I fod yn hollol sweeping a chyffredinol am funud, os ydi Kosoviaid isio gwared eu dinasyddiaeth Serbaidd, yna mynd yn ôl i Albania ddylan nhw neud, nid gwladychu rhan o wlad rhywun arall a'i alw fo'n wlad iddyn nhw. Cofiwch, dwi'n dal i siarad am egwyddor y peth, nid o ran yr harsh reality o hanes Serbia ac erledigaeth y Kosofiaid dan Milosevic. Gellir dweud fod Serbia wedi fforfeitio'i hawl i reoli Kosofo drwy gamndrin a chamreoli yno (a mae honno'n ddadl gref), ond dio'n newid dim ar y pwynt mai rhan o Serbia ydi'r tir, a dio'n newid dim ar y pwynt am hypocritiaeth a Serb-bashing y gorllewin.
O ran y Quebecois, os oedd y Ffrancwyr yno cyn y Brits, yna mae ganddynt hawl i annibyniaeth o'r Ganada Brydeinig a ddatblygodd wedi cwymp grym Ffrainc yno. Ond, mae'r pwynt yma yn codi'r cwestiwn eto - faint o bell yn ol rhaid mynd wrth gyfiawnhau - neu ddim - hawl pobl sy'n perthyn i ardal ddaearyddol ddiwylliannol i hunanlywodraeth. Wrth gefnogi'r achos hwn, peidio cefnogi'r achos hacw, rydan ni i gyd yn croes-ddweud ein hunain, rhywle ar y ffordd.
Wrth edrych ar Ganada yn y cyd-destun imperialaidd, wel, ffwcio'r Canadians a'r Quebecois a rhowch bopeth yn ôl i'r brodorion. Ond wrth edrych arno yn y cyd-destun gwladwriaethau ol-ymerodraethol mae fy nghydymdeimlad yn sicr efo'r Quebecois.
Mae fel sefyllfa'r Orange Free State a'r Trasvaal pan oeddynt dan ymosodiad gan yr Ymerodraeth Brydeinig. Gwn lle mae fy nghydymdeimladau i o ran hynny. Ond o ran bodolaeth y gweriniaethau yma yn y wlad yn y lle cyntaf, mae fy nheyrngarwch efo'r brodorion croenddu.
Mi oeddwn yn gyfarwydd a'r conyndrym rhyddfrydol hwn o'r blaen. Cofio cael fy nghornelu mewn dadl efo darlithydd rhyddfrydol gwleidyddiaeth yng Ngholeg Harlech esdalwm. Trafod traethawd sgwennis i, oeddan ni, a chwe sir gogledd Iwerddon oedd y pwnc llosg oedd yn milwrio yn erbyn fy naliadau (yr oeddwn tan hynny, yn credu eu bod yn ryddfrydol i'r eithaf). Roeddwn wedi mynd ymlaen ac ymlaen yn erbyn imperialaeth, a thros ddemocratiaeth a chenedlaetholdeb rhyddfrydol, ond mi bwyntiodd Dave Sullivan (y darlithydd) allan (fel 'devil's advocate'), os felly, onid oedd gan brotestaniaid y dalaith (Ulster) hawl moesol a democrataidd i'w safiad, gan eu bod yn y mwyafrif, yn grwp diwylliannol a chrefyddol arwahan ac - a dyma'r pwynt pwysig - yn byw yno ers cannoedd o flynyddoedd. Dim bwys faint o ddadleuon o safbwynt rhyddfrydol oeddwn yn dyrchu i fyny, doedd dim dianc rhag y pwynt yma o gwbl, heb gydnabod nad oedd fy nadl yn un gwbl rhyddfrydol, felly, ond yn hytrach yn un genedlaetholgar (er rhyddfrydol-ish).
Mae Kosofo - a Quebec - yn feysydd cymleth sydd yn llawn o drapiau eidiolegol tebyg! Felly gwell imi wneud tactical retreat o'r ddadl 'ma!