyd yn oed ym BC (!). Maen nhw'n gwybod hwn a dymar' rheswm pam mae'r Parti Québecois wedi colli llawer o'i nerth yn ddiweddar, does dim angen iddynt fod yn annibynnol oherwydd bod nhw'n gwneud yn dda iawn fel rhan o Ganada. Hawl hanesyddol? Mae nhw wedi bod yn rhan o Ganada ers...dechrau Canada yn 1867. Ma gynnon nhw gyswllt enfawr i gynnydd, gwleidyddiaeth a diwylliant Canada, yn ystod ganrifoedd.

Dwi ceisio dweud, yn sylfaenol, bod Cymru a gwledydd Ewropeaidd arall (fel Llydaw, Provence ac ati) wedi cael eu gormesu yn lawer waith 'na Québec. Mae'r sefyllfa'n wahanol yn y fan hyn, a gan ddeud eu bod nhw di cael eu gormesu yn mor drwg 'na nhw, mae'r seps yn "downplay" problemau gwaith Cymru, Llydaw a Chernyw (er enghraifft), mewn ffordd. Mae hynny'n fy nghythruddo weithiau. Os wyt ti am wrando ar bopeth mae'r séperatistes yn deud am ei sefyllfa (sy'n amlwg) jest oherwydd mae nhw'n hawlio eu bod nhw yn yr un categori 'na Chymru/Yr Alban/Llydaw (ac ati), ti ddim yn gallu siarad am "propaganda" o gwbwl. Dwi'n deall bod Québec yn gwahanol ar llawer lefelau a dwi'm yn gwadu y ffaith 'ma (dwi wedi bod yno llawer o adegau), jest does gynnon nhw ddim rheswm i adael Canada, dim fel rhesymau Cymru i adael Lloegr. Dydy nhw ddim fel chi. :?

Os am gefnogi Quebecois yn eu hymgyrch am annibyniaeth byddai'n well gen i rhoi fy nghefnogaeth i Albanwyr Nova Scotia yn gynta sydd dim gwahanol i'r Quebecois ond aeth yno ar y cyfan yn sgil polisiau Prydain gyda'r Highland Clearances.

Wel dwi'n cytuno ar rhai lefelau. Os oes gan Québec rhesymau i annibyniaeth, mae gan pob talaith arall rhesymau hefyd. Di nhw ddim yn arbennig o gwbwl, mae 'na hyd yn oed siaradwyr Ffrangeg yn Ontario, Brunswick Newydd ac Alberta (a chofiwch bod 'na rhai siaradwyr Saesneg yng Nghébec ei-hun) ac wrth gwrs bobl arall fel yr Inuit ac yr Albaniaid newydd. Gwlad ffug ydy Canada, ti'n iawn, ond ambell waith ma rhaid i bobl gyfuno dan un baner i rhesymau ariannol a diogelwch. Dyna be sy'n digwydd.
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Prysor » Gwe 07 Maw 2008 10:59 pm

Gwenci Drwg a ddywedodd:A be ffwc ti'n gwybod amdani?


lot mwy na ti'n ffycin feddwl, coelia di fi

Gwenci Drwg a ddywedodd:Hawl moesol? Mae nhw wedi cael triniaeth ardderchog a chefnogaeth at eu iaith nhw a maen nhw'n rheoli'r gwlad hollol (mwy o prif weinidogion nag unrhyw talaith arall, pob etholiad = Québec Québec Québec ayyb). Mae Saesneg yn cael ei gwahardd ar arwyddion bwyty. Mae pawb yng Nghanada angen ddysgu Ffrangeg yn ysgol. hyd yn oed ym BC (!).


Gret! Chwarae teg iddyn nhw. Annibyniaeth ar ei ben o fydd yn gneud y job jesd neis. Lyfli jybli. Allez!

Gwenci Drwg a ddywedodd:Hawl hanesyddol? Mae nhw wedi bod yn rhan o Ganada ers...dechrau Canada yn 1867. Ma gynnon nhw gyswllt enfawr i gynnydd, gwleidyddiaeth a diwylliant Canada, yn ystod ganrifoedd. Os wyt ti am wrando ar bopeth mae'r séperatistes yn deud am ei sefyllfa (sy'n amlwg) jest oherwydd mae nhw'n hawlio eu bod nhw yn yr un categori 'na Chymru/Yr Alban/Llydaw (ac ati), ti ddim yn gallu siarad am "propaganda" o gwbwl, wedi'r gwbwl dydy hyd yn oed 28% o Québecois yn gwrando arnon nhw yn y lle cyntaf.


No shit Sherlock? Deud wrtha i rwbath newydd.

x x x
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Gwenci Ddrwg » Sad 08 Maw 2008 3:42 am

Atebion aruthrol, ysgrifenedig yn dda, ti wedi fy argyhoeddi 'da dy fodd deheuig. :D

lot mwy na ti'n ffycin feddwl, coelia di fi

Cwestiwn: Faint o Québecois wyt ti'n meddwl? Faint o adegau wyt ti wedi bod yng Nghebec? Faint o Ffrangeg wyt ti'n siarad? Wyt ti'n byw yng Nghanada ers cymaint o amser? "lot mwy na ti'n fyccin feddwl" -> ateb trwsiadus monsieur, ond vachement ambigüe.

OOO
Rhybudd: Dysgwr hurt.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwenci Ddrwg
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 354
Ymunwyd: Mer 12 Medi 2007 5:13 pm
Lleoliad: Toronto

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Prysor » Sad 08 Maw 2008 7:46 am

ti'm di clywad am lyfra? yr hen betha bach na sy'n llawn geiria?

dim fod o'n bwysig, ond mae fy nhad yng nghyfraith yn byw yn Canada ers blynyddoedd, a teulu arall i fy ngwraig, a dwy gyfnither fy mam a'u plant i gyd - mae rhai yn Montreal a rhai yn Roberval - ac mi gafodd fy ffrind gorau hefyd ei fagu yn Nghuebec, lle bu'i dad yn weithgar yn wleidyddol yn y 50'au a 60'au cynnar...

dwi'n dallt y ddwy ddadl (ond bo fi'n ochri efo'r Quebecois, a dyna yw dy broblem), ond hyd yn hyn, dwi ond wedi cael y ddadl unoliaethol swyddogol gen ti...

felly tyrd, hitia ni efo dy wybodaeth cynhwysfawr cynhenid...
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan S.W. » Sad 08 Maw 2008 9:32 am

Prysor, mae'n debyg fod mwyafrif y boblogaeth frodorol yng Nghwebec - y 'netif Americyns' ddim am weld Quebec yn tori i ffwrdd o weddill Canada. Felly i fynd yn nol at dy sylw bod y Serbiaid yng Nghosofo cyn yr Albaniaid a pha hawl dylsai gan grwp sydd wedi mewnfudo yno (yr Albaniaid) i fynnu bod ffiniau'r ardal hynny'n newid, be ydy'r gwahaniaeth rhwng brodorion Quebec a brodorion Kosovo o ran y ffaith bod hi'n iawn i un newid ond ddim i'r llall?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Prysor » Llun 10 Maw 2008 11:42 am

Pwynt dilys iawn, S.W.

Ond dwi'n teimlo mod i wedi cydnabod y 'croes-ddweud' yma eisoes, wrth drafod efo ti, uchod, mewn cyd-destun gwahanol i'r un yma (ymateb yn benodol i'r cyhuddiad nad wyf yn gwybod dim am Quebec drwy drio dweud fy mod yn gwybod "mwy" (sef rhywfaint) na mae'r Gwenci'n ei honni (sef dim).
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan Chickenfoot » Llun 10 Maw 2008 7:42 pm

S.W. a ddywedodd:Prysor, mae'n debyg fod mwyafrif y boblogaeth frodorol yng Nghwebec - y 'netif Americyns' ddim am weld Quebec yn tori i ffwrdd o weddill Canada.


Mae'r term "Native Americans" yn un mor redundant ac "American Indian" rwan. Mae'r Amercianaid sydd wedi geni yno'n native, 'swn i'n feddwl. Dw i'n gwybod hynna oddiar pwynt y trafodaeth, ond mae'r labeli mae pobl yn defnyddio i ddisgrifio eraill yn ddiddorol i mi.
Ra Ra Rasputin loved to play the slot machines! - Boney M
Rhithffurf defnyddiwr
Chickenfoot
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 754
Ymunwyd: Gwe 22 Chw 2008 5:38 am
Lleoliad: Morffer Buck-un

Re: Gwarchodlu Cymreig am fynd i Kosovo

Postiogan S.W. » Maw 11 Maw 2008 10:54 am

Chickenfoot a ddywedodd:
S.W. a ddywedodd:Prysor, mae'n debyg fod mwyafrif y boblogaeth frodorol yng Nghwebec - y 'netif Americyns' ddim am weld Quebec yn tori i ffwrdd o weddill Canada.


Mae'r term "Native Americans" yn un mor redundant ac "American Indian" rwan. Mae'r Amercianaid sydd wedi geni yno'n native, 'swn i'n feddwl. Dw i'n gwybod hynna oddiar pwynt y trafodaeth, ond mae'r labeli mae pobl yn defnyddio i ddisgrifio eraill yn ddiddorol i mi.


Dio'm yn redundant o gwbl Mae 'Red Indian' yn redundant, ond os ei di i America neu Ganada weli di bod mwy a mwy o bwyslaid yn cael ei rhoi bellach ar sicrhau bodolaeth 'Indian Settlements' yn y ddwy wlad, yn enwedig yng Nghanada ble mae'r llywodraeth ffederal bellach yn talu rhywfath o 'ground rent' i'r llwythi brodorol ar gyfer bod yno, rhywfath o iawndal ydy o am wn i. Os rhywbeth mae'n llai redundant nag ydy o ers sefydlu Canada a'r Unol Daleithiau.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion y Byd

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai